Dangos 2 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig Welsh poetry -- 19th century
Rhagolwg argraffu Gweld:

Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau

  • GB 0210 CYFANS
  • Fonds
  • 1887-2019 (gyda bylchau)

Cyfansoddiadau amrywiol a gyflwynwyd i gystadlaethau llenyddol a cherddorol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1887-2019. Yn eu plith ceir awdlau, pryddestau, cywyddau, englynion, englynion ysgafn, baledi, sonedau, straeon byrion, blogiau, llên meicro a dramâu. Ceir gweithiau ar gyfer y Fedal Ryddiaith, Gwobr Daniel Owen, Ysgoloriaethau Emyr Feddyg a Geraint Morris, ynghyd ag emyn-donau a chyfansoddiadau Tlws y Cerddor a chyfansoddi dawns. Cyflwynwyd cystadlaethau i ieuenctid a chystadleuaeth y gadair a thlws rhyddiaith i ddysgwyr ac i'r rhai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes. = A variety of literary and musical compositions entered at National Eisteddfodau, 1887-2018, including odes and poetry in free metre, ballads, short stories, blogs, micro literature and plays. Entries for the Prose Medal, Daniel Owen Memorial Prize, Emyr Feddyg and Geraint Morris Scholarships, together with musical compositions such as the Musicians' Medal, hymn-tunes and dance composition are also included. Competitions for young people, Welsh learners including a chair and prose competition and a competition for those who have lived in Patagonia throughout their lives have been introduced.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Papurau J. W. Jones

  • GB 0210 JWJNES
  • Fonds
  • 1759-1954 (crynhowyd [1920au cynnar?]-1954)

Gohebiaeth, barddoniaeth, rhyddiaith a phapurau teuluol, yn ymwneud â J. W. Jones, 1878-1954, a'i dad, 'Glan Barlwyd', 1866-1917; deunydd a gasglwyd gan J. W. Jones yn ymnweud ag unigolion a sefydliadau yn ardal Blaenau Ffestiniog, gan gynnwys gohebiaeth, barddoniaeth a phapurau eraill o eiddo 'Gwilym Deudraeth', 1917-1939, 'Elfyn', 1874-1917, Y Parch. R. R. Morris, 1883-1933, 'Alafon', 1875-1915, 'Llifon', 1899-1916, 'Isallt', 1887-1913, a 'Glyn Myfyr', 1893-1937; llythyrau at John Daniel Davies yn rhinwedd ei swydd fel golygydd Y Rhedegydd, 1930-1942; barddoniaeth a phapurau eraill o eiddo T. Gwynn Jones, 1910-1944; barddoniaeth, [1840]-1940, gan amryw feirdd, yn cynnwys Hedd Wyn ac R. Williams Parry; deunydd rhyddiaith amrywiol, peth ohono wedi'i gyhoeddi yn Y Drysorfa ac yn Y Rhedegydd, 1879-1954; llawysgrifau cerddorol, 1876-[c. 1934]; beirniadaethau eisteddfodol, 1870-1939; llyfrau lloffion yn cynnwys torion o'r wasg, [c. 1879]-1940; dyddiaduron, 1864-1935; cofnodion chwareli llechi Blaenau Ffestiniog, 1868-1951; amryw gyfrifon a llyfrau cyfrifon yn ymwneud â gwahanol fusnesau a sefydliadau, 1784-1932; cofnodion yn ymwneud ag eglwysi'r Methodistiaid Calfinaidd, 1840-1951, gan gynnwys rhai Bethel, Tanygrisiau, [1840x1945]; pregethau a nodiadau crefyddol,1846-1952; deunydd printiedig yn cynnwys effemera etholiadol, marwnadau, baledi, carolau ac emynau, 1820-1948; a gweithredoedd a dogfennau yn ymwneud â siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Dinbych, 1759-1947. = Correspondence, poetry, prose and family papers, relating to J. W. Jones, 1878-1954, and to his father, 'Glan Barlwyd', 1866-1917; material collected by J. W. Jones relating to individuals and organizations in the Blaenau Ffestiniog area, including correspondence, poetry and other papers of 'Gwilym Deudraeth', 1917-1939, 'Elfyn', 1874-1917, Rev. R. R. Morris, 1883-1933, 'Alafon', 1875-1915, 'Llifon', 1899-1916, 'Isallt', 1887-1913, and 'Glyn Myfyr', 1893-1937; letters to John Daniel Davies as editor of Y Rhedegydd, 1930-1942; poetry and other papers of T. Gwynn Jones, 1910-1944; poetry, [1840]-1940, by various poets, including Hedd Wyn and R. Williams Parry; various prose material, some of which was published in Y Drysorfa and Y Rhedegydd, 1879-1954; musical manuscripts, 1876-[c. 1934]; eisteddfod adjudications, 1870-1939; scrapbooks containing press cuttings, [c. 1879]-1940; diaries, 1864-1935; records of Blaenau Ffestiniog slate quarries, 1868-1951; various accounts and account books relating to various trades and organisations, 1784-1932; records relating to Calvinistic Methodist churches, 1840-1951, including those of Bethel, Tanygrisiau, [1840x1945]; sermons and religious notes, 1846-1952; printed material including electoral ephemera, elegies, ballads, carols and hymns, 1820-1948; and deeds and documents relating to Caernarfonshire, Merionethshire and Denbighshire, 1759-1947.

Jones, J. W. (John William), 1883-1954.