Bu ef a'i wraig am bythefnos o wyliau gyda'r mab a'r teulu yn Bowdon. Gobeithio y ceir hanes y daith i Malta yn llawn ryw ddydd. Bu'n meddwl amdani yn ystod ei hymweliad â'r Eidal a bedd ei brawd ym Malta.
Diolch am gyfrol gyntaf Taliesin. Mae ei gynnwys braidd yn siomedig ar wahân i stori fer KR ["Cathod mewn Ocsiwn"]. Hon yw ei stori orau hyd yn hyn, y dyfnaf a'r mwyaf treiddgar. Nodi dau fai sydd ar y stori - ei theitl ac un ymyriad ar ran yr awdur. Nid yw cyfraniad Bobi Jones yn gweddu i'r gyfrol [adolygiad ar Canu Taliesin Ifor Williams]. Sôn am anfon telegram Cymraeg at KR i'r Eisteddfod a'r swyddog yn credu mai un tramor ydoedd. Hoffodd ei herthygl ar hen bafiliwn [Caernarfon, yn y Western Mail, 10 Awst 1961, t. 7]. Arferai ewythr iddo fynd yno o Dal-y-sarn i glywed Paderewski.
Bu ar wyliau yn yr Eidal a cholli ei galon yn llwyr i'r wlad honno. Diolch am ei llythyr yn canmol Y Nos, Y Niwl a'r Ynys. Yr oedd yn bleser iddo ei chyflwyno yng nghyfarfod y Cymmrodorion yn y Rhos a medru talu diolch cyhoeddus iddi am yr holl oriau o fwynhad a gafodd ers iddo ddarllen O Gors y Bryniau yn yr ysgol. Mae'n edrych ymlaen at sgwrs radio y maent i gymryd rhan ynddi ym mis Tachwedd.
Diolch am anrheg pen blwydd. Sôn am salwch KR a marwolaeth yr Athro [J. E.] Daniel. Bu'n gwylio drama Saunders Lewis y noson gynt [Excelsior] a chredu ei bod yn wych. Hanes cinio Gwyl Ddewi yn Neuadd Plasdraw. Saesneg/English.
Drwg ganddi ddeall am salwch KR. Mae'n anfon mêl ati er mwyn ei chynorthwyo i wella. Trafod y ffaith fod drama Saunders Lewis wedi ei diddymu gan y BBC oherwydd cwynion gan Aelod Seneddol. Achwyn bod cynllun ar droed i symud cofeb Caradog o Sgwâr Victoria, Aberdâr. Saesneg/English.
Holi am iechyd Kate Roberts. Sôn am [Tywyll Heno]. Sôn am ei damwain ffordd. Mae wedi ysgrifennu gwerthfawrogiad o waith Dr Ernest Jones ac adolygiad ar gofiant y Marquis de Sade. Trafod eu hwyrion a'u hanallu i siarad Hwngareg. Sôn am ei hiraeth am Hwngari. Cafodd garreg fedd ar gyfer bedd ei gwr gydag arysgrif Hwngareg arni. Saesneg/English.
Mae'n ysgrifennu ar ran yr Academi ynglyn â sylwadau Bobi Jones gan iddo ei brifo hithau yn Y Faner. Mae'n hyderu y gwnaiff Iorwerth C. Peate dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl ac aros yn Gadeirydd yr Academi. Cafwyd arweinydd sicr yn Iorwerth C. Peate a phrofodd Bobi Jones fod ganddo allu i drefnu. Mae Bobi Jones "yn berwi drosodd o ynni ac [nid] yw'n hapus heb fod yn ysgrifennu o hyd, ond [nid] yw'n meddwl digon cyn anfon ei waith i'r wasg". Ni ddylid dinistrio'r Academi hithau wedi cychwyn mor dda.
Mae wedi mwynhau darllen Tywyll Heno yn fawr ac wedi ei adolygu ar gyfer Lleufer. Mae'r adolygiad yn un llym a thybiodd mai'r peth cwrtais oedd ei rhybuddio. Crybwyll bod brychau iaith yn y llyfr y byddai hi yn eu condemnio yng ngwaith rhywun arall. Ni all gwyno os bydd i KR ddigio wrtho.
Sôn am ddosbarth nos sydd ganddo yn Llandudno. Cawsant flas arbennig ar Ffair Gaeaf yn y cyfarfod diwethaf. Mae'n cael mwynhad anghyffredin o ail-ddarllen ei gwaith.
Mae newydd ddarllen proflen Tywyll Heno ac ysgrifennodd bwt arni ar gyfer ei golofn yn Barn [Barn, rhif 2, t 32]. Mae'n credu ei bod yn stori wych. Dealla nad yw Islwyn Ffowc Elis yn cytuno. Nid yw'r nofel yn ymosodiad ar Ymneilltuaeth. Hoffai pe bai gan yr Eglwys yng Nghymru lenor i wneud yr un gymwynas â hi ag a wnaeth KR i'w henwad ei hunan.
Diolch am Tywyll Heno, treuliodd ddiwrnod cyfan yn darllen y gyfrol yn araf a phwyllog. Roedd y stori yn gafael. Dyma un o'i chreadigaethau mwyaf. Bwriada ysgrifennu amdani yn Seren Gomer ym mis Mawrth.
Mae'n diolch am Tywyll Heno. Mae'r cynnwys yn berthnasol gan ei fod yn ymgeisydd am y weinidogaeth gyda'r Hen Gorff. Mae'n rhyfeddu at ei gwybodaeth am fywyd y mans. Cafodd flas ar Y Byw sy'n Cysgu wrth astudio am y dystysgrif uwch.
Canmol [Tywyll Heno]. Mae'n adlewyrchu'r dyfnder a'r dwyster profiad a'r sensitifrwydd gweledigaeth na cheir eu hamgenach yn unman yn ein llên, ond a geir dro ar ôl tro yng ngwaith KR. Trefnu cyfarfod o'r Academi ac awgrymu "Bwrw Golwg yn Ôl" yn destun i KR siarad arno.
Canmol ysgrif goffa KR ar Griffith John Williams. Os bu dyn erioed a anwybyddwyd gan y 'Sefydliad' Griffith John Williams oedd hwnnw. Darllen ei ddarlith radio i Mrs Williams oedd y peth olaf a wnaeth a chael strôc farwol mewn eiliadau wedyn. Hydera y gwêl y BBC yn dda i'w chyhoeddi er coffa amdano. Y ddarlith hon fydd yr unig beth yn Saesneg ar 'Iolo Morganwg'. Traddododd ddarlith Saesneg ar Iolo yn yr Amgueddfa rai blynyddoedd ynghynt a dywedodd Dilwyn John mai honno oedd y ddarlith orau a glywodd yn ei fywyd. Bu'n gyfaill mynwesol i Iorwerth C. Peate ac mae ei fywyd yn ofnadwy o wag hebddo.
Y mae ysgrif goffa KR i G. J. Williams yn un o'r goreuon a ddarllenodd erioed, yn llawn angerdd a dwyster teimlad. Dyn wedi ei feddiannu'n llwyr gan ei gariad at Gymru ydoedd. Bu D. J. Williams a G. J. Williams yn Aberystwyth yr un pryd. Ymateb i Tywyll Heno. Beirniadu Barn am awgrymu na wêl neb o fewn can mlynedd y fath beth â hunanreolaeth yng Nghymru. Canmol Nesta Harries yn darllen Te yn y Grug ar y radio bob wythnos.
Diolch i KR am ei geiriau caredig [ynglyn â Thryweryn]. Gwyr fod KR wedi dioddef ac aberthu llawer dros Gymru. Y mae llafurio'n ddygn ac yn ddiflino fel y gwnaeth KR o ddydd i ddydd yn golygu mwy o aberth nag un weithred bendant, ramantus, boed yn Mhen-y-berth neu yn Nhryweryn.