- 2614.
- File
- 1939x61.
Part of Papurau Kate Roberts
Cyfrol o ddrafftiau rhai o weithiau Kate Roberts wedi eu hysgrifennu mewn hen lyfr archebion ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, 1939. Ceir drafft cynnar o ddechrau Stryd y Glep (Dinbych, 1949); drama radio mewn pedair pennod yn dwyn y teitl "Modryb a Nith", a drafft o'r ddrama radio "Y Gwas" a ddarlledwyd yn 1961. Yng nghefn y gyfrol ceir nodiadau ar gyfer stori fer "Y Tri" a gyhoeddwyd yn Thomas Parry (gol), Y Ddolen (Lerpwl, 1946), tt. 88-91. 154 Tt.