Print preview Close

Showing 105 results

Archival description
Only top-level descriptions File
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Pregethau Gwilym Hiraethog

  • NLW MS 24028A.
  • File
  • 1837-1838

Cyfrol o bregethau, 1837-1838, yn llaw y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog). = A volume of sermons, 1837-1838, in the hand of the Rev. William Rees (Gwilym Hiraethog).
Mae'r pregethau yn bennaf o'r Testament Newydd, ynghyd ag ambell un o Lyfrau'r Salmau a'r Diarhebion, ac eraill. Perthyn y gyfrol i gyfnod Rees yn weinidog ar eglwys Annibynnol Lôn Swan, Dinbych; rhestrir y pregethau a draddodwyd ganddo, Chwefror 1837-Rhagfyr 1838, ar tt. 188-190 (testun â'i wyneb i waered). = The sermons are taken mainly from the New Testament, along with a few from the Book of Psalms, Book of Proverbs and others. The volume relates to Rees's time as the minister of Swan Lane Independent church, Denbigh; the sermons preached by him, February 1837-December 1838, are listed on pp. 188-190 (inverted text).

Rees, William, 1802-1883

Papurau'n ymwneud â T. Gwynn Jones,

  • NLW ex 2437.
  • File
  • [1958]-[1971].

Taflen gwasanaeth dadorchuddio carreg goffa T. Gwynn Jones, 25 Hydref 1958, a dathlu ei ganmlwyddiant, 9 Hydref 1971, yn Betws yn Rhos, ynghyd â llungopïau o lythyrau oddi wrth y llenor.

Llyfr Cywyddau

  • NLW MS 24175B.
  • File
  • 1750-[1752]

Cyfrol, 1750-[1752], yn llaw Edward Llwyd, Llundain, yn cynnwys copïau o wyth deg pum cerdd, cywyddau yn bennaf. Ymysg y beirdd a gynrhychiolir mae Dafydd Nanmor (5), Doctor John Cent (7), Rhys ap Ednyfed (2), Guto'r Glyn (6), Dafydd ap Gwilym (4), Syr Dafydd Trefor (2), Lewis Glyn Cothi (4), Wiliam Llŷn (3), Tudur Penllyn (2), Bleddyn Fardd (5), Meilir Brydydd (2), Llywarch Brydydd y Moch (2), Lewys Môn (2), Simwnt Fychan (2), Siôn Tudur (7), Edward ap Ralph (2) a Iolo Goch (2). = A volume, 1750-[1752], in the hand of Edward Llwyd, London, containing copies of eighty-five poems, mainly cywyddau. Amongst the poets represented are Dafydd Nanmor (5), Doctor John Cent (7), Rhys ap Ednyfed (2), Guto'r Glyn (6), Dafydd ap Gwilym (4), Syr Dafydd Trefor (2), Lewis Glyn Cothi (4), Wiliam Llŷn (3), Tudur Penllyn (2), Bleddyn Fardd (5), Meilir Brydydd (2), Llywarch Brydydd y Moch (2), Lewys Môn (2), Simwnt Fychan (2), Siôn Tudur (7), Edward ap Ralph (2) and Iolo Goch (2).
Mae'n debyg i'r gyfrol gael ei ailddefnyddio fel llyfr nodiadau (gw. t. 251) ond oherwydd colled nifer o ddalennau ychydig iawn o olion o'r fath ddefnydd sydd wedi goroesi. Mae ychydig nodiadau mewn pensil ar tt. 247, 250-251 a thu mewn i'r clawr cefn mewn llaw diweddarach. = The volume was apparently reused as a 'Mamarandam Boock' (see p. 251) but due to the loss of several leaves little trace of such use remains. A few notes in pencil on pp. 247, 250-251 and inside the back cover are in a later hand.

Dafydd Nanmor, active 1450-1490

Results 101 to 105 of 105