Dangos 5987 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil / File
Rhagolwg argraffu Gweld:

Ymatebion 2

Casgliad o ymatebion i'r Neges o UDA, Norwy, iaith Esperanto, Yr Almaen, Trafodaethau gyda'r Cyfieithwyr a'r neges wedi ymddangos mewn cylchgronnau amrywiol.

Yr Urdd ar Ynys Enlli

Ffeil yn cynnwys casgliad o drafodaethau ynglŷn â sefydlu Canolfan i'r Urdd ar Ynys Enlli - deiseb, papurau newydd a llythyron.

CND Cymru

Aberystwyth Peace Network Letter. Posteri a thaflenni'r Ymgyrch Wybodaeth gan y CND. 'Yr Urdd a'r Ymgyrch Diarfogi Niwclear'. 'Yr Urdd a'r Bom'. Goheibiaeth rhwng yr Urdd a CND Cymru..

Y Fordaith Gymraeg 1933

Dyddiadur wedi ei dderbyn yn rhodd i'r Urdd gan nith Miss Myfi Edwards, am ei chyfnod ar Fordaith yr Urdd ar yr Orduna i Norwy. Hanes y daith a lluniau.

Campau Cymru 82

Copi o Campau Cymru 82, llythyrau wedi eu hanfon gan aelodau'r Urdd i ddangos eu campau. Hysbysebu aelodau i gymryd rhan.

Aberbiga

Copi o rhentol rhwng Syr W. W. Wynn ac Arthur Bennett Owen yn ymwneud ag Aberbiga ym mhlwyf Trefeglwys. Nodir enwau caeau Aberbiga sydd bellach o dan Llyn Clywedog.

Corau ardal Llanuwchllyn

Ffotograffau o Gôr Plant Llanuwchllyn gyda Mrs Beryl Davies, Post, 1952-3; Côr Cymysg Llanuwchllyn, 1952; Eisteddfod y Llungwyn, Llanuwchllyn, 1953; parti deulais Llanuwchllyn, buddugol yn Eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd yn Y Bala, 1954, a hyfforddwyd gan Emrys a Hannah Bennett Owen; parti merched Aelwyd Llanuwchllyn, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caernarfon, 1956; Parti Aelwyd Llanuwchllyn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Rhydaman, 1957, yr arweinydd oedd Emrys Bennett Owen; Côr Aelwyd Llanuwchllyn, 1958-9; a Pharti Merched Llanuwchllyn, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Dolgellau, 1960.

Parti Aelwyd Aberystwyth

Parti Aelwyd Aberystwyth cyn iddynt deithio i ganu i'r Albert Hall, Llundain , Mawrth 1962. Emrys Bennett Owen oedd yr arweinydd. Ymhlith y cantorion yr oedd Cledwyn Fychan, John Davies (T. J. Davies) a Peter Hughes Griffiths.

Canlyniadau 3301 i 3320 o 5987