Showing 3 results

Archival description
Only top-level descriptions Evans, Meredydd
Print preview View:

Nodiadau ymchwil Dr Meredydd Evans ar bapurau Dr J. Lloyd Williams

  • NLW Facs 973
  • File
  • [1980x2000]

Llungopïau o nodiadau ymchwil y Dr Meredydd Evans ar bapurau'r Dr J. Lloyd Williams (1854-1945), botanegydd a cherddor. Seiliwyd y nodiadau ar eitemau 1-145 yn y rhestr a baratowyd, [1949], o'r llawysgrifau a phapurau a dderbyniwyd gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fuan ar ôl marw J. Lloyd Williams yn 1945. Disodlwyd y rhestr hon bellach gan Dr J. Lloyd Williams Music MSS and Papers, 2004, sydd yn cynnwys y papurau a dderbyniwyd yn 1945/6 a hefyd ychwanegiadau diweddarach.

Evans, Meredydd

Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney

  • GB 0210 MERLIS
  • Fonds
  • [1940x2015]

Mae’r archif yn cynnwys papurau ymchwil cerddorol, yn bennaf yn ymwneud â chanu gwerin; sgriptiau radio a theledu; cyfieithiadau a chyfansoddiadau cerddorol (trosglwyddwyd tapiau gweledol a sain i AGSSC); llythyrau at Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a chopïau o lythyrau oddi wrthynt, 1956-2015; a phapurau’n ymwneud â diddordebau Meredydd Evans ym meysydd athroniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ynghyd â dogfennau’n ymwneud â’i ran mewn ymgyrchoedd tros yr iaith Gymraeg, yn arbennig felly ym maes darlledu.

Evans, Meredydd

Papurau Gweithgor Deddf Newydd yr Iaith Gymraeg,

  • NLW ex 2639.
  • file
  • 1973, 1980-1990.

Papurau, 1973-1990, yn ymwneud â sefydlu gweithgor o dan gadeiryddiaeth yr Athro Dafydd Jenkins, Aberystwyth, i lunio a phwyso am Ddeddf Iaith Gymraeg newydd yn ystod y 1980au. Yr oedd y rhoddwr J. Cyril Hughes a Dr Meredydd Evans yn gweithio fel ysgrifenyddion ar y cyd. Mae'r papurau'n cynnwys cofnodion cyfarfodydd, gohebiaeth a phapurau eraill yn ymwneud â'r gweithgor. = Papers, 1973-1990, relating to establishing a working party chaired by Professor Dafydd Jenkins, Aberystwyth, to press for a new Welsh Language Act in the 1980s. The donor J. Cyril Hughes and Dr Meredydd Evans were joint secretaries. The papers include minutes of meetings, correspondence and other papers relating to the working party.

Hughes, J. Cyril.