Dangos 3701 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Thomas Gwynn Jones Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Papurau Thomas Gwynn Jones

  • GB 0210 TGWYNNJON
  • Fonds
  • 1621-1985 (crynhowyd 1871-1985)

Papurau T. Gwynn Jones, 1871-1949, yn cynnwys: gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau oddi wrth amrywiaeth eang o ffigurau llenyddol ac academaidd; cerddi a phapurau llenyddol eraill, yn cynnwys adysgrifau ac arnodiadau gan T. Gwynn Jones o waith gan awduron canoloesol a modern, a deunydd, [17 gan.]-[20 gan.], a gasglwyd ganddo neu a roddwyd iddo; papurau academaidd, yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei lyfrau ac erthyglau, cofiannau a mynegeion i'w waith ei hun a gwaith pobl eraill, a nodiadau bywgraffyddol ar lawer o ffigurau llenyddol; cyfieithiadau; darlithoedd ac anerchiadau, yn cynnwys nodiadau; sgriptiau radio; adolygiadau llyfrau; gwahanlithiau; torion o'r wasg; dramâu, beirniadaethau eisteddfodol, deunydd yn ymwneud â'i Dysteb yn 1944; llongyfarchiadau ar ei CBE yn 1937; a dyddiaduron, 1927-1947, a phersonalia arall; ceir hefyd papurau teuluol, 1621-1871, gan gynnwys gohebiaeth, dau Feibl teuluol, a llythyrau, 1949-1985, at deulu Jones, yn ymwneud yn enwedig â'i fywyd a'i waith, a chofiannau iddo. = Papers of T. Gwynn Jones, 1871-1949, comprising: correspondence, including letters from a wide variety of literary and academic figures; poems and other literary papers, including transcripts and annotations by T. Gwynn Jones of works by medieval and modern authors, and material, [17 cent.]-[20 cent.], collected by him or given to him; academic papers, including notes for his books and articles, bibliographies and indexes for his own and other works, and biographical notes on many literary figures; translations; lectures and addresses, including notes; radio scripts; book reviews; offprints; press cuttings; plays; eisteddfod adjudications; material relating to his Testimonial in 1944; congratulations on his CBE in 1937; and diaries, 1927-1947, and other personalia; also included are family papers, 1621-1871, including correspondence, two family bibles, and letters, 1949-1985, to Jones's family, especially concerning his life and work, and memorials to him.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Papurau ychwanegol a fu ym meddiant Dr David Jenkins

Papurau ychwanegol T. Gwynn Jones yn cynnwys llythyrau a dderbyniwyd ganddo, 1904-1948; llythyrau oddi wrtho, 1902-1948; llythyrau teuluol, 1935-1944; llythyrau a anfonodd at John Ballinger, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1908-1926; llungopïau o'i lythyrau a gedwir ym Mhrifysgol Cymru-Bangor, 1902-1944; papurau personol, 1899-1947; a phapurau amrywiol, 1904-1985.

Rhodd Awst 1960

Papurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1960-61, tt. 31-32. Trefn: Gohebiaeth (B 1-308); Papurau llenyddol amrywiol (B 309-324); Cyfieithiadau (B 325-327); Deunydd mewn Gwyddeleg (B 328-331); Adysgrifau (B 332-339); Darlithiau ac anerchiadau (B 340-481); Sgriptiau radio ac adolygiadau ar lyfrau (B 482-494); Gwahanlithoedd a thoriadau o'r wasg (B 495-509); a Phapurau amrywiol (B 510-524).

Rhoddion Awst a Rhagfyr 1961

Y rhan o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst a Rhagfyr 1961. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1961-2, tt. 29-30. Trefn: Cerddi mewn llawysgrif (C 1-16); Cyfieithiadau (C 17-24); Deunydd academaidd, dramâu, cyfieithiadau ac ysgrifau etc. (C 25-37); Rhagymadroddion, gweithiau Gwyddelig ac adysgrifau (C 38-54); Amrywiol, darlithoedd ac anerchiadau (C 55-98); Adolygiadau o lyfrau (C 99-105); Barn ar draethodau MA a phapurau yn ymwneud â'i waith yn Adran y Gymraeg (C 106-120); Beirniadaethau eisteddfodol (C 121-133); Esperanto (C 134-140); Personalia ac amrywiol (C 141-161); Adysgrifau o weithiau mewn Gwyddeleg (C 162-170); Eitemau wedi'u trosglwyddo o Adran y Llyfrau. Printiedig (C 171-177).

Rhodd Chwefror 1960

Y rhan o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Chwefror 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1959-60, tt. 31-2. Trefn: Gohebiaeth (A 1-1818); Papurau llenyddol amrywiol (A 1819-1857); Darlithiau ac anerchiadau (A 1858-2134); Deunydd printiedig (A 2135-2136).

Yr hyn a oedd yn weddill o'r casgliad cyntaf

Yn y rhestr hon fe ddisgrifir yr hyn a oedd yn weddill o'r casgliad cyntaf o bapurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), sef yr eitemau a hepgorwyd o restr Miss Norma G. Davies yn 1949, "A Schedule of Manuscripts and Correspondence presented by Dr Thomas Gwynn Jones, C.B.E.". Cyflwynwyd y casgliad gwreiddiol hwn o bapurau, llawysgrifau a gohebiaeth gan y bardd a'r ysgolhaig ei hun yn ystod 1943 a cheir disgrifiad ohonynt yn Adroddiad Blynyddol 1942-43, t. 22. Rhifwyd yr eitemau yn rhestr 1949 o G1 hyd G6892 a pharheir â'r gyfres rifau honno yma yn y rhestr hon.

Llyfr yn cynnwys drafft o 'Gwlad y Bryniau'

Llyfr poced yn cynnwys rhannau o ddrafft, [1909], yn llaw T. Gwynn Jones, o'i awdl 'Gwlad y Bryniau'.
Tynnwyd nifer fawr o ddalennau allan o'r gyfrol gan y bardd a'u cyfuno gyda dalennau newydd i greu'r drafft gorffenedig, sydd nawr yn NLW MS 24054A. Er mwyn gweld y drafft cynharach yn ei chyfanrwydd dylid felly astudio'r ddwy gyfrol ochr wrth ochr.

Canlyniadau 1 i 20 o 3701