Showing 691 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau file Welsh
Print preview View:

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc 12 bar y pen ...; cainc ar unrhyw fesur â naws y 'blues' iddi; emyn-donau; gosodiad o Weddi'r Arglwydd allan o'r Beibl Cymraeg Newydd; darn byr ar gyfer unrhyw adran o'r gerddorfa; darn tua phum munud o hyd ar gyfer côr amatur da ...; darn byr i biano - safon gradd 5 neu 6; trefniant o unrhyw alaw/on Cymreig (hen neu fodern) ar gyfer cerddorfa blynyddoedd 7-9; cyfres o amrywiadau ar y delyn a chylch o ganeuon gyda chyfeiliant piano neu waith ar gyfer offeryn â chyfeiliant piano (Tlws y cerddor).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc 5 curiad i'r bar; emyn-dôn i eiriau Tudur Dylan Jones; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; sgôr graffeg ar gyfer ei ddehongli gan unrhyw gyfuniad o berfformwyr; cylch o ganeuon ar gyfer llais a thelyn i eiriau Cymraeg gan fardd cyfoes; a threfniant o gân werin ar gyfer unrhyw gyfuniad o leisiau; cyfansoddiad i achlysur arbennig ar gyfer band pres neu ensemble pres.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer côr SATB ... yn adlewyrchu dathliad yr Eisteddfod yn 150 mlwydd oed (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Siôn Aled; darn ar gyfer côr SSA fyddai'n addas ar gyfer Nadolig gyda chyfeiliant piano neu organ; ffantasia i'r organ; trefniant o unrhyw alaw werin yn y llon ar gyfer côr TTBB; cyfansoddiad ar gyfer ensemble pres mewn arddull jazz (neu blues); a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng na chymer fwy na 8 munud (i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Gwaith i ensemble llinynnol (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau John Gwilym Jones; chwech o ganeuon unsain ar gyfer ysgolion cynradd; carol blygain i ddau neu dri llais yn y dull traddodiadol; gosodiad SATB neu TTBB gan ddefnyddio rhan o eiriau'r offeren draddodiadol (Cymraeg/Lladin); a chyflwyno ffolio sy'n cynnwys amrywiaeth o ddarnau gwreiddiol (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Alaw wedi'i threfnu i'r delyn; thema ac amrywiadau yn seiliedig ar alaw Gymraeg; gwaith tua 10 munud o hyd ar gyfer clarinet neu obo; rondo ar gyfer trwmped gyda chyfeiliant piano; dwy garol (gyda descant) gyda chyfeiliant gitâr; anthemau ar salm 121 gyda chyfeiliant organ; gosodiad o salm 46 i T.T.B.B. a darn i S.S.A yn addas i ysgolion uwchradd.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cân; cynllunio sgript ar gyfer fideo o unrhyw gân gyfoes; gosodiad cerdd dant unsain; alawon cerdd dant; trefniannau o unrhyw emyn-dôn Gymreig ar gyfer T.T.B.B a chyfeiliant piano; unawdau i unrhyw lais a chyfeiliant piano; ymdeithgan wladgarol ar gyfer band pres; emyn-donau; unawd i unrhyw lais a chyfeiliant piano; unawd ar gyfer offeryn cerddorfaol ... addas i'w ddefnyddio yng nghystadlaethau Rhuban Glas dros 19 oed.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Trefniant o ddwy alaw werin; cyfansoddi cainc (dan 25 oed); cyfansoddi cainc (agored); emyn-donau; anthemau S.A.T.B.; unawdau ar gyfer unrhyw lais gyda chyfeiliant piano; darn byr achlysurol ar gyfer bandiau ysgol; darn gwreiddiol ar gyfer côr T.T.B.B.; darn i'r piano; darn i'r organ a seiniau dramatig ar gyfer unrhyw lais gyda chyfeiliant piano (Tlws y cerddor).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-donau; unawdau ar gyfer merch neu fachgen dan 19 oed gyda chyfeiliant piano a fyddai'n addas ar gyfer cystadlaethau'r dyfodol; ensemble offerynnol ar gyfer rhwng 4 ac 8 o rannau; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer cerddorfa ysgol; gosodiad o ran o'r 'Gwynfydau'; cyfres neu gadwyn o ganeuon ar thema neu stori sy'n addas i blant Cyfnod Allweddol 2; darn byr i biano neu organ; beirniadaeth ar y darn byr i unrhyw offeryn cerddorfaol; cyfansoddiadau gwreiddiol ar gyfer SATB neu TTBB (Tlws y cerddor) a chyfansoddi cân i rai dan 30 oed.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-donau i eiriau'r Parch. John Gwilym Jones; emyn-donau cyfoes ar unrhyw salm; tair ffanfêr i ensemble pres yn addas ar gyfer seremoni; caneuon ar gyfer unrhyw lais mewn sioe gerdd; deuawd piano dan 25 oed o safon gradd 6 neu uwch; anthem i gôr SATB; trefniant newydd o garol draddodiadol; cylch o ganeuon ar gyfer unrhyw lais a fyddai'n addas ar gyfer unawdydd; symudiad ar gyfer cerddorfa hyd at 8 munud; Tlws y Cerddor; a chystadleuaeth i ddisgyblion ysgol uwchradd a cholegau trydyddol dan 19 oed - dau ddarn cyferbyniol, un lleisiol ac un offerynol.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau John Lewis Jones; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; darn ar gyfer côr SATB fyddai'n addas ar gyfer Nadolig gyda chyfeiliant piano/organ ac un offeryn arall; ffantasia i'r organ ar y dôn 'Groeswen'; darn gwreiddiol hyd at 4 munud o hyd ar gyfer grŵp offerynnol ysgol gynradd; deuawd wreiddiol gyda'r geiriau o ddewis y cyfansoddwr a fyddai'n addas i rai 12-16 oed; ymdeithgan ar gyfer band pres neu chwyth; unawd offerynnol ddigyfeiliant ddisgrifiadol neu destunol ... (Tlws y cerddor); a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng na chymer fwyn na 8 munud (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau'r Parchedig Denzil John; trefniant o alaw werin neu emyn-dôn ar gyfer meibion TTBB; gosodiad o unrhyw salm (neu adnod o salm) ar gyfer côr SATB; tri symudiad gwrthgyferbyniol; ymdeithgan i'r organ; cylch o ganeuon ar gyfer unrhyw lais ar eiriau gan fardd cyfoes; a chyfansoddiad gwreiddiol rhwng 4 a 6 munud o hyd i bedwar llais SATB gyda chyfeiliant piano neu organ (Tlws y cerddor).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau Tecwyn Owen; darn ar gyfer TTBB addas i'w berfformio mewn cystadleuaeth; casgliad o 6 o unawdau gyda chyfeiliant piano ar gyfer plant 9-11 oed; ensemble offerynnol mewn arddull jazz ar gyfer digyblion ysgol uwchradd; ensemble lleisiol/ooferynnol ar gyfer grŵp 4-8 mewn nifer; a 6 o ganeuon, un ar gyfer pob un o'r lleisiau yn y cystadlaethau dros 25 (Tlws y cerddor).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc 4 curiad i'r bar ag elfen 'blues' iddi; emyn-dôn i eiriau Robert Powell; cyfansoddi darn ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynau, i'w chwarae ar o leiaf 4 offeryn; cân mewn arddull sioe gerdd; cyfansoddiad gwreiddiol deniadol ar gyffer côr SA neu TB dan 19 oed; cyfansoddiad gwreiddiol ysgafn ar gyfer côr ieuenctid, fyddai'n addas i'w berfformio mewn cyngerdd poblogaidd; amrywiadau ar alaw werin Gymreig ar gyfer ensemble telynau; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer piano, addas i'w berfformio gan unigolyn ar radd 5 neu 6; Tlws y cerddor; dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol); a chyfansoddi cân (ieuenctid).

Results 181 to 200 of 691