Dangos 691 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Gwawr'; cerddi heb fod dros 200 llinell : 'Llynnoedd'; cerddi : 'Saunders Lewis'; cywydd : 'Y porthmyn'; cywyddau ysgafn : 'Diolch i'r anifeiliaid am gael benthyg y sioe'; englynion : 'Egin'; wyth englyn serch; hir a thoddeidiau : 'Cwm Hir'; sonedau : 'Bannau'; cerddi rhydd : 'Gororau'; penillion dychan : 'Y cyfryngau'; wyth triban : 'Y byd sydd ohoni' a baledi : 'Epynt'.

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Chwyldro'; pryddest neu ddilyniant o gerddi : 'Dolenni'; cywyddau : 'Lleisiau'; englynion : 'Cyfrifiadur'; englynion ysgafn : 'Bwgan'; hir a thoddeidiau : 'Aberpergwm'; telynegion : 'Cymod'; deg o gyfarchion ar ffurf penillion telyn; carol Nadolig; cerdd y gellir ei defnyddio ar gyfer côr cerdd dant; baled ysgafn : 'Y gêm' a cherdd yn y vers libre : 'Gwastraff'.

Rhyddiaith,

Nofel heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); stori ddeng munud addas i'r radio ar y thema celwydd golau; erthyglau ar waith unrhyw fardd neu lenor o fro'r eisteddfod; portread o wleidydd; casgliad o straaeon yn ymwneud â chwarae triciau (cystadleuaeth i'r rhai sydd wedi cael eu geni yn y Wladfa ac yn dal i fyw yno); pigion o ddyddiadur mis person ifanc yng Nghymru Fu neu yng Nghymru Fydd; casgliad o hanesion unrhyw fro ar un thema a llawlyfr i ddarpar rieni neu lawlyfr priodas.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Trefniant o ddwy alaw werin; cyfansoddi cainc (dan 25 oed); cyfansoddi cainc (agored); emyn-donau; anthemau S.A.T.B.; unawdau ar gyfer unrhyw lais gyda chyfeiliant piano; darn byr achlysurol ar gyfer bandiau ysgol; darn gwreiddiol ar gyfer côr T.T.B.B.; darn i'r piano; darn i'r organ a seiniau dramatig ar gyfer unrhyw lais gyda chyfeiliant piano (Tlws y cerddor).

Cystadlaethau eraill,

Dawns ar gyfer 4 cwpl yn addas ar gyfer dawnswyr o dan 15 oed i'w henwi 'Ffair y Bala'; cofnod mewn unrhyw gyfrwng/gyfryngau o gyfres o arbrofion yn ymwneud â lliw neu liwiau (disgyblion ysgol uwchradd); erthygl ar bwnc gwyddonol i bapur bro; erthygl addas i Y Gwyddonydd a chynllunio crys-T (cystadeuaeth Wa Roc).

Rhyddiaith,

Straeon byrion wedi eu selio ar ddigwyddiad hanesyddol; ysgrif : portead o unrhyw berfformiwr o dras Cymreig; pedair sgwrs ar batrwm 'Munud i feddwl'; dyddiadur dychmygol dros wythnos yr eisteddfod; stori fer dafodieithol; nofel fer neu gyfrol o straeon sy'n addas ar gyfer bechgyn yn eu harddegau a chasgliad o groeseiriau.

Rhyddiaith,

Straeon byrion (agored); casgliad o 10 stori fer ar ffurf llên meicro; erthygl ar naill ai: oblygiadau datblygiadau diweddar ym myd geneteg, neu: cynhesu byd eang; deuddeg llythyr rhwng dau/dwy yn ymateb i sefyllfa neu ddigwyddiad a chasgliad gwreiddiol o storïau neu sgyrsiau cyfoes i'w cyflwyno mewn gwasanaeth boreol ysgol uwchradd.

Canlyniadau 1 i 20 o 691