Showing 2917 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau Welsh
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cerdd dant: dau osodiad cyferbyniol; emyn-dôn i eiriau'r Parchedig John Pinion Jones; amrywiadau ar unrhyw garol plygain allan o lyfr Geraint Vaughan Jones ar gyfer y delyn; ensemble offerynnol, addas i'w berfformio yn yr arholiad TGAU; trefniant modern o unrhyw gân werin ar gyfer llais ac unrhyw gyfuniad o offerynnau; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; unawd wreiddiol yn defnyddio un o emynau Ann Griffiths; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer band pres; Tlws y Cerddor; a dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng (ieuenctid dan 19 oed).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Darn corawl di-gyfeiliant seciwlar (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Dorothy Jones; unawd i lais isel ar eiriau Cymraeg o ddewis y cyfansoddwr; trefniant o unrhyw gân werin Gymraeg neu gân ysgafn Gymraeg ar gyfer côr meibion TTBB gyda chyfeiliant piano; symudiad offerynnol yn seiliedig ar alaw neu alawon gwerin Cymreig i unrhyw gyfuniad o offerynau; a dau ddarn cyferbyniol mewn unrhyw gyfrwng (cystadleuaeth i ddisgyblion uwchradd a cholegau trydyddol 16-19 oed).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Alawon cerdd dant; anthem S.A.T.B. addas ar gyfer Côr Pensiynwyr; rhangan ddigyfeiliant i eiriau gan fardd cyfoes; cylch o bedair cân i unrhyw lais gyda chyfeiliant piano neu gitâr; pedwar symudiad cyferbyniol ar gyfer recorders a llinynnau; emyn-donau a chyfansoddi alaw â geiriau cyfoes yn y dull gwerin.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi alaw 12 bar o hyd (cerdd dant); papurau'n cyd-fynd â llunio tâp fideo o unrhyw gân gyfoes Gymraeg; emyn-donau i eiriau Tilsli; unawd i lais bâs; arwyddgan ar gyfer rhaglen deledu adloniant ysgafn; symudiad ar gyfer unrhyw offeryn; gwaith corawl S.A.T.B. (Salm 150); gwaith ar gyfer ysgolion cynradd; cân, tri lais, mewn unrhyw arddull; trefniant o ddwy alaw draddodiadol gwahanol eu natur ar gyfer gwahanol leisiau a chyfansoddi dwy ddawns gyferbyniol.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc; cân wreiddiol; emyn-donau; gwaith corawl SATB gyda chyfeiliant piano neu organ; rhangan ddigyfeiliant; cylch o chwe chân unsain neu ddeusain ar gyfer disgyblion ysgol gynradd neu blwyddyn 1 a 2 ysgol uwchradd; gwaith ar gyfer cerddorfa ysgol; trefniant o unrhyw emyn-dôn Cymreig; ymdeithgan ar gyfer band pres; unawd safonol i unrhyw lais, addas i'w berfformio mewn cystadlaethau lleisiol eisteddfodol; gwaith byr tua 5 munud o hyd ar gyfer piano, neu i unrhyw offeryn gyda chyfeiliant piano; gwaith byr ar gyfer piano, neu i unrhyw offeryn gyda chyfeiliant piano a threfniant TBarB neu TTBB di-gyfeiliant o un gân werin o gasgliad Lady Herbert Lewis.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc a gwneud gosodiad ohoni (dan 25 oed); cyfansoddi cainc (agored); cyfansoddi cân; emyn-donau; anthem â chyfeiliant organ ar gyfer côr S.A.T.B.; darn byr i'r organ; darn byr i biano; unawd ar gyfer llais a phiano; darn byr ar gyfer band jazz ysgol; darn byr ar gyfer cerddorfa a chanu baled draddodiadol â chysylltiadau â Morgannwg.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc 8 bar ar y pen yn y cywair mwyaf (dros 19 oed); emyn-donau; unawd ar gyfer unrhyw lais gyda chyfeiliant piano; ensemble offerynnol addas i'w berfformio yn yr arholiad ymarferol T.G.A.U.; anthem gyda chyfeiliant neu'n ddigyfeiliant ar gyfer y ganrif newydd; ensemble lleisiol neu offerynnol ar gyfer grŵp rhwng 4 a 7 mewn nifer; cyfres o ganeuon ar unrhyw thema addas i ddisgyblion rhwng 7 a 12 oed a chyflwyno ffolio o gyfansoddiadau amrywiol (ieuenctid).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau Rita Milton Jenkins; deuawd wreiddiol a fyddai'n addas i rai 12-16 oed gan fardd cyfoes; cyfansoddiad i achlysur arbennig ar gyfer band pres neu ensemble pres; trefniant o gân werin ar gyfer unrhyw gyfuniad o leisiau; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer cyfuniad o un llais a dau offeryn mewn unrhyw ardd (Tlws y cerddor); a dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi alaw 12 bar o hyd (cerdd dant); preliwd corâl ar gyfer organ; cyfres o symudiadau ar gyfer ffidil, clarinet a phiano; étude ar gyfer ffidil (digyfeiliant); deuawd ar gyfer unrhyw offeryn chwyth a phiano; gwaith byr 'A capella' ar gyfer côr S.A.T.B. neu S.S.A.A.; ymdeithgan ar gyfer ensemble ysgol; agorawd gerddorfaol heb fod dros 10 munud; emyn-donau; unawd ar gyfer telyn neu biano (ieuenctid 19-25 oed) a threfniant ar gyfer partïon gwerin o ganeuon gwerin penodol.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-donau; darn achlysurol i'r organ; darn byr neu agorawd ar gyfer cerddorfa ieuenctid; anthemau â chyfeiliant organ ar gyfer côr S.A.T.B.; darn byr ar eiriau Cymraeg ar gyfer côr T.T.B.B. ac organ; darn byr neu becyn o syniadau chwarae ar y pryd ar gyfer band jazz ysgol a darn byr i'r piano tua safon gradd 6.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfres o 3 gosodiad cerdd dant ar gyfer plant dan 12 oed (dan 25 oed); cyfansoddi cân (Adran Pow-wow); emyn-donau; darn ar gyfer un ai feiolin, fiola, sielo neu fas dwbl â chyfeiliant piano (Tlws y cerddor); darn i'r delyn; unawd safonol i unrhyw lais â chyfeiliant piano; darn digyfeiliant i S.A.T.B.; gwaith corawl i gôr ieuenctid S.A.T.B.; gwaith ar gyfer cerddorfa ieuenctid; traethawd, oddeutu 20,000 o eiriau, ar unrhyw agwedd ar hanes cerddoriaeth yng Nghymru o 1800 hyd heddiw; cadwyn o dair alaw werin wedi'u trefnu ar gyfer partïon a chyfansoddi dawns mewn unrhyw arddull.

Results 681 to 700 of 2917