Showing 691 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau file
Print preview View:

Cystadlaethau amrywiol,

Cystadlaethau i ddysgwyr; erthygl addas ar gyfer Y Gwyddonydd; erthygl ar unrhyw agwedd ar feddygaeth, addas i'w chyhoeddi yn Cennad; erthygl addas i'w chyhoeddi yn Cynefin; amlinelliad o sgript rhaglen deledu yn trafod unrhyw bwnc gwyddonol, meddygol neu dechnolegol ac amlinelliad o gynllun cadwraeth ar Ffarm Glanllynau.

Rhyddiaith,

Nofel fer (y fedal ryddiaith); tair stori fer yn darlunio ymateb tri pherson â chysylltiad agos ag ysgariad; storïau gwyddonias; ysgrifau golygyddol ar gyfer unrhyw bapur bro; dyddiaduron, dros gyfnod byr, person di-waith a chyfrolau : detholiad o nodiadau golygyddol Jennie Eirian Davies.

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Y daith'; dilyniant o gerddi : 'Arwyr'; englynion : 'Cwlwm'; cywyddau i ddathlu priodas neu ben-blwydd priodas; cerddi rhydd : 'Gwrthdaro'; sonedau : 'Lewis Valentine'; telynegion : 'Cyffwrdd'; tribannau beddargraff; hyd at ugain o benilion telyn mewn idiom gyfoes a chaneuon digri' yn null 'Dros ben llestri'.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi alaw 12 bar o hyd (cerdd dant); papurau'n cyd-fynd â llunio tâp fideo o unrhyw gân gyfoes Gymraeg; emyn-donau i eiriau Tilsli; unawd i lais bâs; arwyddgan ar gyfer rhaglen deledu adloniant ysgafn; symudiad ar gyfer unrhyw offeryn; gwaith corawl S.A.T.B. (Salm 150); gwaith ar gyfer ysgolion cynradd; cân, tri lais, mewn unrhyw arddull; trefniant o ddwy alaw draddodiadol gwahanol eu natur ar gyfer gwahanol leisiau a chyfansoddi dwy ddawns gyferbyniol.

Rhyddiaith,

Nofel hir heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy'n dal i fyw yn yr Ariannin (Fy nghapel i); tair ysgrif (thema 'Hau a medi'); pedair erthygl addas i gylchgrawn fel Llafar Gwlad; dyddiadur : 'Newid aelwyd'; portread newyddiadurol cyfoes a dwy bennod o nofel wyddonias i rai yn eu harddegau.

Rhyddiaith,

Nofel heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); straeon byrion : 'Dim ond heddiw ...' ; stori fer mewn tafodiaith; sgwrs neu ddarlith fer ysgafn; storïau ar gyfer gwasanaeth boreol mewn ysgol gynradd; llyfryn ym mhatrwm cyfres Llafar Gwlad ar Ffynhonnau Canolbarth Cymru; pigion o ddyddiadur mis (i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin) a nofel i blant 9-12 oed â chwaraeon yn gefndir iddi.

Drama,

Drama hir neu drioleg o ddramâu byrion (Tlws y ddrama); drama fer : comedi i'w perfformio gan actorion dan 26; rhaglen arbennig : sgript wreiddiol ar gyfer sioe lwyfan i ysgolion meithrin a throsi drama Gymraeg hir i un o ieithoedd cyfandir Ewrop ar wahân i'r Saesneg.

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Y môr'; casgliad o gerddi heb fod dros 200 llinell : 'Melodïau'; cywyddau : 'Un wennol ...'; englyn cydymdeimlad; englynion crafog : 'Bacha hi o'ma'; deg o gwpledi epigramatig; telynegion : 'Dawns'; wyth o dribannau : 'Gwaith'; cerddi rhydd : 'Ôl traed'; salmau : 'I'r cymanaswyr' a baledi: 'Cwango'.

Results 61 to 80 of 691