Showing 2917 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Rhyddiaith,

Nofel heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); stori ddeng munud addas i'r radio ar y thema celwydd golau; erthyglau ar waith unrhyw fardd neu lenor o fro'r eisteddfod; portread o wleidydd; casgliad o straaeon yn ymwneud â chwarae triciau (cystadleuaeth i'r rhai sydd wedi cael eu geni yn y Wladfa ac yn dal i fyw yno); pigion o ddyddiadur mis person ifanc yng Nghymru Fu neu yng Nghymru Fydd; casgliad o hanesion unrhyw fro ar un thema a llawlyfr i ddarpar rieni neu lawlyfr priodas.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Trefniant o ddwy alaw werin; cyfansoddi cainc (dan 25 oed); cyfansoddi cainc (agored); emyn-donau; anthemau S.A.T.B.; unawdau ar gyfer unrhyw lais gyda chyfeiliant piano; darn byr achlysurol ar gyfer bandiau ysgol; darn gwreiddiol ar gyfer côr T.T.B.B.; darn i'r piano; darn i'r organ a seiniau dramatig ar gyfer unrhyw lais gyda chyfeiliant piano (Tlws y cerddor).

Cystadlaethau eraill,

Dawns ar gyfer 4 cwpl yn addas ar gyfer dawnswyr o dan 15 oed i'w henwi 'Ffair y Bala'; cofnod mewn unrhyw gyfrwng/gyfryngau o gyfres o arbrofion yn ymwneud â lliw neu liwiau (disgyblion ysgol uwchradd); erthygl ar bwnc gwyddonol i bapur bro; erthygl addas i Y Gwyddonydd a chynllunio crys-T (cystadeuaeth Wa Roc).

Rhyddiaith,

Straeon byrion wedi eu selio ar ddigwyddiad hanesyddol; ysgrif : portead o unrhyw berfformiwr o dras Cymreig; pedair sgwrs ar batrwm 'Munud i feddwl'; dyddiadur dychmygol dros wythnos yr eisteddfod; stori fer dafodieithol; nofel fer neu gyfrol o straeon sy'n addas ar gyfer bechgyn yn eu harddegau a chasgliad o groeseiriau.

Rhyddiaith,

Straeon byrion (agored); casgliad o 10 stori fer ar ffurf llên meicro; erthygl ar naill ai: oblygiadau datblygiadau diweddar ym myd geneteg, neu: cynhesu byd eang; deuddeg llythyr rhwng dau/dwy yn ymateb i sefyllfa neu ddigwyddiad a chasgliad gwreiddiol o storïau neu sgyrsiau cyfoes i'w cyflwyno mewn gwasanaeth boreol ysgol uwchradd.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-donau; unawdau ar gyfer merch neu fachgen dan 19 oed gyda chyfeiliant piano a fyddai'n addas ar gyfer cystadlaethau'r dyfodol; ensemble offerynnol ar gyfer rhwng 4 ac 8 o rannau; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer cerddorfa ysgol; gosodiad o ran o'r 'Gwynfydau'; cyfres neu gadwyn o ganeuon ar thema neu stori sy'n addas i blant Cyfnod Allweddol 2; darn byr i biano neu organ; beirniadaeth ar y darn byr i unrhyw offeryn cerddorfaol; cyfansoddiadau gwreiddiol ar gyfer SATB neu TTBB (Tlws y cerddor) a chyfansoddi cân i rai dan 30 oed.

Results 2841 to 2860 of 2917