Showing 2917 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau John Lewis Jones; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; darn ar gyfer côr SATB fyddai'n addas ar gyfer Nadolig gyda chyfeiliant piano/organ ac un offeryn arall; ffantasia i'r organ ar y dôn 'Groeswen'; darn gwreiddiol hyd at 4 munud o hyd ar gyfer grŵp offerynnol ysgol gynradd; deuawd wreiddiol gyda'r geiriau o ddewis y cyfansoddwr a fyddai'n addas i rai 12-16 oed; ymdeithgan ar gyfer band pres neu chwyth; unawd offerynnol ddigyfeiliant ddisgrifiadol neu destunol ... (Tlws y cerddor); a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng na chymer fwyn na 8 munud (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol).

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Gollwng'; casgliad o lên meicro: 'Gwastraff'; ysgrif ar unrhyw agwedd o fyd chwaraeon; dyddiadur dynes ddwâd; pennod gyntaf cofiant/bywgraffiad; erthygl grafog; gohebiaeth rhwng dau berson o ddwy genhedlaeth; cardiau nabod (set o 30) ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn null cardiau Top Trumps a Dr Who; a chasgliad o sloganau slic.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau'r Parchedig Denzil John; trefniant o alaw werin neu emyn-dôn ar gyfer meibion TTBB; gosodiad o unrhyw salm (neu adnod o salm) ar gyfer côr SATB; tri symudiad gwrthgyferbyniol; ymdeithgan i'r organ; cylch o ganeuon ar gyfer unrhyw lais ar eiriau gan fardd cyfoes; a chyfansoddiad gwreiddiol rhwng 4 a 6 munud o hyd i bedwar llais SATB gyda chyfeiliant piano neu organ (Tlws y cerddor).

Results 2881 to 2900 of 2917