Print preview Close

Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Stori Fer "The Auction" yn llaw'r cyfieithydd Llewelyn Wyn Griffith, sef trosiad o'r stori fer "Cathod mewn Ocsiwn" gan Kate ...,

Stori Fer "The Auction" yn llaw'r cyfieithydd Llewelyn Wyn Griffith, sef trosiad o'r stori fer "Cathod mewn Ocsiwn" gan Kate Roberts a ymddangosodd yn Hyn o Fyd (Dinbych, 1964), tt. 65-75. Ar y cyfieithiad hwn gweler llythyr Llewelyn Wyn Griffith, dyddiedig 24 Medi 1964, rhif 1469 yn y casgliad hwn. Cyhoeddwyd "Cats at an Auction" (cyfieithiad gan Wyn Griffith) yn Gwyn Jones ac Islwyn Ffowc Elis (gol), Twenty-five Welsh Short Stories (Llundain: OUP, 1971), tt. 23-30. 17 Tt.

Stori Fer "Y Tri -Stori anorffenedig gan Kate Roberts" a gyhoeddwyd yn Y Ddolen: chweched llyfr anrheg, gol Thomas Parry ...,

Stori Fer "Y Tri -Stori anorffenedig gan Kate Roberts" a gyhoeddwyd yn Y Ddolen: chweched llyfr anrheg, gol Thomas Parry (Lerpwl: Hugh Evans dros Undeb Cymru Fydd, 1946), tt 88-91. Ar gefn y stori ceir y geiriau: "Ysgrifennwyd y stori hon dan amgylchiadau anodd". Gweler hefyd 2614 uchod. Tudalen 3 yn eisiau. 7 Tt.

Results 2301 to 2320 of 2413