Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

[Dienw],

Diolch am longyfarchion ar lwyddiant Robert's Wife [awdur St John Ervine (1883-1971), bu'r ddrama yn Theatr y Globe, Llundain o 1937 hyd 1939]. Nid yw yn hoffi barddoniaeth Medea, ond cafodd flas aruthrol ar y perfformiad. Gwnaeth Sybil Thorndike ryfeddodau gyda'i chlogyn. Roedd Candida yn ddiddim mewn cymhariaeth. Sôn am lyfrau [Winifred], Lady Fortescue. Awgrymu y bydd KR yn eu mwynhau. Hoffodd Father and Son [Edmund Gosse] yn fawr hefyd. Nid oes gan awdur y llythyr lawer o amser ar gyfer darllen. Mae wedi dechrau The Rains Came [Louis Bromfield, 1938]. Anghyflawn - (dalen o lythyr yn unig). Saesneg/English.

Drafft cynnar o'r nofel Traed mewn Cyffion (Dinbych, 1936) a anfonwyd gan KR i gystadleuaeth y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol ...,

Drafft cynnar o'r nofel Traed mewn Cyffion (Dinbych, 1936) a anfonwyd gan KR i gystadleuaeth y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1934 dan y teitl gwreiddiol "Suntur a Chlai" ac yn dwyn y ffugenw 'Y Foelfran'. Rhannwyd y wobr rhwng KR a Grace Wynne Griffith am ei nofel Creigiau Milgwyn. Mae 2610 yn cyfateb i wyth bennod gyntaf y llyfr, 2611 yn cyfateb i benodau naw i ugain, a 2612 i benodau un ar hugain i bedwar ar hugain, ynghyd â nodiadau rhydd i'w hymgorffori yn y gwaith. 2610 106 Tt. 2611 104 Tt. 2612 32 Tt. + 9 tt. yn rhydd.

Results 201 to 220 of 2413