Showing 2492 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Kate Roberts Welsh
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Stori Fer 'Er Mwyn yr Achos Da' gan Morris T. Williams a anfonwyd dan y ffugenw 'Morus Cyffin' i gystadleuaeth ...,

Stori Fer 'Er Mwyn yr Achos Da' gan Morris T. Williams a anfonwyd dan y ffugenw 'Morus Cyffin' i gystadleuaeth y Stori Fer yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937. Y beirniad oedd D. J. Williams, Abergwaun, a oedd yng Ngharchar Wormwood Scrubs, Llundain, ar adeg y beirniadu am ei ran yn y Tân yn Llyn. Ceir nodyn yn ei law ar ddiwedd y stori: "Stori wych. Byw byth bo'r 'Achos Da'! D.J." ac ychwanegwyd nodyn gan Lewis Valentine: "a felly, meddaf finnau, Fal!" Lluniwyd y stori gan Morris T. Williams er mwyn i D. J. Williams gael hanes yr etholiad yn sir Ddinbych pan safodd Morris T. Williams dros Blaid Cymru. Yn y stori ymladd dros achos dirwest y mae'r ymgeisydd.

Soned "Edifeirwch" o waith y Parchedig Richard Williams, Aberdâr (1869-1926). [Ysgrifennodd Kate Roberts goffâd iddo yn Y Traethodydd (1933), tt ...,

Soned "Edifeirwch" o waith y Parchedig Richard Williams, Aberdâr (1869-1926). [Ysgrifennodd Kate Roberts goffâd iddo yn Y Traethodydd (1933), tt. 13-19, yr oedd yn dad i Myfanwy [R. T.] Jenkins]. Ymddangosodd y soned yn rhifyn cyntaf Y Garreg Ateb, cylchgrawn Cymdeithas Cymrodorion Aberdâr.

Results 121 to 140 of 2492