Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Doris [Strick], yn Guildford

Balch o dderbyn ei llythyr er nad oedd y cynnwys yn galonnog iawn. Sôn am ffrind a adnabu yn Aber[ystwyth] sy'n byw yn y ty yn Kingston-upon-Thames a elwir yn Robin Hill gan Galsworthy yn y Forsyte Saga. Sôn am John Rowley a'i deulu a mynd ymlaen i drafod neuadd gymysg Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth. Sôn am Mrs Llewelfryn Davies. Sôn am berfformiad o "Pilgrim's Progress" yn Theatr y Werin. Trafod amgylchiadau ariannol. Beirniadu'r ysgolion cyfun mawr. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Doris Strick, yn Guildford

Daeth ar draws gerdyn a'i hatgoffodd o KR a bu'n siarad amdani fyth ers hynny. Gobeithio ei bod yn cofio am y dyddiau hapus a dreuliodd yn Y Swistir. Mae hi yn bedwar ugain. Gwelodd gip ohoni unwaith ar raglen deledu Gymraeg. Mae'n mynd i aduniad [myfyrwyr] Aber[ystwyth] bob Pasg ond bod ei chydnabod yn prinhau'n enbyd. Cafodd ei hethol yn llywydd cangen Llundain o'r Cyn-fyfyrwyr a dyfynnodd Alun Mabon "Aros mae'r mynyddau mawr" iddynt yn ei hunig araith. Atgofion am Aberdâr. Bydd yn mynychu'r aduniad yno hefyd ac yn galw gyda'i chydnabod. Saesneg/English.

Papurau Kate Roberts

  • GB 0210 KATERTS
  • Fonds
  • 1898-1985

Papurau Kate Roberts, 1866-1985, papurau llenyddol a gohebiaeth yn bennaf, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Saunders Lewis, 1923-1985 (a gyhoeddwyd yn Annwyl Kate, Annwyl Saunders, gol. gan Dafydd Ifans (Aberystwyth, 1992)), ac oddi wrth ei gŵr Morris T. Williams; gohebiaeth yn ymwneud â gwahanol aelodau o deulu Kate Roberts, 1911-1977; cardiau cyfarch, 1910-1985; darlithoedd,1914-[c. 1975]; papurau'r teulu, 1950-1985; dramâu, 1931-1969; dyddiaduron, 1939, 1944 a 1978-1983, drafftiau nofelau a storiâu byrion a phapurau'n ymwneud â chyfieithu rhai ohonynt i'r Saesneg; erthyglau a nodiadau cyffredinol, [c. 1937]-1974; erthyglau a nodiadau ar lenyddiaeth,1917-1973; cyfrifon Gwasg Gee, 1934-1953; papurau'n ymwneud ag Ysgol Gymraeg Dinbych, 1958-1964; nodiadau ysgol a choleg, 1904-1913; eitemau printiedig, 1898-1988; a phapurau Gwasg Aberystwyth, 1942-1944. Mae'r archif hefyd yn cynnwys grwpiau helaeth o bapurau Morris T. Williams a'u cyfaill E. Prosser Rhys. = Papers of Kate Roberts, 1866-1985, mainly literary papers and correspondence, including letters from Saunders Lewis, 1923-1985 (published in Annwyl Kate, Annwyl Saunders, ed. by Dafydd Ifans (Aberystwyth, 1992)), and from her husband Morris T. Williams; correspondence relating to various members of Kate Roberts's family, 1911-1977; greetings cards, 1910-1985; lectures, 1914-[c. 1975]; family papers, 1950-1985; plays, 1931-1969; diaries, 1939, 1944 and 1978-1983, drafts of novels and short stories and papers concerning the translation of some of them into English; articles and general notes, [c. 1937]-1974; articles and notes on literature, 1917-1973; Gwasg Gee accounts, 1934-1953; papers relating to the Welsh School at Denbigh, 1958-1964; school and college notes, 1904-1913; printed items, 1898-1988; and Aberystwyth Press papers, 1942-1944. The archive also includes extensive groups of the papers of Morris T. Williams and of their friend E. Prosser Rhys.

Roberts, Kate, 1891-1985

Gohebiaeth David Owen Roberts

Llythyrau, &c., ynglyn â David Owen Roberts, brawd Kate Roberts - ei wasanaeth yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ei glwyfo yn Salonika yn 1917 a'i farwolaeth ym Malta yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ynglyn â'i fedd ym Mynwent Filwrol Pieta, Malta, a chais i gael pensiwn milwrol i'w fam. Gweler hefyd gerdd goffa i David Owen Roberts o waith y bardd 'Tryfanwy' wedi ei fframio yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau 600.

'W',

7463 A. W. Wade-Evans; 7563-70 D. J. Williams (Abergwaun); 7571-94 D. J. Williams (Llanbedr); 7620-30 D. Matthew Williams (HMI); 7634-6 Dafydd Edmund Williams (brawd Morris T. Williams); 7659-63 Ffowc Williams; 7678-9 G[riffith] J[ohn] Williams; 7716 Ifor Williams; 7728 J. E. Caerwyn Williams; 7739-42 J. Lloyd Williams; 7743-44 J. O. Williams (Bethesda); 7779-80 [Morris T. Williams]; 7806-17 R. Bryn Williams; 7842-9 Stephen J. Williams; 7852-4 T. Ceiriog Williams; 7867-73 [W.] Crwys [Williams]; 7878-83 W. Gilbert Williams; 7885 [W.] Nantlais [Williams]; 7902 R. O. F. Wynne (Garthewin).

'T',

7255-7 Ben Bowen Thomas; 7272-3 Ceinwen H. Thomas; 7306 Evan Thomas (Gaiman); 7333 Jennie Thomas; 7343-4 Lili Thomas; 7351-3 'Awena Rhun' [Mrs M. H. Thomas].

Results 1 to 20 of 2492