Print preview Close

Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth [D.] Tecwyn [Lloyd], yng Nghaerfyrddin,

Mae'n edrych ymlaen at gael derbyn stori gan KR ar gyfer rhifyn Gorffennaf Taliesin. Annog KR i ysgrifennu at Waldo [Williams] sy'n wael iawn. Adrodd hanesyn am James Nicholas yn methu â deall cais Waldo i ddod â nyth aderyn o Ysgol Trecwn at erchwyn ei wely. Treuliai Waldo lawer o amser yn syllu arno a châi gryn gysur o wneud hynny. Awgryma James Nicholas mai galw'n ôl yr amser yr oedd yn briod yr oedd y nyth. Canodd bwt o gywydd i Linda, ei wraig a 'nyth' yw'r ddelwedd ganolog ynddo. Cyfeirio at y ffaith fod Euros Bowen wedi derbyn CBE ac awgrymu'n wamal y dylai'r Academi wneud casgliad i dalu am fatwn seremonïol iddo a chynnal seremoni i'w waldio ar ei ben-ôl!.

Llythyr oddi wrth Derec [Llwyd Morgan], ym Mhenrhyn-coch,

Anhwylderau. Trafod llythyr cydymdeimlad anarferol deimladwy a gafodd oddi wrth Islwyn [Ffowc Elis]. Trafod salwch Dr Mair Humphreys Jones, Brynsiencyn. Hanesyn am Elystan Morgan. Mae'n amau os y medr orffen y traethawd ar T. Gwynn Jones erbyn 1 Ebrill i'w anfon i Eisteddfod Bangor. Mae Jane [Edwards] yn paratoi cynllun nofel newydd.

Llythyr oddi wrth 'Tom' [Thomas Parry], ym Mangor,

Trafod ei iechyd. Yr oedd ef yn yr ysbyty adeg dathliadau pen blwydd KR. Diolch i KR am ganmol Blodeugerdd Rhydychen. Ar y pryd yr oedd swm y gwaith yn llawer iawn mwy nag yr oedd Gwasg Rhydychen yn fodlon ei ganiatáu. Er bod y Wasg yn gwrthod cyhoeddi heb gymorth ariannol, y mae'r llyfr yn dal i werthu'n dda ar ôl dau adargraffiad.

Llythyr oddi wrth [LL.] W[yn] G[riffith], yn Berkhamsted,

Diolch am esbonio teitl [Y Byw sy'n Cysgu]. Atgofion am Rostryfan. Cyngor y Celfyddydau sydd i'w dalu ef a dylai John Idris [Jones] dalu KR am gael cyfieithu [Y Byw sy'n Cysgu]. Er iddo orffen y gwaith ers misoedd, ni chafodd ef ei dalu hyd yn hyn. Maent yn addasu'r ty ar gyfer derbyn nwy naturiol y diwrnod hwnnw.

Llythyr oddi wrth Enid [Parry], ym Mangor,

Drwg ganddynt glywed am anffawd KR. Bu hithau dan y ffliw. Gobeithio galw acw i'w gweld ar ôl i'r dathliadau Gwyl Ddewi orffen. Bu Olwen a Dewi [Samuel] yno gan fod Llew, brawd Olwen Samuel, wedi cael triniaeth lawfeddygol.

Llythyr oddi wrth Derec [Llwyd Morgan], ym Mhenrhyn-coch,

Da ganddo ddeall ei bod wedi dychwelyd adref. Bu'n trafod ei gwaith yng Nghynhadledd Taliesin y diwrnod cynt. Gofyn a gaiff Jane [Edwards] gynnwys darn o sylwadau KR ar Bara Seguryd ar siaced lwch y nofel nesaf. Amgau copi o'i [gyfrol ar T. Gwynn Jones].

Llythyr oddi wrth [D.] Tecwyn [Lloyd], yng Nghaerfyrddin,

Mae'n falch o glywed bod KR wedi mwynhau darllen Ladi Gwladys a Phobl Eraill. Sôn am lythyr Jane Huws, Porthmadog, yn sôn am Lady Gwladys merch Syr Osmond Williams, Castell Deudraeth, a'i bod yn ei chofio'n dda. Sôn am ei dad, ei gymharu â'i ewyrth ["Llwyd o'r Bryn"]. Trafod yr eirfa a ddysgasai'n blentyn. Holi os oedd KR yn adnabod Ellis Evans, brodor o Ben-y-groes, a fu'n athro Cymraeg arno. Yr oedd ei wraig yn wyres i Michael D. Jones. Mae newydd orffen darllen cynnyrch cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Hwlffordd - 192 o ysgrifau rhwng pawb.

Results 201 to 220 of 2413