Print preview Close

Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Derwyn Jones, ym Mangor,

Cafodd gyfle i gywiro'r ffeithiau a anfonodd ati ar gyfer ei herthygl "Cychwyn y Stori Fer Gymraeg" a ymddangosodd yn Ysgrifau Beirniadol IV (Dinbych, 1969), tt 198-209. Bydd ei nodyn yn ymddangos yn y gyfrol nesaf [Ysgrifau Beirniadol V (Dinbych, 1970), tt 181-2]. Mae'n anfon copi o gân "Y Mochyn Du". Newidiwyd y geiriau gan T. Gwynn Jones yn fersiwn Gwynn, Llangollen. Mae'n anfon copi o'r "Blotyn Du" o Gylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Amgau copïau xerox o'r "Mochyn Du" a'r "Blotyn Du".

Llythyr oddi wrth Cassie [Davies], yn Nhregaron,

Crybwyll marwolaeth D. J. [Williams], yr amgylchiadau yn glo perffaith ar gylch crwn ei fywyd. Ni allodd ei chwaer, Neli, ymateb o gwbl i'r newydd am farwolaeth D. J., fe'i hatgoffwyd o ddiwedd stori "Henaint" KR yn O Gors y Bryniau. Peth enbyd iawn yw colli cof. Mae'n bwriadu mentro i angladd D. J. Williams er bod y tywydd yn wael.

Llythyr oddi wrth Gwyn [Thomas], ym Mangor,

Cafodd KR ei hethol yn Llywydd yr Academi Gymreig yn unfrydol. Hydera y bydd yn derbyn. Ei llongyfarch hefyd ar ymddangosiad Prynu Dol. Yr oedd ynddo symlrwydd cyfoethog y mae pob llenyddiaeth a phob celfyddyd yn ymgyrraedd ato, y symlrwydd sy'n dweud y gwir. Nodi pa mor hardd oedd diwyg y gyfrol a rhyfeddu na chafodd ei gwobrwyo am hynny'n unig.

Llythyr oddi wrth Derec [Llwyd Morgan], Jane ac Elin, yn Llandre,

Treuliodd lawer o'r gwyliau yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer rhaglenni ysgolion y BBC. Bu'n paratoi cyfrol o gerddi i'w chyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Rhydaman. Bwriada alw i'w gweld yn Ninbych cyn diwedd Mai. Hysbysebwyd ei swydd yn Adran y Gymraeg a chaiff wybod ymhen tair wythnos i fis os yw'n cael aros yno ai peidio. Diolch am win, mêl a marmalêd a dderbyniwyd yn rhoddion oddi wrthi.

Llythyr oddi wrth Herbert Evans, yng Nghaer,

Crybwyll marwolaeth J. E. [Jones]. Hanesyn am gyngor a roddodd J. E. Jones iddo ynglyn â darlledu pregeth ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Crybwyll cofiant newydd i [Deitrich] Bonhoeffer gan ei gyfaill Eberhard Bethge. Amgau erthygl papur newydd o'i eiddo "Four men who helped Wales to survive". Hyderu y gwêl cenedlaetholwyr ieuainc fod gwreiddiau eu cenedlaetholdeb yn Nuw, fel y gwnaeth J. E. [Jones] a D. J. [Williams].

Results 2261 to 2280 of 2413