Print preview Close

Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth William Davies, yn Bootle, Lerpwl,

Mae'n sylwi, o'i llythyr, fod KR yn gorweithio. Ni ddylai fod wedi addo ysgrifennu colofn fisol i Tegla [Davies]. Gwell fyddai iddi ysgrifennu ychydig pan ddôi'r awen. Sôn am ddigwyddiad rhyfedd tra'n pregethu yn Falmouth Road. Rhaid mai math o freuddwyd neu weledigaeth oedd y cwbl. Cafodd brofiadau tebyg. Y mae fel petai yn rhodio mewn gwlad hud a lledrith. Bu'n pregethu yn Nhrawsfynydd dros y Nadolig.

Llythyr oddi wrth R. W. Jones, yng Nghaergybi,

Diolch iddi am [O Gors y Bryniau] a dderbyniasai y bore hwnnw. Darllenodd y ddwy stori gyntaf cyn gollwng y gyfrol o'i law. Nid yw'n syn fod y chwarel yn chwarae cymaint o ran yn ei storïau o gofio ei chefndir yng Nghae'r Gors. Atgofion am Gaernarfon lle bu'n darllen Hanes a Chân ac Ystên Sioned iddi hi a'i chyfoedion. Ychydig a feddyliodd fod llenores mor enwog yn eistedd wrth ei draed. Maent newydd symud i dy newydd a godwyd gan yr eglwys [Hyfrydle, (M.C.), Caergybi] ar gost o ddwy fil o bunnau.

Llythyr oddi wrth L. P. Nemo ['Roparz Hemon'], ym Mrest, Llydaw,

Ymddiheuro am fod cyhyd cyn cyhoeddi'r cyfieithiad Llydaweg o stori KR "Y Wraig Weddw". Hydera ei bod wedi derbyn y copïau o Gwalarn a anfonodd ati. Mae awch mawr am ddarllen pethau Cymraeg yno. Bu cryn ddiddordeb yn ei gwaith. Cyfieithodd ddrama hefyd o waith A. O. Roberts sy'n debyg o deithio o gwmpas. Pa ddramâu eraill a fyddai'n addas i'w cyfieithu o'r Gymraeg i'r Llydaweg. Ymddiheuro am beidio ag ysgrifennu yn Gymraeg. Nid yw wahaniaeth ganddo ysgrifennu Saesneg gwael ond nid yw'n fodlon ysgrifennu Cymraeg gwael. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth L. [P.] Nemo ['Roparz Hemon'], ym Mrest,

Diolch am lythyr ac am anfon drama. Bydd yn addas iawn ar gyfer ei chyfieithu. Hoffai dderbyn rhywfaint o waith 'Twm o'r Nant'. Maent yn llanw'r bylchau yn eu hiaith trwy gyfieithu eitemau Cymraeg a Gwyddeleg. Dechreuwyd cyfieithu'r Mabinogion a rhai chwedlau Gwyddelig. Awgrymu ardaloedd o Lydaw a fyddai'n addas ar gyfer gwyliau haf. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Darllenodd stori Nadolig KR yn Y Genedl a'i mwynhau er ei fod yn cytuno â barn R. W[illiams] P[arry] nad yw hi ymysg pethau gorau KR ["Y Gwynt", Y Genedl (26 Rhag. 1927), t 6]. Mae'n bwriadu dehongli meddwl KR rhyw ddydd mewn ysgrif yn Y Llenor. Bydd yn dda ganddo ddarllen cyfrol ei brawd ar y chwareli hefyd. Diolch iddi am gofiant i 'Glasynys' [Owen Wynne Jones, 1828-70], y mae'n gampus. Nodi ei brysurdeb a'r gwaith sydd ganddo ar ei feddwl. Hoffai pe bai rhywun yn cymryd Y Ddraig Goch oddi arno ond y mae am gadw ymlaen nes bo'r Blaid ar ei thraed. Cafodd gip ar Garadog Prichard ychydig ddyddiau yng nghynt.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Anfonodd at H. R. Jones i ofyn a gaiff weld ei anerchiad. Siom fawr oedd yr etholiadau sirol. Dim ond pynciau dibwys a drafodwyd ynddynt ar wahân i'r De, lle trafodwyd problemau Sosialaeth. Mae'r toriad o'r Genedl a anfonodd Kate Roberts ato yn profi hynny hefyd. Clywodd gan W.J.G. bod ganddi ysgrif ar gyfer Y Llenor ["Caeau", Y Llenor, cyfrol VII (1928), tt 93-5]. Saunders Lewis yn ymateb i sylw KR ei bod yn rhy hapus i ysgrifennu. Nid yw wedi dechrau ysgrifennu am "Lasynys". Mae'n ysgrifennu am Ddaniel Owen ar hyn o bryd. Cafodd hwyl ar bennod gyntaf Daniel Owen. Ar ôl gorffen ysgrifennu y diwrnod cynt fe brynodd bum potel o win ardderchog 1916 o winllan Chateau Beychevelle. Mae'n holi pa anrheg priodas y caiff ei anfon iddi. Hen siwg gwrw a anfonodd i Brosser Rhys. Mae'n hoffi prynu pethau i'w rhoi i gyfeillion sy'n yfwyr. Mae'n bwrw'r Pasg yn Lerpwl gyda hen gyfaill sy'n fardd Saesneg da ac yn feddyg. Yna mae'n mynd i sir Gaerfyrddin i weithio dros y Blaid am wythnos gron, un rhan o waith y Blaid sy'n gwbl ffiaidd ganddo. Mae Cynan yn ôl ymhlith y Rhyddfrydwyr, ychydig ynghynt dywedid ei fod wedi ymuno â'r Blaid Genedlaethol. Y mae Ein Tir yn bapur da iawn, yn llawn lluniau ac ysgrifau poblogaidd. Mae ganddo'r holl rinweddau y mae'r Ddraig Goch yn ddiffygiol ynddynt. Mae cyfieithu Prosser Rhys yn wych.

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,

Ymateb i'r newydd fod KR am briodi Morris T. Williams. Ei ymateb ef i briodi. Dylai ei huniad fod yn batrwm o gydnawsedd a chyd-ddealltwriaeth ysbrydol. Hyderu y caiff y cyfle i'w croesawu i Abergwaun yn y dyfodol agos. Englyn gan Waldo a gyfansoddwyd yn fyrfyfyr pan fu ar ymweliad â chyfarfod o'r Blaid yn sir Gaerfyrddin a neb yn bresennol. Sylwi mai yn Aberystwyth y maent yn bwriadu byw ar ôl priodi. Mae cynnyrch Gwasg Aberystwyth yn dal i swyno a synnu dyn.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Awgrym cellweirus am stori fer. Cafodd bennod gyntaf ei nofel yn ôl oddi wrth E. Prosser Rhys [Monica]. Hanesyn creulon oedd hwnnw am ei brawd a'r dyledwr. Canmol ei herthyglau yn Y Ddraig Goch. Nid yw'n dymuno llwyddiant llenyddol er bod y gwaith politicaidd yn ei ddwyn i sylw'r werin. Mae hefyd yn ofni tipyn ei fod yn Babydd er mwyn ei esgymuno ei hun.

Results 2301 to 2320 of 2413