Print preview Close

Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth [D.] Gwenallt [Jones], ym Mhenparcau,

Ymateb i Tywyll Heno ar ôl ei ail-ddarllen. Thema gwraig yn ymladd yn erbyn anawsterau sydd yn y gyfrol hon eto fel nifer o'i gweithiau eraill. Mae elfen foesol yn ei hysgrifennu, dylanwad Methodistiaeth Galfinaidd y cyfnod cynnar mae'n debyg, ond mae i'r elfen honno ei pherygl, gall droi yn ddysgu moesoldeb. Ydi'r ffaith i [Bet] wella yn feddyliol yn golygu iddi gael ei ffydd yn ôl?.

Llythyr oddi wrth John [Gwilym Jones], yng Ngroeslon,

Diolch am Hyn o Fyd. Mae'n gwerthfawrogi'r cyflwyniad yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen i weld yr adolygiadau er bod llawer o adolygwyr Cymru yn rhai anghymwys. Bu'n gwrando ar Thomas Parry yn sôn am Ieuan Llyn yng Nghymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. Y mae'r gymdeithas ei hun yn ddigri - cotiau ffyr a snobyddiaeth a siarad Cymraeg unwaith yn y pedwar amser.

Llythyr oddi wrth Ceinwen Bowyer, yn Hen Golwyn,

Yr anrheg pwysicaf a dderbyniodd dros y Nadolig oedd Hyn o Fyd. Cafodd ei gwr a hithau fwynhad mawr o ddarllen y gyfrol. Bydd yn rhyfeddu at allu KR i ddeall holl drybini dyn o gyni oes Victoria i broblemau newydd yr ugeinfed ganrif.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Bu colli G. J. Williams yn ormod o ergyd i'w weddw. Clywodd KR ar y radio y noson cynt a darllen ei sgwrs â [Lewis] Valentine a'i chael yn bwysig a thra diddorol. Nid yw'n debyg o orffen ei lyfr ar Ann Griffiths. Mae angen rhai wythnosau o waith yn y Llyfrgell yn Aberystwyth i wneud hynny ac ni all ymryddhau. Cyhoeddwyd llyfr difyr ar ei theulu gan David Thomas.

Llythyr oddi wrth [D.] Tecwyn [Lloyd], yng Nghaerfyrddin,

Da ganddo ddeall bod KR wedi mwynhau darllen ei ymdriniaeth ar yr awduron Eingl-Gymreig. Bu'n ddirgelwch iddo erioed pam yr oedd gwaith y bobl hyn yn swnio mor annaturiol ac anghywir o'i gymharu â gwaith llenorion Cymraeg. Gwaith diflas oedd darllen y deunydd. Mwynhaodd y gynhadledd yn Abertawe yn enwedig Glyn Jones a'i sylwadau hithau ar "Chwaeth".

Llythyr oddi wrth Aneirin [Talfan Davies], yng Nghaerdydd,

Mae'r math o ysgrifennu a gafwyd yn Tywyll Heno wrth ei fodd. Mae pobl wedi ei gamddeall - fe gostiodd yn ddrud iddo droi'n eglwyswr. Peth trist oedd bod y Methodistiaid wedi gadael yr eglwys ac na welodd yr eglwys werth yn yr adnewyddiad a gynigid ganddynt.

Llythyr oddi wrth Kate Davies, yn Ninbych,

Mae'r lluniau enwogion yn ifanc yn denu chwilfrydedd plant yr Ysgol Gymraeg yn fawr. Diolch am y lluniau ac am gymwynasau eraill. Mae'n sylweddoli pa mor ffodus y maent o gael KR yn asgwrn cefn i'r ysgol.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Cyrhaeddodd Tegwch y Bore ac y mae wedi gorffen y darllen mawr "ac wedi cuddio deigryn fwy nag unwaith". Mae diffuantrwydd llwyr yn perthyn i'r nofel. Llythyr oddi wrth David Jones a'r nofel hon oedd y ddau beth mawr a dderbyniodd y Nadolig hwnnw.

Llythyr oddi wrth Katherine [ ], yn Midhurst,

Mae'n aros yn y bwthyn ac y mae newydd ddarllen [Tea in the Heather]. Llwyddodd i gyfleu teimladau plentyn yn arbennig, mae'r cymeriadau yn feistraidd a'r ysgrifennu am natur yn farddonol. Hanesion am gydnabod. Saesneg/English.

Results 241 to 260 of 2413