Dangos 2413 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Soned "Edifeirwch" o waith y Parchedig Richard Williams, Aberdâr (1869-1926). [Ysgrifennodd Kate Roberts goffâd iddo yn Y Traethodydd (1933), tt ...,

Soned "Edifeirwch" o waith y Parchedig Richard Williams, Aberdâr (1869-1926). [Ysgrifennodd Kate Roberts goffâd iddo yn Y Traethodydd (1933), tt. 13-19, yr oedd yn dad i Myfanwy [R. T.] Jenkins]. Ymddangosodd y soned yn rhifyn cyntaf Y Garreg Ateb, cylchgrawn Cymdeithas Cymrodorion Aberdâr.

Stori Fer "... yn ôl ei hewyllys" o waith [Llewelyn] Wyn Griffith ynghyd â llythyr, dyddiedig 24 Gorffennaf 1950, yn ...,

Stori Fer "... yn ôl ei hewyllys" o waith [Llewelyn] Wyn Griffith ynghyd â llythyr, dyddiedig 24 Gorffennaf 1950, yn ei hanfon at Kate Roberts. Nid yw Llewelyn Wyn Griffith yn gwybod os yw'r stori yn werth ei theipio. Mae'n gofyn barn Kate Roberts. Hon yw'r drydedd bennod o saga Cwm Coch. 18 Tt.

Stori Fer 'Er Mwyn yr Achos Da' gan Morris T. Williams a anfonwyd dan y ffugenw 'Morus Cyffin' i gystadleuaeth ...,

Stori Fer 'Er Mwyn yr Achos Da' gan Morris T. Williams a anfonwyd dan y ffugenw 'Morus Cyffin' i gystadleuaeth y Stori Fer yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937. Y beirniad oedd D. J. Williams, Abergwaun, a oedd yng Ngharchar Wormwood Scrubs, Llundain, ar adeg y beirniadu am ei ran yn y Tân yn Llyn. Ceir nodyn yn ei law ar ddiwedd y stori: "Stori wych. Byw byth bo'r 'Achos Da'! D.J." ac ychwanegwyd nodyn gan Lewis Valentine: "a felly, meddaf finnau, Fal!" Lluniwyd y stori gan Morris T. Williams er mwyn i D. J. Williams gael hanes yr etholiad yn sir Ddinbych pan safodd Morris T. Williams dros Blaid Cymru. Yn y stori ymladd dros achos dirwest y mae'r ymgeisydd.

Canlyniadau 2281 i 2300 o 2413