Print preview Close

Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Meirwen Parry, ym Mae Colwyn,

Cafodd bleser mawr o ddarllen Y Lôn Wen - chwerthin yn iawn un funud a'r dagrau'n cronni y funud nesaf gyda hiraeth am Rosgadfan a'r hyn a fu. Bu hithau'n gwneud yr un pethau â KR er nad yw yn ddim ond hanner ei hoed. Mae'n cofio ei thad yn sôn am gymeriadau'r Lôn Wen. Atgofion am fam KR a sôn am ei hynafiaid yn Rhosgadfan. Mae'n falch ofnadwy mai yn Rhosgadfan y treuliodd ei blynyddoedd cyntaf.

Llythyr oddi wrth Kate Davies (at Mr Roberts), yn Ninbych,

Ymddiheuro am fethu â dod i gyfarfod. Cynnwys syniadau Dr Gwilym Arthur Jones am fathodyn i Ysgol Gymraeg Dinbych ac awgrymu dewis enw i'r ysgol. Os yw'r arian yn caniatáu byddai'n ddymunol cael telyn yn ogystal. Mae Mrs Frances Môn Jones yn dysgu telyn yn Ysgol Howells a gallai alw yn yr Ysgol Gymraeg yn yr un modd. Byddai cael recordydd tâp i'r ysgol yn gaffaeliad hefyd. Byddai'r Pwyllgor Addysg yn talu am hwnnw pe cyfrennid 30% ato. Gofyn am gael gostwng y pegiau yn yr ystafell fawr. Cynlluniau bathodynnau.

Llythyr oddi wrth [D.] Gwenallt [Jones], ym Mhenparcau,

Hoffai dderbyn stori fer KR ar gyfer rhifyn cyntaf [Taliesin]. Mae ganddo ormod o erthyglau a rhy ychydig o weithiau creadigol. Llongyfarch KR ar [Y Lôn Wen]. Cymharu'r hunangofiant gydag un D. J. [Williams] - "calon lac yw calon D. J., ac ychydig sydd ganddo o ymennydd neu ddeall. 'Rydych chwi yn llenor deallus; y mae gennych ddisgyblaeth haearnaidd arnoch chi eich hun". Ni fydd yng nghyfarfod yr Academi yn Nolgellau gan ei fod yn mynd ar daith awyr i Balestina gan alw yn Athen am ddiwrnod.

Llythyr oddi wrth William Hughes, yn Chwilog,

Cafodd ef a'i wraig flas anghyffredin ar Y Lôn Wen. Dweud bod John W. Davies a grybwyllir gan KR ym mhennod VII 'Fy Nheulu', yn perthyn iddo a bod yr ohebiaeth a grybwyllir ganddi yn ei feddiant. Y mae ef wedi ymddeol o weithio ar y rheilffordd.

Llythyr oddi wrth Dulyn Thomas, yng Ngheinewydd,

Datgan ei bleser o ddarllen Y Lôn Wen. Mae ef yn frodor o Nebo ac yr oedd ganddynt hwy eu 'Lôn Las' hefyd. Sôn am lyfrau eraill gan KR a roddodd fwynhad iddo. Cafodd y fraint o fynd i ddosbarthiadau WEA R. Williams Parry a chael goleuni newydd ar storïau O Gors y Bryniau. Hoffai ei phenodi yn aelod cyntaf o Dy Arglwyddi Cymru - "Arglwyddes Cors y Bryniau".

Results 181 to 200 of 2492