Print preview Close

Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth William Roberts, yn Ontario, Canada,

Esbonio sut y mae yn perthyn iddi - 'roedd ei dad, Owen William Roberts yn frodor o Nant Peris. Mae wedi mwynhau gwaith KR mewn cyfieithiad. Mae arno hiraeth am Gymru. Sôn am gapel Cymraeg yn Nhoronto (30 milltir i ffwrdd) a dosbarthiadau Cymraeg yno. Gofyn iddi anfon y cyfieithiad diweddaraf o'i gwaith ato wedi ei lofnodi. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Gwynfor [Evans], yn Llangadog,

Diolch i KR am ei bywyd cwbl ymroddedig a'r llenyddiaeth odidog a ysgrifennodd. Rhoddai hefyd arweiniad gweithredol yng nghanol cymdeithas. Bu yng nghanol y frwydr dros Gymru nid yn trigo mewn twr ifori. Ychydig iawn a gyfoethogodd fywyd y genedl fel y gwnaeth hi. Mae'n dda bod cyfeillion yn cael yr anrhydedd o gydnabod hynny yn ei chartref y dyddiau nesaf hyn.

Gohebiaeth David Owen Roberts

Llythyrau, &c., ynglyn â David Owen Roberts, brawd Kate Roberts - ei wasanaeth yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ei glwyfo yn Salonika yn 1917 a'i farwolaeth ym Malta yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ynglyn â'i fedd ym Mynwent Filwrol Pieta, Malta, a chais i gael pensiwn milwrol i'w fam. Gweler hefyd gerdd goffa i David Owen Roberts o waith y bardd 'Tryfanwy' wedi ei fframio yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau 600.

Llythyrau Kate Roberts At Mrs Elena Roberts Llanberis,

Yr oedd Mrs Roberts yn weddw i Evan, un o frodyr Kate Roberts. Mae'r llythyrau cynharaf yn trafod taith i Malta a drefnwyd gan y ddwy yn 1961 er mwyn ymweld â bedd David Owen Roberts, brawd arall i Kate Roberts a fu farw yno yn 1917. Mae'r llythyrau diweddaraf yn tueddu canolbwyntio ar gyflwr iechyd y ddwy.

Results 2341 to 2360 of 2492