Print preview Close

Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth [LL.] W[yn] G[riffith], yn Berkhamsted,

Diolch am dderbyn hanner y tâl am y storïau. Cafodd dri chan punt am gyfieithu'r Byw sy'n Cysgu ond ni ddefnyddiwyd y cyfieithiad. Hoffai rannu'r arian hwnnw hefyd. Nid yw arian yn ofid iddo. Gwerthwyd llun gan Lowry a brynwyd ganddo am £30 yn 1942 am £10,000 yn Sotheby ychydig ynghynt. Diolch am y llyfr ar KR. Dywedodd Storm Jameson fwy mewn llai o eiriau. Sôn am ddamwain a gafodd Storm Jameson yng Nghaergrawnt ac iddi golli ei gwr, Guy Chapman, flwyddyn cyn hynny.

Llythyr oddi wrth Derec [Llwyd Morgan], ym Mhenrhyn-coch,

Diolch am eiriau caredig KR ar y gyfrol feirniadol. Cafodd y gyfrol ganmoliaeth gan Harri Pritchard Jones yn y Western Mail. Canmol awdl Bro Myrddin, y bryddest yn hollol dywyll ar ôl yr hanner can llinell gyntaf. Mae cyfrol y Fedal yn gywrain ddigon, ei theimladaeth yn naïf ar brydiau ond ar y cyfan yn ddarllenadwy iawn. Nid ydynt wedi prynu copi o Marged T. Glynne [Davies] na nofel newydd Eigra [Lewis Roberts]. Nid yw'n deall pam y derbyniodd David Jenkins y gwahoddiad i olygu cyfrol o ysgrifau KR heb ofyn iddi hi yn gyntaf. Hanesyn am David Jenkins. Nid oes neb wedi prynu eu ty, dim ond dau bâr fu'n ei weld mewn deufis. Cawsant Eisteddfod dda ar y cyfan. Mae'n debyg mai John Rowlands fydd yn dod i Aberystwyth yn ei le. Cynigiodd tri phrifardd am y swydd: Bryan Martin Davies, Dafydd Rowlands ac Alan Llwyd.

Llythyr oddi wrth Aneirin [Talfan Davies], yng Nghaerdydd,

Sôn am ei salwch. Mae'n disgwyl galwad i Ysbyty Sant Pancras, Llundain. Ofni y bydd yno dros y Nadolig. Dweud ei fod wedi archebu teisen Nadolig drwy'r post i Kate Roberts. Mae'n darllen cofiant C. S. Lewis. Crybwyll cyfrol arall ganddo sef The Allegory of Love. Mae'r fflat yn hwylus iawn a chyfeillion yn mynd ag ef yn eu ceir i siopa ond mae hynny'n ei flino.

Llythyr oddi wrth Derec [Llwyd Morgan], yn Niwbwrch,

Nid oes llawer o drefn ar eu bywyd tra'n disgwyl symud i Landegfan. Marwolaeth Gwerfyl Morgan yn 35 oed o waed ar yr ymennydd. Hi yn anad neb a'u cynorthwyodd i ymgartrefu yn ardal Bow Street. Adroddiad am yr angladd. Byddant yn symud i Landegfan ddydd Mercher [15 Ionawr]. Trafferthion yn ei rwystro rhag mynd ymlaen â'i waith. Bydd ganddo lai o waith ym Mangor nag a oedd yn Aberystwyth. Mae Jane [Edwards] yn ysu am fynd ati i ysgrifennu nofel arall. Bydd drama o'i gwaith ar y radio ar 28 Ionawr.

Llythyr oddi wrth Derec [Llwyd Morgan], yn Llandegfan,

Trafod y tebygolrwydd fod Cynwil Williams yn symud o Ddinbych i Gaerdydd. Beth fydd hanes y weinidogaeth ymhen ugain mlynedd? Mae llawer o'r myfyrwyr diwinyddol "yn wyr ifainc a wirionodd ar Iesu Grist yn union fel pe bai'r Arglwydd yn ganwr pop". Mae newydd orffen paratoi Cerddi '75 ar gyfer Gwasg Gomer. Hanes Rolant, mab Dafydd Elis Thomas, yn disgyn trwy ffenestr a tharo'i ben. Cyfarfod â'r arholwr allanol i ddosbarthu'r graddau y diwrnod hwnnw. Dosbarth gwan fydd y flwyddyn ganlynol. Cymraeg afrywiog, truenus yw Cymraeg myfyrwyr y colegau erbyn hyn. Ceisir ei gaboli ond heb lwyddiant.

Llythyr oddi wrth Lewis Mendus, yng Nghaerdydd,

Diolch i KR am anfon copi o Ewch ac am stampiau. Mae'r gwres yn llethol ar brydiau. Ei olwg yn gwaethygu. Mae'n ceisio deall Llyfr y Datguddiad a dirfodaeth. Bydd yn golled fawr i KR golli ei gweinidog [Cynwil Williams].

Llythyr oddi wrth Cassie [Davies], yn Nhregaron,

Dychwelyd y ddau lyfr y cafodd eu benthyg. Bu am wythnos yn ardal Caernarfon a chafwyd taith ar hyd y Lôn Wen, i'r Felinheli ac i Ddeiniolen, Beddgelert, Cricieth - a galw i weld J. [G.] Williams awdur Pigau'r Sêr a Gwyneth Evans, A.E.M. gynt. Mae wedi addo mynd gyda hi a dwy arall i'r Eidal.

Llythyr oddi wrth Doris Strick, yn Guildford

Daeth ar draws gerdyn a'i hatgoffodd o KR a bu'n siarad amdani fyth ers hynny. Gobeithio ei bod yn cofio am y dyddiau hapus a dreuliodd yn Y Swistir. Mae hi yn bedwar ugain. Gwelodd gip ohoni unwaith ar raglen deledu Gymraeg. Mae'n mynd i aduniad [myfyrwyr] Aber[ystwyth] bob Pasg ond bod ei chydnabod yn prinhau'n enbyd. Cafodd ei hethol yn llywydd cangen Llundain o'r Cyn-fyfyrwyr a dyfynnodd Alun Mabon "Aros mae'r mynyddau mawr" iddynt yn ei hunig araith. Atgofion am Aberdâr. Bydd yn mynychu'r aduniad yno hefyd ac yn galw gyda'i chydnabod. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Alun Page, yng Nghaerfyrddin,

Anfon gair o gyfarch at KR gan iddo gael cymaint o flas ar ei gweld ar y teledu y noson honno. Mae'n cyfeirio ati yn ei golofn yn Y Faner. Mae'n anghytuno pan ddywed na fu iddi ysgrifennu nofel bwysig. Mae'n troi'n barhaus at Y Lôn Wen a Tywyll Heno.

Llythyr oddi wrth Aneirin [Talfan Davies], yng Nghaerdydd,

Mae yn ôl yn yr ysbyty yng Nghaerdydd. Mae'n defnyddio'r teipiadur fel ffordd o gryfhau ei law. Methwyd â dod o hyd i gyffur i ladd y poen. Mae wedi ailddarllen Yr Wylan Deg ac wedi mwynhau'r straeon yn fwy na'r tro cyntaf. Maent yn ei atgoffa o straeon [James] Joyce yn y Dubliners. Mae Cymru gyfan yn ei dyled am ddal ati i ysgrifennu. Mae'n mwynhau cael sgwrs gyda [Cynwil Williams] o dro i dro.

Llythyr oddi wrth Cassie [Davies], yn Nhregaron,

Anfon copi o'r llyfryn dathlu canmlwyddiant capel bach Blaen Caron. Mae'r holl brysurdeb yn effeithio ar ei chof. Bu Mrs Rachel Howell Thomas yn rhoi noson ardderchog iddynt ym Merched y Wawr ac yna bu radio bro yno am dridiau. Uchelswyddogion y BBC wedi eu plesio ac yn addo Radio Cymru yn bendant wedi'r profiad cyffrous. Magodd ddigon o benderfyniad i dynnu allan o'r gyfres "Penigamp". Bu'n gweld Irene a Myrddin Davies mewn cartref i weinidogion y Bedyddwyr yng Nghastellnewydd Emlyn - y ddau yn bur fregus. Bu mewn cyfarfod coffa i Fred Jones yn Nhal-y-bont.

Llythyr oddi wrth Herbert Williams, yng Nghaerdydd,

Diolch am roi croeso iddo pa ddydd. Cafodd ei blesio yn fawr gan y cyfweliad a roddodd iddo. Nid ydynt wedi pennu dyddiad trosglwyddo'r rhaglen eto. Mae'n amgau copi o'i lyfr Battles in Wales gan obeithio y caiff bleser o'i ddarllen. Saesneg/English.

Results 2341 to 2360 of 2492