Print preview Close

Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Cerdd goffa i David Roberts ('Dei'), brawd Kate Roberts a fu farw 27 Gorffennaf 1917, yn bedair ar bymtheg oed ...,

Cerdd goffa i David Roberts ('Dei'), brawd Kate Roberts a fu farw 27 Gorffennaf 1917, yn bedair ar bymtheg oed yn Malta, yn dilyn ei glwyfo yn Salonica yn ystod y Rhyfel Mawr. Ysgrifennwyd y gerdd goffa gan J. R. Tryfanwy neu John Richard Williams (1867-1924). Llungopi. Cedwir y gwreiddiol yn Adran y Darluniau a'r Mapiau.

Cyfrol o dorion papur newydd a gasglwyd gan Kate Roberts yn cynnwys: pytiau teuluol; hanes Rhosgadfan a Rhostryfan; adolygiadau gan ...,

Cyfrol o dorion papur newydd a gasglwyd gan Kate Roberts yn cynnwys: pytiau teuluol; hanes Rhosgadfan a Rhostryfan; adolygiadau gan, ac ar waith Kate Roberts; ysgrifau gan Morris T. Williams ; erthyglau ar y Blaid Genedlaethol; hanes yr Ysgol Fomio; adrannau ar Saunders Lewis, R. Williams Parry, Caradog Prichard ac E. Prosser Rhys; adolygiadau ar y gyfrol Gwaed Ifanc (Wrecsam, 1923); a nifer o erthyglau amrywiol. Llungopïau ar ddalennau o bapur di-asid wedi eu rhwymo ynghyd.

Llythyrau oddi wrth Caradog [Prichard] (77 llythyr yn cynnwys rhai cerddi ac un sgets. Nifer mawr o'r llythyrau heb ddyddiad) ...,

Llythyrau oddi wrth Caradog [Prichard] (77 llythyr yn cynnwys rhai cerddi ac un sgets. Nifer mawr o'r llythyrau heb ddyddiad), yng Nghaernarfon, Llanrwst, Aberystwyth, Caerdydd, Llundain, &c. Ymhlith y llythyrau ceir y cerddi canlynol o waith Caradog Prichard: 3218 "Fy Lili"; 3230 "Mothers" - soned Saesneg; 3238 "Galwad y Wasg" (Cyflwynedig i J.T.J. ar ateb ohono'r Alwad); 3247 "Y Ffarwel Olaf"; 3262 Cerdd yn agor gyda'r llinell: "Nid am it fod, O Fenai fwyn ..."; 3285 "Yn Ofer".

Results 2461 to 2480 of 2492