Llongyfarch Kate Roberts a'r lleill sy'n ymladd am Ysgol Gymraeg yn Ninbych ar eu hymdrechion. Anfon cyfraniad i'r gronfa. Bydd yn dda ganddo hyrwyddo'r gwaith mewn unrhyw fodd.
Dyfynnu cofnod o gofnodion Pwyllgor yr Ysgol Gymraeg a gynhaliwyd ar 17 Mai 1960. Gobeithiant fedru anfon cynllun y draen y tu ôl i'r Capel Mawr yn fuan. Diolch iddo am ei hynawsedd yn derbyn tri chynrychiolydd y prynhawn hwnnw.
Mae'n amgau siec am £12 ar gyfer Cronfa'r Ysgol Gymraeg. Saesneg oedd iaith chwarae'r plant yn Ninbych pan oedd ef yn ddisgybl yn Ysgol Love Lane tua 1896. Bechgyn o'r wlad fyddai'n siarad Cymraeg. Mae teulu Thomas Hooson fel teulu Thomas Gee wedi troi'n Saeson yn y cyfamser.
Llythyr argraffedig sy'n cynnwys rhestr o'r noddwyr yn adrodd hanes y pwyllgor a'r camau a gymerwyd i sefydlu Ysgol Gymraeg yn Ninbych. Apêl am gyfraniadau.
Bu blaenoriaid y Capel Mawr yn ystyried yr angen i addasu'r adeiladau yn ofalus. Cynnig dau welliant i'r awgrymiadau. Rhoddir caniatâd i fynd ymlaen â'r gwaith. Copi o'r cyfnewidiadau a fwriedir eu gwneud i'r Capel Mawr.
Anfon rhodd at yr Ysgol Gymraeg. Mae'n gywilydd bod angen un yn Ninbych. Y peth trist yw bod cefn gwlad yn prysur fynd i'r un cyfeiriad. Bu yn Llandegla y noson o'r blaen - pobl ifanc yno yn gallu siarad Cymraeg ond yn mynnu siarad Saesneg. Ambell dro bydd yn teimlo nad oes gobaith i'r iaith rhwng y teledu a phopeth arall.
Llongyfarch KR ar sefydlu Ysgol Gymraeg yn Ninbych. Bu'n gwylio rhaglen deledu yn sôn am y fenter. Mawr oedd ei diddordeb gan fod ganddi ddwy nith yn ddisgyblion yno - Helen a Jane Lloyd Hughes. Mae'n amgau siec tuag at dreuliau'r ysgol. Mae'n brifathrawes yn Ysgol y Babanod yng Nghoed-poeth ac y mae ganddi hi ddosbarth Cymraeg. Trueni na fuasai rhieni Cymraeg yn sylweddoli'r ffolineb o ddwyn eu plant i fyny yn ddi-Gymraeg. Bu'n edmygydd cyson o Kate Roberts er ei dyddiau ysgol yn Grove Park yn astudio Rhigolau Bywyd ac O Gors y Bryniau.
Mae'n amgau siec am 50 doler sy'n werth tua £17-14s ar gyfer Apêl Ysgol Gymraeg Dinbych. Mae newydd ddychwelyd o Gymru. Ysgolion Cymraeg yw'r ateb er mwyn adfer hunan-barch a balchder iaith, diwylliant a chrefydd.
Cafodd bleser mawr o ddarllen Y Lôn Wen - chwerthin yn iawn un funud a'r dagrau'n cronni y funud nesaf gyda hiraeth am Rosgadfan a'r hyn a fu. Bu hithau'n gwneud yr un pethau â KR er nad yw yn ddim ond hanner ei hoed. Mae'n cofio ei thad yn sôn am gymeriadau'r Lôn Wen. Atgofion am fam KR a sôn am ei hynafiaid yn Rhosgadfan. Mae'n falch ofnadwy mai yn Rhosgadfan y treuliodd ei blynyddoedd cyntaf.