Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Cardiau Nadolig, 1970-2, 153 ohonynt, yn cynnwys rhai gan: Aneirin Talfan Davies, Cassie Davies, Jennie Eirian Davies, Mair Kitchener Davies ...,

Cardiau Nadolig, 1970-2, 153 ohonynt, yn cynnwys rhai gan: Aneirin Talfan Davies, Cassie Davies, Jennie Eirian Davies, Mair Kitchener Davies, Dr Noëlle Davies, Nesta Harris, Mathonwy Hughes, Emyr Humphreys, Bedwyr Lewis Jones, Gerallt Jones, Harri Pritchard Jones, John Gwilym, Jones, D. Eirwyn Morgan, Derec Llwyd Morgan, Gerald Morgan, ac Eigra Lewis Roberts.

Cardiau pen blwydd pan oedd Kate Roberts yn 90 oed, 1981, 158 ohonynt, yn cynnwys rhai gan: Cassie Davies, John ...,

Cardiau pen blwydd pan oedd Kate Roberts yn 90 oed, 1981, 158 ohonynt, yn cynnwys rhai gan: Cassie Davies, John Emyr, Mathonwy Hughes, Richard Hughes (Co Bach), Dafydd Ifans, Geraint Vaughan Jones, Huw Jones (Y Bala), John Gwilym Jones, Derec Llwyd Morgan, Dyfnallt Morgan, Marged Pritchard, Mair Saunders, Gwyn Thomas, R. S. Thomas, Lewis Valentine, Aled Vaughan, Cynwil Williams, J. E. Caerwyn Williams ac R. Bryn Williams.

Llythyr oddi wrth Olwen [Samuel], yng Nglynebwy,

Salwch ei gwr, Dewi. Ymfudodd ewythr iddo i Awstralia yn 1919 oherwydd yr un aflwydd. Mae ei mam yn hyfryd ei thymer a'i golwg, ond bod un droed yn llawn o glwyfau a magwraeth. Derbyniodd lythyr oddi wrth Dr Noëlle Davies. Ceisiodd ei chael i ysgrifennu hanes ei bywyd yn Gymraeg dro ar ôl tro ond mae'n rhy brysur. Buont yn treulio noson yng nghwmni Ann Griffiths, y delynores, a'i gwr. Roedd eu dau fab gartref o'u hysgol breswyl yn Tenbury, yn siarad Cymraeg cadarn ac ystwyth. Sefydlwyd pwyllgor yng Ngwent i archwilio sefyllfa'r Gymraeg yno.

Llythyr oddi wrth Alun Richards, yn Abertawe,

Cafodd drafferth i drefnu cyfieithwyr a chael arian i'w talu. Cyfieithiwyd llythyr olaf KR iddo gan ei ferch a'i hathrawes Gymraeg. Hoffai gynnwys "The Loss" ["Y Golled"] o'r gyfrol A Summer's Day ond hoffai drefnu bod "Dychwelyd" ac "Ymweld" yn cael eu cyfieithu hefyd. Tybed a fedrai Wyn Griffith gyfieithu'r ddwy stori erbyn 25 Mehefin? Neilltuodd Cyngor y Celfyddydau ugain punt y stori ar gyfer y cyfieithiadau. Bwriad y Cyngor yw defnyddio'r storïau a fydd dros ben mewn cylchgronau. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Cledwyn Hughes A.S., yn Llundain,

Canmol Y Lôn Wen. Bu darllen y gyfrol yn ynys dawel iddo yng nghanol miri Llundain. Diolch am sylw caredig i'w dad ac i J. J. Williams, Penbedw. Daeth ei hynafiaid o Ddinorwig, Nant Peris a Llanrug. [Am y llythyr cyfatebol oddi wrth Kate Roberts gweler LlGC Casgliad yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos B6].

Results 2321 to 2340 of 2492