Llythyr oddi wrth Corporation Of Denbigh, yn Ninbych,
- 1339.
- File
- 1961, Meh. 22.
Part of Papurau Kate Roberts
Derbynneb am £4-9-6. Saesneg/English.
20 results with digital objects Show results with digital objects
Llythyr oddi wrth Corporation Of Denbigh, yn Ninbych,
Part of Papurau Kate Roberts
Derbynneb am £4-9-6. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth [LL.] W[yn] G[riffith], yn Berkhamsted,
Part of Papurau Kate Roberts
Bu ef a'i wraig am bythefnos o wyliau gyda'r mab a'r teulu yn Bowdon. Gobeithio y ceir hanes y daith i Malta yn llawn ryw ddydd. Bu'n meddwl amdani yn ystod ei hymweliad â'r Eidal a bedd ei brawd ym Malta.
Llythyr oddi wrth R. W. Roberts, yn Ninbych,
Part of Papurau Kate Roberts
Bil am £222-10-5 am welliannau ac atgyweiriadau i adeiladau Ysgol Gymraeg Dinbych.
Llythyr oddi wrth Kate Roberts (at T. E. Roberts), yn Ninbych,
Part of Papurau Kate Roberts
Manylion am arian (£28-15-0) a dalwyd i mewn i'r banc gan KR yn ystod mis Gorffennaf i gyfrif Ysgol Gymraeg Dinbych.
Llythyr oddi wrth Olwen Hughes, ym Mhen-y-groes, Arfon,
Part of Papurau Kate Roberts
Cafodd bleser mawr o ddarllen Y Lôn Wen. Mae'n chwaer i Kate Cadwaladr, Bryn Celyn, ac yn cofio galw i weld Nain Pant Celyn.
Llythyr oddi wrth [LL.] W[yn] G[riffith], yn Berkhamsted,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am gyfrol gyntaf Taliesin. Mae ei gynnwys braidd yn siomedig ar wahân i stori fer KR ["Cathod mewn Ocsiwn"]. Hon yw ei stori orau hyd yn hyn, y dyfnaf a'r mwyaf treiddgar. Nodi dau fai sydd ar y stori - ei theitl ac un ymyriad ar ran yr awdur. Nid yw cyfraniad Bobi Jones yn gweddu i'r gyfrol [adolygiad ar Canu Taliesin Ifor Williams]. Sôn am anfon telegram Cymraeg at KR i'r Eisteddfod a'r swyddog yn credu mai un tramor ydoedd. Hoffodd ei herthygl ar hen bafiliwn [Caernarfon, yn y Western Mail, 10 Awst 1961, t. 7]. Arferai ewythr iddo fynd yno o Dal-y-sarn i glywed Paderewski.
Llythyr oddi wrth Alun Llywelyn-williams, ym Mangor,
Part of Papurau Kate Roberts
Bu ar wyliau yn yr Eidal a cholli ei galon yn llwyr i'r wlad honno. Diolch am ei llythyr yn canmol Y Nos, Y Niwl a'r Ynys. Yr oedd yn bleser iddo ei chyflwyno yng nghyfarfod y Cymmrodorion yn y Rhos a medru talu diolch cyhoeddus iddi am yr holl oriau o fwynhad a gafodd ers iddo ddarllen O Gors y Bryniau yn yr ysgol. Mae'n edrych ymlaen at sgwrs radio y maent i gymryd rhan ynddi ym mis Tachwedd.
Llythyr oddi wrth Winifred [Rees], yn Aberdâr,
Part of Papurau Kate Roberts
Awgrymu mai planhigion i'r ardd fyddai'r anrheg mwyaf derbyniol ganddi. Newyddion am Ray a'i salwch. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Winifred [Rees], yn Aberdâr,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am anrheg pen blwydd. Sôn am salwch KR a marwolaeth yr Athro [J. E.] Daniel. Bu'n gwylio drama Saunders Lewis y noson gynt [Excelsior] a chredu ei bod yn wych. Hanes cinio Gwyl Ddewi yn Neuadd Plasdraw. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Ray [Evans], yn Aberdâr,
Part of Papurau Kate Roberts
Drwg ganddi ddeall am salwch KR. Mae'n anfon mêl ati er mwyn ei chynorthwyo i wella. Trafod y ffaith fod drama Saunders Lewis wedi ei diddymu gan y BBC oherwydd cwynion gan Aelod Seneddol. Achwyn bod cynllun ar droed i symud cofeb Caradog o Sgwâr Victoria, Aberdâr. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], Llundain NW8,
Part of Papurau Kate Roberts
Holi am iechyd Kate Roberts. Sôn am [Tywyll Heno]. Sôn am ei damwain ffordd. Mae wedi ysgrifennu gwerthfawrogiad o waith Dr Ernest Jones ac adolygiad ar gofiant y Marquis de Sade. Trafod eu hwyrion a'u hanallu i siarad Hwngareg. Sôn am ei hiraeth am Hwngari. Cafodd garreg fedd ar gyfer bedd ei gwr gydag arysgrif Hwngareg arni. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Kate Roberts at [Iorwerth] Peate (copi o lythyr), yn Ninbych,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n ysgrifennu ar ran yr Academi ynglyn â sylwadau Bobi Jones gan iddo ei brifo hithau yn Y Faner. Mae'n hyderu y gwnaiff Iorwerth C. Peate dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl ac aros yn Gadeirydd yr Academi. Cafwyd arweinydd sicr yn Iorwerth C. Peate a phrofodd Bobi Jones fod ganddo allu i drefnu. Mae Bobi Jones "yn berwi drosodd o ynni ac [nid] yw'n hapus heb fod yn ysgrifennu o hyd, ond [nid] yw'n meddwl digon cyn anfon ei waith i'r wasg". Ni ddylid dinistrio'r Academi hithau wedi cychwyn mor dda.
Llythyr oddi wrth Islwyn [Ffowc Elis], ym Mangor,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae wedi mwynhau darllen Tywyll Heno yn fawr ac wedi ei adolygu ar gyfer Lleufer. Mae'r adolygiad yn un llym a thybiodd mai'r peth cwrtais oedd ei rhybuddio. Crybwyll bod brychau iaith yn y llyfr y byddai hi yn eu condemnio yng ngwaith rhywun arall. Ni all gwyno os bydd i KR ddigio wrtho.
Llythyr oddi wrth Meredydd Evans, ym Mhorthaethwy,
Part of Papurau Kate Roberts
Sôn am ddosbarth nos sydd ganddo yn Llandudno. Cawsant flas arbennig ar Ffair Gaeaf yn y cyfarfod diwethaf. Mae'n cael mwynhad anghyffredin o ail-ddarllen ei gwaith.
Llythyr oddi wrth Aneirin [Talfan Davies], yng Nghaerdydd,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae newydd ddarllen proflen Tywyll Heno ac ysgrifennodd bwt arni ar gyfer ei golofn yn Barn [Barn, rhif 2, t 32]. Mae'n credu ei bod yn stori wych. Dealla nad yw Islwyn Ffowc Elis yn cytuno. Nid yw'r nofel yn ymosodiad ar Ymneilltuaeth. Hoffai pe bai gan yr Eglwys yng Nghymru lenor i wneud yr un gymwynas â hi ag a wnaeth KR i'w henwad ei hunan.
Llythyr oddi wrth Lewis Valentine, yn Rhosllannerchrugog,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am Tywyll Heno, treuliodd ddiwrnod cyfan yn darllen y gyfrol yn araf a phwyllog. Roedd y stori yn gafael. Dyma un o'i chreadigaethau mwyaf. Bwriada ysgrifennu amdani yn Seren Gomer ym mis Mawrth.
Llythyr oddi wrth W. J. Edwards, ym Mow Street,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n diolch am Tywyll Heno. Mae'r cynnwys yn berthnasol gan ei fod yn ymgeisydd am y weinidogaeth gyda'r Hen Gorff. Mae'n rhyfeddu at ei gwybodaeth am fywyd y mans. Cafodd flas ar Y Byw sy'n Cysgu wrth astudio am y dystysgrif uwch.
Llythyr oddi wrth Bobi Jones, yn Aberystwyth,
Part of Papurau Kate Roberts
Canmol [Tywyll Heno]. Mae'n adlewyrchu'r dyfnder a'r dwyster profiad a'r sensitifrwydd gweledigaeth na cheir eu hamgenach yn unman yn ein llên, ond a geir dro ar ôl tro yng ngwaith KR. Trefnu cyfarfod o'r Academi ac awgrymu "Bwrw Golwg yn Ôl" yn destun i KR siarad arno.
Llythyr oddi wrth Iorwerth C. Peate, yn Sain Ffagan,
Part of Papurau Kate Roberts
Canmol ysgrif goffa KR ar Griffith John Williams. Os bu dyn erioed a anwybyddwyd gan y 'Sefydliad' Griffith John Williams oedd hwnnw. Darllen ei ddarlith radio i Mrs Williams oedd y peth olaf a wnaeth a chael strôc farwol mewn eiliadau wedyn. Hydera y gwêl y BBC yn dda i'w chyhoeddi er coffa amdano. Y ddarlith hon fydd yr unig beth yn Saesneg ar 'Iolo Morganwg'. Traddododd ddarlith Saesneg ar Iolo yn yr Amgueddfa rai blynyddoedd ynghynt a dywedodd Dilwyn John mai honno oedd y ddarlith orau a glywodd yn ei fywyd. Bu'n gyfaill mynwesol i Iorwerth C. Peate ac mae ei fywyd yn ofnadwy o wag hebddo.
Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,
Part of Papurau Kate Roberts
Y mae ysgrif goffa KR i G. J. Williams yn un o'r goreuon a ddarllenodd erioed, yn llawn angerdd a dwyster teimlad. Dyn wedi ei feddiannu'n llwyr gan ei gariad at Gymru ydoedd. Bu D. J. Williams a G. J. Williams yn Aberystwyth yr un pryd. Ymateb i Tywyll Heno. Beirniadu Barn am awgrymu na wêl neb o fewn can mlynedd y fath beth â hunanreolaeth yng Nghymru. Canmol Nesta Harries yn darllen Te yn y Grug ar y radio bob wythnos.