Showing 297 results

Archival description
Emyr Humphreys Papers File English
Advanced search options
Print preview View:

O

Llythyrau a chardiau at Emyr ac Elinor Humphreys (1993-2000), oddi wrth Rita Owen (6), Joan Organ (1), ac 'Ann' (1). / Letters and cards to Emyr and Elinor Humphreys (1993-2000), from Rita Owen (6), Joan Organ (1), and 'Ann' (1).

'O Barch i Ambrose Bebb' / 'Daniel Owen a Realaeth'

Dau deipysgrif, gyda nodiadau a chywiriadau, o erthygl gan Emyr Humphreys gyda’r teitl 'O Barch i Ambrose Bebb ([?1992]), ynghyd â theipysgrif o'r enw 'Dyddiadur William Ambrose Bebb 1924’, gyda rhai nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys; a thri theipysgrif o erthygl, heb ei harwyddo ond gyda rhai cywiriadau yn llaw Emyr Humphreys, dan y teitl ‘Daniel Owen a Realaeth’ / ‘Daniel Owen a’r Traddodiad Realaidd’ (heb ddyddiad). / Two typescripts, with notes and corrections, of an article by Emyr Humphreys titled ‘O Barch i Ambrose Bebb ([?1992]), together with a typescript titled ‘Dyddiadur William Ambrose Bebb 1924’, with some manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys; and three typescripts of an article, unsigned but with some corrections in the hand of Emyr Humphreys, titled ‘Daniel Owen a Realaeth’ / ‘Daniel Owen a’r Traddodiad Realaidd’ (undated).

'Olrhain Hanes y Tri Llais' ac erthyglau eraill / and other articles

Erthyglau gan M. Wynn Thomas yn ymwneud â gwaith Emyr Humphreys, gan gynnwys teipysgrif o’r erthygl ‘Olrhain Hanes y Tri Llais’ (1984), a phedair erthygl arall heb deitl (heb eu dyddio); copi o adolygiad o nofel Emyr Humphreys, ‘Open Secrets’ (Llundain: Dent, 1988); a theipysgrif o gyflwyniad i ailgyhoeddiad o’r nofel ‘A Toy Epic’ (Pen-y-bontr: Seren, 1993), ynghyd â theipysgrif o gyfweliad rhwng Penny Smith ac Emyr Humphreys yn ymwneud â’r un nofel. / Articles by M. Wynn Thomas relating to the work of Emyr Humphreys, including a typescript of the article ‘Olrhain Hanes y Tri Llais’ (1984), and four other untitled articles (undated); a copy of a review of Emyr Humphreys’ novel ‘Open Secrets’ (London: Dent, 1988); and a typescript of an introduction to a reissue of the novel ‘A Toy Epic’ (Bridgend: Seren, 1993), together with a typescript of an interview between Penny Smith and Emyr Humphreys relating to the same novel.

P

Llythyrau a cherdyn at Emyr Humphreys (1993-1999), oddi wrth Gwyn Pritchard (2), O. C. Parry-Jones (1), Keith Pool (1), John Pikoulis (1), a Richard Poole (3). / Letters and a card to Emyr Humphreys (1993-1999), from Gwyn Pritchard (2), O. C. Parry-Jones (1), Keith Pool (1), John Pikoulis (1), and Richard Poole (3).

Pamffledi, toriadau, a ffotograffau a gasglwyd gan Emyr Humphreys / Pamphlets, cuttings, and photographs collected by Emyr Humphreys

Amrywiad o bamffledi, toriadau, a ffotograffau o ddiddordeb hanesyddol ac archeolegol a gasglwyd gan Emyr Humphreys, gan gynnwys y pamffledi cyhoeddedig 'Adroddiad ar Gloddiadau yn Din Lligwy, Ynys Môn' gan E. Neil Baynes (Llundain: Yr Awdur, [?1931]), a gyhoeddwyd gyntaf yn ‘Archaeologia Cambrensis’, Ebrill 1908, ynghyd â thoriad dyddiedig Gorffennaf 1996; ‘An Inventory of the Ancient Monuments in Anglesey: Corrections and Additions 1937-1959’ (Llundain: HMSO, 1960); ‘Excavations at Cae Llys, Rhosyr, Ynys Môn’ (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, 1995); ‘British Landscapes Through Maps: Snowdonia’, C. Embleton (Sheffield: Y Gymdeithas Ddaearyddol, 1969); a ‘Dinefwr Castle, Dryslwyn Castle’, Sian E. Rees & Chris Caple (Caerdydd: Cadw, 1999); ynghyd â ffotograff yn dangos safle hanesyddol dienw (heb ei ddyddio), a chopi o fap Arolwg Ordnans (taflen 107) o Eryri (1952). / Various pamphlets, cuttings, and photographs of historical and archaeological interest collected by Emyr Humphreys, including the published pamphlets ‘Report on Excavations at Din Lligwy, Anglesey’ by E. Neil Baynes (London: The Author, [?1931]), first published in Archaeologia Cambrensis, April 1908, together with a cutting dated July 1996; ‘An Inventory of the Ancient Monuments in Anglesey: Corrections and Additions 1937-1959’ (London: HMSO, 1960); ‘Excavations at Cae Llys, Rhosyr, Ynys Môn’ (Gwynedd Archaeological Trust, 1995); ‘British Landscapes Through Maps: Snowdonia’, C. Embleton (Sheffield: The Geographical Association, 1969); and ‘Dinefwr Castle, Dryslwyn Castle’, Sian E. Rees & Chris Caple (Cardiff: Cadw, 1999); together with a photograph showing an unnamed historic site (undated), and a copy of an Ordnance Survey map (sheet 107) of Eryri (1952).

Papurau a llythyrau cynnar / Early papers and letters

Llythyrau at Emyr Humphreys (1941-1972), yn ymwneud yn bennaf â rhan gyntaf ei yrfa, yn cynnwys llythyrau oddi wrth M. Silyn Roberts (1), Wright Miller (1), a Gwyn Thomas (8); a phapurau cysylltiedig, yn cynnwys cofnodion y 'Calouste Gulbenkian Foundation' (1959), teithlen ar gyfer cwrs hyfforddiant 'BBC Television' (1958), a ffurflenni'r 'United Nations Relief and Rehabilitation Administration Italian Mission' (1945). / Letters to Emyr Humphreys (1941-1972), mainly relating to the earlier part of his career, including letters from M. Silyn Roberts (1), Wright Miller (1), and Gwyn Thomas (8); and related papers, including minutes for the Calouste Gulbenkian Foundation (1959), an itinerary for a BBC Television training course (1958), and forms relating to the United Nations Relief and Rehabilitation Administration Italian Mission (1945).

Papurau yn ymwneud â Saunders Lewis a David Jones / Papers relating to Saunders Lewis and David Jones

Papurau yn ymwneud â Saunders Lewis a David Jones a gasglwyd ac a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys teipysgrifau o'r traethodau 'A Necessary Figure' ac 'Enaid Digimar' (cyhoeddwyd yn Y Faner, 1985), drafft llawysgrif o draethawd yn ymwneud â'r gwaith' Excelsior' gan Saunders Lewis (heb ei ddyddio), a phamffledi a thoriadau pellach yn ymwneud â Saunders Lewis, yn cynnwys copi o deyrnged gan Thomas Parry (heb ddyddiad), teyrnged gan Theatr Ymylon ([1973]), toriad o'r Radio Times ( 1987), a phamffled 'Y Ddrama yn Ewrop' (gyda rhagair gan Emyr Humphreys); ynghyd â nodiadau teipysgrif a llawysgrif gyda’r teitl 'Hours by the Window: an artist in Philistia' (heb ddyddiad), nodiadau teipysgrif yn ymwneud â rhaglen ar David Jones gan Harlech Television (heb ddyddiad), pamffled ar gyfer Gŵyl David Jones (1973), a copi o adolygiad o 'In Parenthesis' David Jones o 'The Tablet' (1964), gan Saunders Lewis, ac o 'Time and Tide' (1952) gan Emyr Humphreys, a llyfryn ar gyfer arddangosfa David Jones (1972) , ymhlith papurau eraill. / Papers relating to Saunders Lewis and David Jones collected and written by Emyr Humphreys, comprising typescripts of the essays ‘A Necessary Figure’ and ‘Enaid Digymar’ (published in Y Faner, 1985), a manuscript draft of an essay related to the work ‘Excelsior’ by Saunders Lewis (undated), and further pamphlets and cuttings relating to Saunders Lewis, including a copy of a tribute by Thomas Parry (undated), a tribute by Theatr Ymylon ([1973]), a cutting from the Radio Times (1987), and a pamphlet ‘Y Ddrama yn Ewrop’ (with foreword by Emyr Humphreys); together with typescript and manuscript notes titled ‘Hours by the Window: an artist in Philistia’ (undated), typescript notes relating to a programme on David Jones by Harlech Television (undated), a pamphlet for the David Jones Festival (1973), a copy of a review of David Jones’ ‘In Parenthesis’ from ‘The Tablet’ (1964), by Saunders Lewis, and from ‘Time and Tide’ (1952) by Emyr Humphreys, and a booklet for a David Jones exhibition (1972), among other papers.

Papurau yn ymwneud â Tŷ Newydd / Papers relating to Tŷ Newydd

Papurau yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth Taliesin a phrydles Tŷ Newydd, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Taliesin (1989), copïau drafft o brydles Tŷ Newydd a gweithredoedd ymddiriedolaeth (1989), copi o’r weithred ymddiriedolaeth (1990), a nodiadau a threfniadau (1989); ynghyd â nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys yn dwyn y teitl ‘Canol y Cwmwd’ ([?1985]), a gwahoddiad i Emyr Humphreys roi sgwrs i’r Ymddiriedolaeth (1993). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llun (heb ddyddiad); nodiadau pellach gyda’r teitl ‘Text for Billing’ (heb eu dyddio); llythyrau oddi wrth M. A. R. Kemp (1989) ac R. Alun Evans (1990); a chopi o erthygl gan Roland Mathias o’r enw ‘Emyr Humphreys’, yn manylu ar ei weithiau llenyddol ([1980]). / Papers relating to The Taliesin Trust and the lease of Tŷ Newydd, comprising letters from the Welsh Arts Council and The Taliesin Trust (1989), draft copies of the Tŷ Newydd lease and trust deeds (1989), a copy of the trust deed (1990), and notes & arrangements (1989); together with manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys titled ‘Canol y Cwmwd’ ([?1985]), and an invitation for Emyr Humphreys to give a talk for the Trust (1993). The file also includes a photo print (undated); further notes titled ‘Text for Billing’ (undated); letters from M. A. R. Kemp (1989) and R. Alun Evans (1990); and a copy of an article by Roland Mathias titled ‘Emyr Humphreys’, detailing his literary works ([1980]).

Pennod drafft a nodiadau / A chapter draft and notes

Llyfr nodiadau wedi’i rwymo yn cynnwys nodiadau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafft llawysgrif heb deitl y mae’n debyg o bennod un o 'The Shop’. / A bound notebook containing various manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, including an untitled manuscript draft apparently of chapter one of ‘The Shop’.

Pregethau / Sermons

Bwndel o nodiadau llawysgrif (heb eu dyddio) yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau yn bennaf. / A bundle of manuscript notes (undated) in the hand of Griffith Jones and consisting mainly of sermons.

Pregethau / Sermons

Deg llyfr nodiadau (1929; 1934), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau perthynol. / Ten ruled notebooks (1929; 1934), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and related notes.

Pregethau / Sermons

Pum llyfr nodiadau, ynghyd â bwndeli o thudalennau rhydd (1918-1921), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau perthynol. Mae'r bwndel hefyd yn cynnwys toriad o'r wasg (1942). / Five ruled notebooks, together with bundles of loose leaves (1918-1921), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and related notes. The bundle also includes a press cutting (1942).

Pregethau / Sermons

Pedwar llyfr nodiadau (heb eu dyddio), gyda nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau cysylltiedig yn bennaf. / Four ruled notebooks (undated), with manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting mainly of sermons and related notes.

Pregethau, nodiadau, a chasgliadau plwyf / Sermons, notes, and parish collections

Naw o lyfrau nodiadau bychain (1920; 1922-23; 1926; 1932-1933; 1936; 1946-55), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau amrywiol eraill yn ymwneud â chasgliadau a thanysgrifiadau plwyfol, rhoddion, a nodiadau meddygol. / Nine small notebooks (1920; 1922-23; 1926; 1932-1933; 1936; 1946-55), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and various other notes relating to parish collections and subscriptions, donations, and medical notes.

Prifysgol Aberystwyth / Aberystwyth University

Llythyrau at Emyr Humphreys, a rhai papurau cysylltiedig (1962; 1995-1999), yn ymwneud â materion amrywiol, gan gynnwys comisiynu ‘Blodeugerdd Gymreig i Croatia’, a rôl Emyr Humphreys fel arholwr ar gyfer penodi PhD a swydd yn Prifysgol Aberystwyth. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ioan Miles Williams (2); Elan Closs Stephens (1); Hazel Walford Davies (3); R. C. T. Fletcher (1); Alun Lloyd Davies (1); David I. Rabey (1); Marisa Bulgheroni (1); Phyllis & Fiona [?] (1); Tony Deyes (2); Rosana Besednik (1); a rhai atebion gan Emyr Humphreys. Yn ogystal, mae’r ffeil yn cynnwys proflenni clawr ar gyfer ‘Flesh and Blood’, a dau gopi o erthygl a gyhoeddwyd yn ‘Lleufer: Cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Yng Nhgymru’ (1962). / Letters to Emyr Humphreys, and some related papers (1962; 1995-1999), relating to various matters, including commission of a ‘Welsh Anthology for Croatia’, and Emyr Humphreys’ role as an examiner for the appointment of a PhD and position at Aberystwyth University. The file includes letters from Ioan Miles Williams (2); Elan Closs Stephens (1); Hazel Walford Davies (3); R. C. T. Fletcher (1); Alun Lloyd Davies (1); David I. Rabey (1); Marisa Bulgheroni (1); Phyllis & Fiona [?] (1); Tony Deyes (2); Rosana Besednik (1); and some replies from Emyr Humphreys. Additionally, the file includes cover proofs for ‘Flesh and Blood’, and two copies of an article published in ‘Lleufer: Cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Yng Nhgymru’ (1962).

Proflenni / Proofs

Proflenni teipysgrif o benodau 7-26 o ailargraffiad 1996 o ‘Outside the House of Baal’, ynghyd â nodiadau testunol gan M. Wynn Thomas. / Typescript proofs of chapters 7-26 of the 1996 reprint of ‘Outside the House of Baal’, along with textual notes by M. Wynn Thomas.

Proflenni / Proofs

Proflenni teipysgrif, gyda chywiriadau, mae'n debyg ar gyfer yr argraffiad cyntaf o ‘The Best of Friends’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1978). / Typescript proofs, with corrections, apparently for the first edition of ‘The Best of Friends’ (London: Hodder & Stoughton, 1978).

Proflenni / Proofs

Set bron yn gyflawn o broflenni (tt. 2-211) ar gyfer rhifyn 1999 o ‘Salt of the Earth’ (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999). / A near complete set of page proofs (pp. 2-211) for the 1999 edition of ‘Salt of the Earth’ (Cardiff: University of Wales Press, 1999).

Proflenni / Proofs

Set gyflawn o broflenni, gyda rhai cywiriadau, ar gyfer ail argraffiad y nofel ‘Open Secrets’ yn 2000 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2000). / A full set of page proofs, with some corrections, for the reissue of the novel ‘An Absolute Hero’ in 2000 (Cardiff: University of Wales Press, 2000).

Proflenni / Proofs

Set gyflawn o broflenni, gyda rhai cywiriadau, ar gyfer ail argraffiad y nofel ‘National Winner’ yn 2000 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2000). / A full set of page proofs, with some corrections, for the reissue of the novel ‘National Winner’ in 2000 (Cardiff: University of Wales Press, 2000).

Results 181 to 200 of 297