Showing 297 results

Archival description
Emyr Humphreys Papers File English
Advanced search options
Print preview View:

'Figures in a Landscape' gyda nodiadau a drafftiau pellach / with further notes and drafts

Papurau amrywiol yn ymwneud ag erthyglau a drafftiau gan Emyr Humphreys, gan gynnwys teipysgrif o erthygl ‘Figures in a Landscape’ (heb ei ddyddio); teipysgrif o bennod heb deitl wedi'i chyfieithu i'r Almaeneg (heb ddyddiad); tudalen teipysgrif gyda’r teitl ‘Theatr Fach Garthewin’ (heb ddyddiad); drafft llawysgrif gyda’r teitl ‘the Prospect of Retirement’ (heb ddyddiad); llyfr nodiadau bach wedi’i labelu ‘Y Cyfweliad’, yn cynnwys drafft llawysgrif o sgript gyda’r un teitl ([?1987]); nodiadau llawysgrif di-deitl pellach yn llaw Emyr Humphreys (dyddiedig 1938; 1995; 2004-2005); a theipysgrif o’r gerdd ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’ gan Gruffudd ab Yr Ynad Coch (heb ei ddyddio). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys llythyr at Emyr Humphreys (2011), rhaglen ar gyfer seremoni gradd er anrhydedd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1990), a gorchmynion gwasanaeth ar gyfer angladdau E. Huw Penry (2011) a Cyril Glyndwr Williams ( 2004). / Various papers relating to articles and drafts by Emyr Humphreys, including a typescript of an article ‘Figures in a Landscape’ (undated); a typescript of an untitled chapter translated into German (undated); a typescript page titled ‘Theatr Fach Garthewin’ (undated); a manuscript draft titled ‘the Prospect of Retirement’ (undated); a small notebook labelled ‘Y Cyfweliad’, containing a manuscript draft of a script with the same title ([?1987]); further untitled manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys (dated 1938; 1995; 2004-2005); and a typescript of the poem ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’ by Gruffudd ab Yr Ynad Coch (undated). The file also contains a letter to Emyr Humphreys (2011), a programme for an honorary degree ceremony, University of Wales, Aberystwyth (1990), and orders of service for the funerals of E. Huw Penry (2011) and Cyril Glyndwr Williams (2004).

'Figures in a Landscape'

Llyfr nodiadau mawr ([?1990au]) yn cynnwys drafft rhannol llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys o stori fer anghyhoeddedig wedi’i theitlo ‘Figures in a Landscape’, ynghyd â rhai drafftiau o farddoniaeth. / A large notepad ([?1990s]) containing a partial manuscript draft in the hand of Emyr Humphreys of an unpublished short story titled ‘Figures in a Landscape’, together with some drafts of poetry.

'Fickle Fact and Sober Fiction' / 'Y Gwir Di-Goll'

Dau ddrafft teipysgrif o’r ddarlith ‘Fickle Fact and Sober Fiction’ (‘Y Gwir Di-Goll’), gyda chywiriadau a nodiadau (Darlith Ben Bowen Thomas, a rhoddwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru, Yr Wyddgrug, Medi 1985); ynghyd â thri chopi teipysgrif arall o'r un darlith, gyda cywiriadau amrywiol a rhai nodiadau, ac un copi teipysgrif ac un copi rhannol o ddrafftiau o’r fersiwn Gymraeg 'Y Gwir Di-Goll', gyda chywiriadau a nodiadau (cyhoeddwyd fel 'Y Gwir Di- Goll – Fickle Fact and Sober Fiction’ (Bangor: Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru, 1986) Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys teipysgrif o erthygl ‘The Third Difficulty’ (cyhoeddwyd yn Planet 61 (1987), tt. 16-25), a llythyrau oddi wrth Emyr Humphreys (1972, heb ei lofnodi) a Colin Scott (1995). / Two typescript drafts of the lecture ‘Fickle Fact and Sober Fiction’ (‘Y Gwir Di-Goll’), with corrections and notes (The Ben Bowen Thomas Lecture, delivered at the North Wales Arts Association AGM, Mold, September 1985); together with three more typescript copies of the same, with various corrections and some notes, and one typescript copy and one partial copy of drafts of Welsh version ‘Y Gwir Di-Goll’, with corrections and notes (published as ‘Y Gwir Di-Goll – Fickle Fact and Sober Fiction’ (Bangor: North Wales Arts Association, 1986). The file also contains a typescript of an article ‘The Third Difficulty’ (published in Planet 61 (1987), pp. 16-25), and letters from Emyr Humphreys (1972, unsigned) and Colin Scott (1995).

Ffotograffau / Photographs

Ffotograffau du a gwyn yn dangos cynyrchiadau o ddramâu teledu’r BBC, yn cynnwys dau o gynhyrchiad y BBC o ‘Esther’ gan Saunders Lewis (1961); dau o gynhyrchiad y BBC o ‘Treason’ gan Saunders Lewis (1959); un o gynhyrchiad y BBC o ddrama gan W. S. Jones ‘A Car in the Thicket’ (1959); a thri llun arall yn ymwneud â chynyrchiadau teledu (di-deitl a heb ddyddiad). / Black and white photographs depicting productions of BBC television plays, consisting of two of the BBC production of Saunders Lewis’s ‘Esther’ (1961); two of the BBC production of Saunders Lewis’s ‘Treason’ (1959); one from BBC production of W. S. Jones's play ‘A Car in the Thicket’ (1959); and three other photographs relating to TV productions (untitled and undated).

F

Llythyrau at Emyr Humphreys (1993; 1999), oddi wrth Peter Florence (4), yn trafod Gŵyl y Gelli. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyr oddi wrth Tony Bianchi (1). / Letters to Emyr Humphreys (1993; 1999), from Peter Florence (4), regarding the Hay Festival. The file also includes a letter from Tony Bianchi (1).

Erthyglau, toriadau, teipysgrifau, a phamffledi / Articles, cuttings, typescripts, and pamphlets

Erthyglau, toriadau, teipysgrifau, a phamffledi yn ymwneud â Saunders Lewis a gasglwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys teipysgrifau a drafftiau o erthyglau gan Emyr Humphreys yn cynnwys ‘A Necessary Figure’ (cyhoeddwyd Welsh Books & Writers / Llên a Llyfrau Cymru, 1979), ynghyd â copi o'r erthygl gyhoeddedig; ‘Cyfieithu S. L.’ (cyhoeddwyd Y Faner, 1985), gyda chopi cyhoeddedig ohono; ‘Bro a Bywyd S. L.’ (heb ei ddyddio); ‘Theatr Saunders Lewis’ (cyhoeddwyd Bangor: Cymdeithas Theatr Cymru, 1979); a ‘Noson y Tân’ (heb ei ddyddio); ynghyd â chopïau o weithiau gan Saunders Lewis, gan gynnwys y ddrama ‘Gwaed yr Uchelwyr’ (Caerdydd: The Educational Publishing Co., 1922); ac ‘Wrth Aros Godot’, cyfieithiad o ‘En Attendand Godot’ gan Samuel Beckett (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1970); y pamffledi 'Y Blaid i Gymru: Ymatebion Saunders Lewis a J. E. Daniel i Mr Gwilym Davies', [?1942], 'Yr Achos dros Gyngor Datblygu Cenedlaethol Cymreig' ([?1933]), 'Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio ' gan Saunders Lewis a Lewis Valentine (1936), 'At Etholwyr Prifysgol Cymru' (1942); ac ‘At Etholwyr Prifysgol Cymru’ gan W. J. Gruffydd (1945) a ‘Llythyr i Mr Saunders Lewis’, (Etholiad Prifysgol Cymru, 1943). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglenni i’r dramâu ‘Gymerwch Chi Sigaret?’ gan Saunders Lewis, (Theatr yr Ymylon, 1978), a ‘Cymod Cadarn: Teyrnged i Mr Saunders Lewis’ gan Emyr Humphreys (Cwmni Theatr Cymru, 1973); toriadau o'r wasg yn ymwneud â Saunders Lewis (1972; 1977); rhaglen ar gyfer ‘Cyflwyno Penddelwau Saunders Lewis / Presentation of Busts of Saunders Lewis’, Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1984); a chopi o rodd er anrhydedd i Saunders Lewis gan Brifysgol Cymru (1983). / Articles, cuttings, typescripts, and pamphlets relating to Saunders Lewis collected by Emyr Humphreys, comprising typescripts and drafts of articles by Emyr Humphreys including ‘A Necessary Figure’ (published Welsh Books & Writers / Llên a Llyfrau Cymru, 1979), together with a copy of the published article; ‘Cyfieithu S. L.’ (published Y Faner, 1985), with a published copy of the same; ‘Bro a Bywyd S. L.’ (undated); ‘Theatr Saunders Lewis’ (published Bangor: Cymdeithas Theatr Cymru, 1979); and ‘The Night of the Fire’ (undated); together with copies of works by Saunders Lewis, including the drama ‘Gwaed yr Uchelwyr’ (Cardiff: The Educational Publishing Co., 1922); ‘Wrth Aros Godot’, a translation of ‘En Attendand Godot’ by Samuel Beckett (Cardiff: University of Wales Press, 1970); the pamphlets ‘The Party for Wales: Replies by Saunders Lewis & J.E. Daniel to Mr Gwilym Davies’, [?1942], ‘The Case for a Welsh National Development Council’ ([?1933]), ‘Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio’ by Saunders Lewis & Lewis Valentine (1936), ‘To the Electors of the University of Wales’ (1942); and ‘At Etholwyr Prifysgol Cymru’ by W.J. Gruffydd (1945) and ‘Llythyr Cefnogaeth i Mr Saunders Lewis’, (Etholiad Prifysgol Cymru, 1943). The file also includes programmes for the dramas ‘Gymerwch Chi Sigaret?’ by Saunders Lewis, (Theatr yr Ymylon, 1978), and ‘Cymod Cadarn: Teyrnged i Mr Saunders Lewis’ by Emyr Humphreys (Cwmni Theatr Cymru, 1973); press cuttings relating to Saunders Lewis (1972; 1977); a programme for ‘Cyflwyno Penddelwau Saunders Lewis / Presentation of Busts of Saunders Lewis’, National Museum Wales (1984); and a copy of a bestowment of honorary degree for Saunders Lewis from the University of Wales (1983).

Erthyglau amrywiol yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys / Various articles relating to works by Emyr Humphreys

Erthyglau gan M. Wynn Thomas yn ymwneud â gwaith Emyr Humphreys, gan gynnwys teipysgrifau o erthyglau gyda’r teitlau 'Literature in English' (cyhoeddwyd yn ‘Glamorgan County History’ cyf. 6, [1988], tt. 353-66), ‘Many Happy Intellections: the poetry of Emyr Humphreys on his eightieth birthday’ ([?1999]), 'Noson i anrhydeddu Emyr Humphreys' (ysgrifennwyd ar gyfer digwyddiad yn Llyfrgell y Rhyl, 1990), 'Emyr Humphreys: Regional Novelist?' (cyhoeddwyd yn 'The Regional Novel in Britain and Ireland, 1800-1990', golygwyd gan K.D.M. Snell (Caergrawnt: CUP, 1998)), a 'Hidden Attachments: aspects of the relationship between two literatures of modern Wales' (cyhoeddwyd yn 'Welsh Writing in English', 1995). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys tri llythyr at Emyr Humphreys oddi wrth M. Wynn Thomas (1988; 1995); teipysgrif o ‘Afterword’, nodiadau testunol (1994), ac addasiad arfaethedig ar gyfer ailgyhoeddiad 1998 o ‘Outside the House of Baal’ (Pen-y-bont: Seren, 1998); teipysgrif o ‘Afterword’ ar gyfer yr ailgyhoeddiad o ‘A Toy Epic’ (Pen-y-bont: Seren, 1993); a chopi o doriad o'r wasg (1989). / Articles by M. Wynn Thomas relating to the work of Emyr Humphreys, including typescripts of articles titled ‘Literature in English’ (published in Glamorgan County History vol. 6, [1988], pp. 353-66), ‘Many Happy Intellections: the poetry of Emyr Humphreys on his eightieth birthday’ ([?1999]), ‘Noson i anrhydeddu Emyr Humphreys’ (written for an event in Rhyl Library, 1990), ‘Emyr Humphreys: Regional Novelist?’ (published in ‘The Regional Novel in Britain and Ireland, 1800-1990’, edited by K.D.M. Snell (Cambridge: CUP, 1998)), and ‘Hidden Attachments: aspects of the relationship between the two literatures of modern Wales’ (published in ‘Welsh Writing in English’, 1995). The file also contains three letters to Emyr Humphreys from M. Wynn Thomas (1988; 1995); a typescript of ‘Afterword’, textual notes (1994), and proposed emendation for the 1998 reissue of ‘Outside the House of Baal’ (Bridgend: Seren, 1998); a typescript of ‘Afterword’ for the reissue of ‘A Toy Epic’ (Bridgend: Seren, 1993); and a copy of a press cutting (1989).

'Emyr Humphreys: regional novelist?' ac erthyglau eraill / and other articles

Erthyglau gan M. Wynn Thomas yn ymwneud â gwaith Emyr Humphreys, gan gynnwys teipysgrifau o'r erthyglau 'Emyr Humphreys: mythic realist' ([1990]), 'Emyr Humphreys: regional novelist?' ([1990]), 'Ewtopia: cyfandir dychymyg y Cymry' (cyhoeddwyd yn ‘Cymru a'r Cymry’ 2000, 2001, tt. 99-118); ynghyd ag adolygiad o nofel Emyr Humphreys 'Open Secrets' (ar gyfer argraffiad a gyhoeddwyd London: Dent, 1988), teipysgrif o 'Afterword' i ailgyhoeddiad o 'Outside the House of Baal' (Pen-y-bont: Seren, 1998), a llythyr oddi wrth M. Wynn Thomas at Emyr Humphreys (1990). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys o'r enw 'Welsh Time' (2003), nodiadau pellach o'r enw 'Half a Person' (yn ymwneud yn ôl pob golwg â'r nofel 'The Shop' (Pen-y-bont: Seren, 2005), a thudalen o 'Newyddion Coleg y Brifysgol Abertawe' (1991). / Articles by M. Wynn Thomas relating to the work of Emyr Humphreys, including typescripts of the articles ‘Emyr Humphreys: mythic realist’ ([1990]), ‘Emyr Humphreys: regional novelist?’ ([1990]), ‘Ewtopia: cyfandir dychymyg y Cymry’ (published in Cymru a'r Cymry 2000, 2001, pp. 99-118); together with a review of Emyr Humphreys’ novel ‘Open Secrets’ (for edition published London: Dent, 1988), a typescript of ‘Afterword’ to the reissue of ‘Outside the House of Baal’ (Bridgend: Seren, 1998), and a letter from M. Wynn Thomas to Emyr Humphreys (1990). The file also contains manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys titled ‘Welsh Time’ (2003), further notes titled ‘Half a Person’ (apparently related to the novel ‘The Shop’ (Bridgend: Seren, 2005), and a page from ‘Newyddion Coleg y Brifysgol Abertawe’ (1991).

E

Gohebiaeth (1993-2001), yn cynnwys llythyrau a chardiau oddi wrth Meredydd Evans (Merêd) (5), ac at Merêd oddi wrth Aled Eurig (1), Emyr Humphreys (2), a Garffild Lloyd Lewis (1); ac at Emyr Humphreys oddi wrth Merêd a Phyllis Kinney (1), R. J. Evans (1), Meredith Edwards (1), ac Huw a Frieda Ethall (1). / Correspondence (1993-2001), including letters and cards from Meredydd Evans (Merêd) (5), and to Merêd from Aled Eurig (1), Emyr Humphreys (2), and Garffild Lloyd Lewis (1); and to Emyr Humphreys from Merêd and Phyllis Kinney (1), R. J. Evans (1), Meredith Edwards (1), and Huw and Frieda Ethall (1).

Dwy sgript gan W. S. Jones / Two scripts by W. S. Jones

Dwy sgript (heb eu dyddio) yn cynnwys teipysgrif o ddrama gyda’r teitl 'Pregeth Pwy' gan W. S. Jones ('Wil Sam'), a drafft teipysgrif o ddrama radio gyda’r teitl 'Y Gadair Olwyn', hefyd gan W. S. Jones. Er na chynhwyswyd y rhain yn y cyhoeddiad, rhaid nodi mai Emyr Humphreys a ysgrifennodd y rhagymadrodd i’r gyfrol ‘Deg Drama Wil Sam’ (Capel Garmon: Gwasg Carreg Gwalch, 1995). / Two scripts (undated) consisting of a typescript of a drama titled ‘Pregeth Pwy’ by W. S. Jones (‘Wil Sam’), and a typescript draft of a play for radio titled ‘Y Gadair Olwyn (The Wheel Chair)’, also by W. S. Jones. Although these were not included in the publication, it must be noted that Emyr Humphreys wrote the introduction to the volume ‘Deg Drama Wil Sam’ (Capel Garmon: Gwasg Carreg Gwalch, 1995).

Drafftiau, torion, a theipysgrifau o erthyglau / Drafts, cuttings, and typescripts of articles

Copïau a thoriadau o erthyglau gan Emyr Humphreys, gan gynnwys copi o’r ddarlith ‘The Crucible of Myth’ (cyhoeddwyd gan Goleg Prifysgol Abertawe, 1990); copi o bennod o’r enw ‘Taliesin’s Children’ ([?1998]); copïau o’r erthyglau ‘Arnold in Wonderland’ (cyhoeddwyd yn ‘Miscellany Two’ (Pen-y-bont: Poetry Wales Press, 1981)), ‘The Night of the Fire’ (cyhoeddwyd yn Planet 49/50, 1980), ‘A Lost Leader? The Britishness of Huw Wheldon’ (Planet 83, 1990), ‘Bilingual Murmurs’ (heb ddyddiad), ‘The Third Difficulty’ (Planet 61, 1987), ‘The Empty Space – Creating a Novel’ (heb ddyddiad), a 'Teledu a Ni' (heb ddyddiad); ynghyd â chopïau o doriadau o'r erthyglau 'Under the Yoke' (New Welsh Review 1/3, 1988), 'Notes on the Novel' (New Welsh Review 35, 1996), a thoriad di-deitl o 'The Listener' (1953). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nodiadau a drafftiau pellach gan gynnwys drafft llawysgrif o draethawd ‘Book on the Moon’ (heb ei ddyddio). / Copies and cuttings of articles by Emyr Humphreys, including a copy of the lecture ‘The Crucible of Myth’ (published by University College Swansea, 1990); a copy of a chapter titled ‘Taliesin’s Children’ ([?1998]); copies of the articles ‘Arnold in Wonderland’ (published in ‘Miscellany Two’ (Bridgend: Poetry Wales Press, 1981)), ‘The Night of the Fire’ (published in Planet 49/50, 1980), ‘A Lost Leader? The Britishness of Huw Wheldon’ (Planet 83, 1990), ‘Bilingual Murmurs’ (undated), ‘The Third Difficulty’ (Planet 61, 1987), ‘The Empty Space – Creating a Novel’ (undated), and ‘Television and Us’ (undated); together with copies of cuttings from the articles ‘Under the Yoke’ (New Welsh Review 1/3, 1988), ‘Notes on the Novel’ (New Welsh Review 35, 1996), and an untitled cutting from ‘The Listener’ (1953). The file also contains further notes and drafts including a manuscript draft of an essay ‘Book on the Moon’ (undated).

Drafftiau teipysgrif gyda nodiadau / Typescript drafts with notes

Drafft teipysgrif, gydag anodiadau, brasluniau a nodiadau yn llaw Emyr Humphreys, o sgript ar gyfer drama wedi'i theitlo 'The Etruscan Smile' (1989), ynghyd â theipysgrif bellach o sgript o'r enw 'Delicate Mistakes, Elemental Powers' ( 1991), a thudalennau o nodiadau a chyfieithiadau yn Eidaleg. / A typescript draft, with annotations, sketches and notes in the hand of Emyr Humphreys, of a script for a drama titled ‘The Etruscan Smile’ (1989), together with a further typescript of a script titled ‘Delicate Mistakes, Elemental Powers’ (1991), and pages of notes and translations in Italian.

Drafftiau teipysgrif / Typescript drafts

Dau deipysgrif o sgript ar gyfer y ddrama ‘Angel o’r Nef’ (1984), ynghyd â cherdyn dyddiedig 1998. / Two typescripts of a script for the drama ‘Angel o’r Nef’ (1984), together with a card dated 1998.

Drafftiau teipysgrif / Typescript drafts

Teipysgrifau (2017), dan y teitl ‘Shards of Light: Unpublished Poems by Emyr Humphreys’ ac yn cynnwys drafftiau o gerddi gyda’r teitlau ‘The Extra’, ‘Over to You’, ‘Survival’, ‘Whispers’, ‘Ultimate Discoveries’, ‘Where are they Gone’, ‘Making Butter, Old Style’, ‘Sacred Tree?’, ‘Notes on a Page’, ‘A Moth at St James’s’, ‘An Open Secret’, ‘A Blessing’, ‘We Are Old Age’, ‘The Fly’, ‘A Day in Hand (02/2017)’, ‘Picking up Signals’, ‘A Political Cry’, ‘A Clergyman Muses’, ‘The Art Critic’, a ‘More’; cyhoeddwyd llawer ohonynt yn ‘Shards of Light’ (Caerdydd: UOP, 2018). / Typescripts (2017), titled ‘Shards of Light: Unpublished Poems by Emyr Humphreys’ and including drafts of poems titled ‘The Extra’, ‘Over to You’, ‘Survival’, ‘Whispers’, ‘Ultimate Discoveries’, ‘Where are they Gone’, ‘Making Butter, Old Style’, ‘Sacred Tree?’, ‘Notes on a Page’, ‘A Moth at St James’s’, ‘An Open Secret’, ‘A Blessing’, ‘We Are Old Age’, ‘The Fly’, ‘A Day in Hand (02/2017)’, ‘Picking up Signals’, ‘A Political Cry’, ‘A Clergyman Muses’, ‘The Art Critic’, and ‘More’; many of which were published in ‘Shards of Light’ (Cardiff: UOP, 2018)

Drafftiau teipysgrif / Typescript drafts

Teipysgrifau (2008), gyda rhai cywiriadau, o ddrafftiau o straeon byrion gyda’r teitlau 'The Woman at the Window', 'The Ring and the Book', 'Three Old Men', 'A Little History', 'Rendezvous', 'The Garden Cottage’, ‘Home’, ac ‘A Little History’, a gyhoeddwyd i gyd yn ‘The Woman at the Window’ (Pen-y-bont: Seren, 2009). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys drafftiau llawysgrif wedi’u teitlo ‘A Cheerful Women’ a ‘Home’; a chopi o e-bost oddi wrth Kuniko Fujisawa (2009). / Typescripts (2008), with some corrections, of drafts of short stories titled ‘The Woman at the Window’, ‘The Ring and the Book’, ‘Three Old Men’, ‘A Little History’, ‘Rendezvous’, ‘The Garden Cottage’, ‘Home’, and ‘A Little History’, all of which were published in ‘The Woman at the Window’ (Bridgend: Seren, 2009). The file also includes manuscript drafts titled ‘A Cheerful Women’ and ‘Home’; and a copy of an email from Kuniko Fujisawa (2009).

Drafftiau rhannol amrywiol / Various partial drafts

Llyfr nodiadau (1997-1998; 2010) yn cynnwys nodiadau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau rhannol o straeon byrion gyda’r teitlau 'The Last Shot', 'In the Moonlight', ‘The Nephew', 'Life at the Top of the Tree'/'Top of the Tree', 'Notes on an Unwritten Novel', 'Making a Bomb', 'Two Doctors', 'Goronwy' a 'Figures in a Landscape'; ynghyd â drafftiau o erthyglau gyda’r teitlau ‘Taliesin’s Children’, ‘Elinor’, a ‘History & Fiction’. / An exercise book (1997-1998; 2010) containing various manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, including partial drafts of short stories titled ‘The Last Shot’, ‘In the Moonlight’, ‘The Nephew’, ‘Life at the Top of the Tree’/‘Top of the Tree’, ‘Notes on an Unwritten Novel’, ‘Making a Bomb’, ‘Two Doctors’, ‘Goronwy’ and ‘Figures in a Landscape’; together with drafts of articles titled ‘Taliesin’s Children’, ‘Elinor’, and ‘History & Fiction’.

Drafftiau rhannol / Partial drafts

Llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau a ddrafftiau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau (rhai rhannol) o straeon byrion gyda’r teitlau ‘Byw Ar Y Brig', 'Work in Progress', 'Life at the Top of the Tree', a 'Happy Ending'; ynghyd â drafftiau o farddoniaeth. / A notebook containing various manuscript notes and drafts in the hand of Emyr Humphreys, including drafts (some partial) of short stories titled 'Byw Ar Y Brig’, ‘Work In Progress’, ‘Life at the Top of the Tree’, and ‘Happy Ending’; together with drafts of poetry.

Drafftiau rhannol / Partial drafts

Llyfr nodiadau ([?2000au]) yn cynnwys drafftiau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau o'r straeon byrion 'Little Bella', 'Suspicions', 'Walter Blade Reports', 'Ruthie', a 'Figures at a Funeral' , cyhoeddwyd y ddau olaf yn 'Old People are a Problem' (Pen-y-bont: Seren, 2003). / A notepad ([?2000s]) containing manuscript drafts in the hand of Emyr Humphreys, including drafts of the short stories ‘Little Bella’, ‘Suspicions’, ‘Walter Blade Reports’, ‘Ruthie’, and ‘Figures at a Funeral’, the latter two of which were published in ‘Old People are a Problem’ (Bridgend: Seren, 2003).

Drafftiau o benodau / Chapter drafts

Llyfr nodiadau A4 yn cynnwys drafftiau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys ynghyd â rhai tudalennau teipysgrif, yn cynnwys drafftiau o benodau 3, 4, 5, 6, 8 a 10 o ‘The Shop’. / An A4 notebook containing manuscript drafts in the hand of Emyr Humphreys along with some typescript inserts, consisting of drafts of chapters 3, 4, 5, 6, 8 and 10 of ‘The Shop’.

Results 201 to 220 of 297