Showing 297 results

Archival description
Emyr Humphreys Papers File English
Advanced search options
Print preview View:

Crynodebau cyfres / Series synopses

Crynodebau o weithiau o’r gyfres ‘Land of the Living’, gan gynnwys crynodeb llawysgrif o ‘National Winner’ nad yw yn llaw Emyr Humphreys (1988); crynodeb teipysgrif o'r gyfres (1990), gyda chrynodeb o benodau ar gyfer sgript yn seiliedig ar yr un peth; a chrynodeb teipysgrif o ‘Salt of the Earth’ (heb ddyddiad). / Synopses of works from the ‘Land of the Living’ series, including a manuscript synopsis of ‘National Winner’ not in the hand of Emyr Humphreys (1988); a typescript synopsis of the series (1990), with a summary of episodes for a script based on the same; and a typescript summary of ‘Salt of the Earth’ (undated).

Crynodeb sgript a phapurau cysylltiedig / Script summary and related papers

Papurau (1989-1990), yn ymwneud â sgript ar gyfer drama gyda'r teitl ‘The Etruscan Smile’, gan gynnwys teipysgrif o grynodeb o’r sgript; llythyrau oddi wrth Alan Clayton (1) a Dewi Humphreys (2); a dau doriad o’r wasg, un o’r papur newydd Eidalaidd ‘Il Messaggero’. / Papers (1989-1990), relating to a script for a drama titled ‘The Etruscan Smile’, including a typescript of a script summary; letters from Alan Clayton (1) and Dewi Humphreys (2); and two press cuttings, one from the Italian newspaper ‘Il Messaggero’.

Crynodeb / Synopsis

Crynodeb teipysgrif o'r nofel 'National Winner' (a gyhoeddwyd yn wreiddiol Llundain: Macdonald & Co., 1971), a ysgrifennwyd o bosibl ar gyfer ei hailgyhoeddi am y tro cyntaf yn 1990 (London: Sphere, 1990), ynghyd â chrynodeb teipysgrif o nofel â'r teitl gweithredol 'Hostile Witness' (1988), cyhoeddwyd fel 'Bonds of Attachment' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991). / A typescript synopsis of the novel ‘National Winner’ (originally published London: Macdonald & Co., 1971), possibly written for its first reissue in 1990 (London: Sphere, 1990) along with a typescript summary of a novel with the working title ‘Hostile Witness’ (1988), published as ‘Bonds of Attachment’ (Cardiff: University of Wales Press, 1991).

Cronfa Goffa Saunders Lewis / Saunders Lewis Memorial Fund

Papurau yn ymwneud â Chronfa Goffa Saunders Lewis, yn cynnwys papurau gweinyddol gan gynnwys cofnodion ac agendâu cyfarfodydd (1989-1996; 1998), gwybodaeth cyfrifon (1989-1991; 1994-1998), datganiad o ymddiriedaeth (1989), a gweithred amrywio (1998); ceisiadau i'r gronfa, gan gynnwys tystlythyrau a llythyrau argymhelliad oddi wrth John Isgoed Williams, Phil Cooke, D. Ellis Evans, Ann Jefferson, Gareth Williams, Richard Wyn Jones, Malcolm Bowie, a James Naughton (1995-1996; 1999); a gohebiaeth (1975; 1977-1979; 1986; 1989-1991; 1996; 1998-1999) yn cynnwys llythyrau a drafftiau o lythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd (2), Emyr Humphreys (7), William Griffiths (1), Alun Creunant Davies (2), Ann Ffrancon (1), a Meredydd Evans, 'Merêd' (1). / Papers relating to Cronfa Goffa Saunders Lewis (Saunders Lewis Memorial Fund), consisting of administrative papers including meeting minutes and agendas (1989-1996; 1998), accounts information (1989-1991; 1994-1998), declaration of trust (1989), and deed of variation (1998); applications to the fund, including references and letters of recommendation from John Isgoed Williams, Phil Cooke, D. Ellis Evans, Ann Jefferson, Gareth Williams, Richard Wyn Jones, Malcolm Bowie, and James Naughton (1995-1996; 1999); and correspondence (1975; 1977-1979; 1986; 1989-1991; 1996; 1998-1999) including letters and drafts of letters from R. Geraint Gruffydd (2), Emyr Humphreys (7), William Griffiths (1), Alun Creunant Davies (2), Ann Ffrancon (1), and Meredydd Evans, ‘Merêd’ (1).

Copi prawf / Proof copy

Copi prawf o 'The Taliesin Tradition', ynghyd â nodyn oddi wrth Richard Rhys (Dynevor), Black Raven Press (1983). / A proof copy of 'The Taliesin Tradition', together with a note from Richard Rhys (Dynevor), Black Raven Press (1983).

Comisiynau a digwyddiadau / Commissions and events

Llythyrau at Emyr Humphreys (1978-1998), yn ymwneud yn bennaf â digwyddiadau a chomisiynau llenyddol amrywiol, gan gynnwys Gŵyl Lenyddiaeth Caerdydd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Gŵyl Llyfrgell Clwyd, cynyrchiadau i BBC Cymru ac ITV, a chomisiynau ar gyfer cyhoeddiadau. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau, rhai ag atebion gan Emyr Humphreys, oddi wrth Alun Richards (1); Joseph Clancy (1); Rhian Huws (1); Tony Bianchi (2); Ruth John (1); Rheinallt Llwyd (2); Eleri Hopcyn (1); Dafydd Rogers (1); Owen Edwards (1); Maria Bulgheroni (1); Llinos Angharad (1); Pauline Price (1); Hugh Powell (1); W. Gwyn Williams (1); Manon Edwards (1); Carolyn Watts (1); John Barnie (1); Robin Reeves (4); John [?] (1); Jenny Ross (1); Sarah Stone (1); Pauline Price (1); Ann Ffrancon (1); Christopher Reid (1); Marian Roberts (1); Ioan Miles Williams (1); a Kenneth Morgan (1). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglen ar gyfer Gŵyl Lenyddiaeth Caerdydd 1991; rhai copïau teipysgrif a drafftiau, gan gynnwys traethawd o’r enw ‘On Writing Novels’; a diagram wedi’i labelu yn Eidaleg. / Letters to Emyr Humphreys (1978-1998), mainly relating to various literary events and commissions, including the Cardiff Festival of Literature, the Welsh Arts Council, Clwyd Library Festival, productions for BBC Wales and ITV, and commissions for publications. The file includes letters, some with replies from Emyr Humphreys, from Alun Richards (1); Joseph Clancy (1); Rhian Huws (1); Tony Bianchi (2); Ruth John (1); Rheinallt Llwyd (2); Eleri Hopcyn (1); Dafydd Rogers (1); Owen Edwards (1); Maria Bulgheroni (1); Llinos Angharad (1); Pauline Price (1); Hugh Powell (1); W. Gwyn Williams (1); Manon Edwards (1); Carolyn Watts (1); John Barnie (1); Robin Reeves (4); John [?] (1); Jenny Ross (1); Sarah Stone (1); Pauline Price (1); Ann Ffrancon (1); Christopher Reid (1); Marian Roberts (1); Ioan Miles Williams (1); and Kenneth Morgan (1). The file also contains a programme for the Cardiff Festival of Literature 1991; some typescript copies and drafts, including an essay titled ‘On Writing Novels’; and a diagram labelled in Italian.

Comisiynau a chytundebau / Commissions and agreements

Cytundebau a memoranda (1984-1997) ar gyfer sgriptiau ar gyfer cynyrchiadau gan Ffilmiau Bryngwyn, gan gynnwys cytundebau ar gyfer y drama ‘Yr Eneth Fwyn’ (BBC); y dramâu teledu ‘Dwylo’ (BBC), ‘Ŵyn i’r Lladdfa’ (S4C) a ‘Byw yn Rhydd’ (S4C); a’r gyfresau ddogfen ‘The Hidden Source’ a ‘British Myths’. / Contract agreements and memoranda (1984-1997) for scripts for productions by Ffilmiau Bryngwyn, including contracts for the teleplay ‘Yr Eneth Fwyn’ (BBC); the television dramas ‘Dwylo’ (BBC), ‘Ŵyn i’r Lladdfa’ (S4C) and ‘Byw yn Rhydd’ (S4C); and the documentary series ‘The Hidden Source’ and ‘British Myths’.

'Cofio Daniel'

Dau deipysgrif, gyda rhai cywiriadau, o sgript ar gyfer drama gyda'r teitl ‘Cofio Daniel’, addasiad o ‘Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel’ gan Daniel Owen (cyhoeddwyd gyntaf Amwythig: J. Ll. Morris, 1885); ynghyd â phedwar teipysgrif drafft o grynodebau sgriptiau, ynghyd â theipysgrifau amrywiol eraill a nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys, map o dref yr Wyddgrug, a chopi o restr o weithiau gan Daniel Owen ([?1936]). / Two typescripts, with some corrections, of a script for a drama titled ‘Cofio Daniel’, an adaptation of ‘Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel’ by Daniel Owen (first published Shrewsbury: J. Ll. Morris, 1885); together with four typescript drafts of script summaries, with various other typescripts and manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, a map of Mold town, and a copy of a list of works by Daniel Owen ([?1936]).

B

Llythyrau at Emyr Humphreys (1995-2002), oddi wrth Iwan Bala (1), Tony Bianchi (1), Marisa Bulgheroni (9), ac anhysbys (1). / Letters to Emyr Humphreys (1995-2002), from Iwan Bala (1), Tony Bianchi (1), Marisa Bulgheroni (9), and unknown (1).

'An Ethnic Tremor'; 'Continental Drift'; 'The Photograph';

Llyfr ymarfer (1999) yn cynnwys nodiadau llawysgrif a drafftiau amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau o'r straeon byrion 'An Ethnic Tremor' (cyhoeddwyd yn Planet, 134 (1999), 17-26, ac yn 'Old People are Problem' (Pen-y-bont: Seren, 2003)); ‘Continental Drift’ (cyhoeddwyd fel ‘Menna’ yn ‘Ghosts and Strangers’ (Pen-y-bont: Seren, 2001)); ‘The Photograph’ (cyhoeddwyd fel ‘Vennerberg’s Ghost’ yn Planet, 140 (2000), 47-59); ‘[Nodiadau] y Nofelydd’; ac ‘Yr Efaill’. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nodiadau pellach a drafftiau o farddoniaeth gyda’r teitlau ‘The Spirit In the Trees’, ‘Welsh Requiem’, ‘Committing the Deed – written 1942’, a ‘Hugh Bach y Gwyddel’, ymhlith eraill; drafft o erthygl wedi’i theitlo ‘Visitors – Visitations – A Land of Strangers’; a thocyn darllen, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1987). / An exercise book (1999) containing various manuscript notes and drafts in the hand of Emyr Humphreys, including drafts of the short stories ‘An Ethnic Tremor’ (published in Planet, 134 (1999), 17-26, and in ‘Old People are Problem’ (Bridgend: Seren, 2003)); ‘Continental Drift’ (published as ‘Menna’ in ‘Ghosts and Strangers’ (Bridgend: Seren, 2001)); ‘The Photograph’ (published as ‘Vennerberg’s Ghost’ in Planet, 140 (2000), 47-59); ‘The Novelist’s [Notes]’; and ‘The Twin’. The file also contains further notes and drafts of poetry titled ‘The Spirit In the Trees’, ‘Welsh Requiem’, ‘Committing the Deed – written 1942’, and ‘Hugh Bach y Gwyddel’, among others; a draft of an article titled ‘Visitors – Visitations – A Land of Strangers’; and a reader’s ticket, University College North Wales, Bangor (1987).

'An Ethnic Tremor'

Llyfr nodiadau A4 yn cynnwys drafftiau llawysgrif o straeon byrion yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys straeon gyda’r teitlau ‘An Ethnic Tremor’ (cyhoeddwyd yn Planet, 134 (1999) 17-26), a ‘The Twin’. / An A4 notepad containing manuscript drafts of short stories in the hand of Emyr Humphreys, including stories titled ‘An Ethnic Tremor’ (published in Planet, 134 (1999), 17-26), and ‘The Twin’.

Agoriad adeilad Parry-Williams, Aberystwyth / Opening of the Parry-Williams building, Aberystwyth

Llythyrau at Emyr Humphreys, a phapurau cysylltiedig (1995; 2001; 2005), yn ymwneud yn bennaf ag agoriad adeilad Parry-Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth a agorwyd yn swyddogol gan Emyr Humphreys yn 2001. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Phil Davies (1) ; Derek Llwyd Morgan (1); John Brason (1); Bob Mole (1); Meic Stephens (1); Richard Houdmont (3); M. Wynn Thomas (1); Norman Harries (1); Myrddin ap Dafydd (1); Menna Elfyn (3); Damian Walford Davies (1); Sue Charles (4); Ceri Anwen James (1); Ned Thomas (1); Mick Felton (1); ynghyd ag atebion gan Emyr Humphreys (9). Yn ogystal, mae’r ffeil hefyd yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chomisiynau ac ymchwil eraill, lansiad ‘Ghosts and Strangers’ a ‘Bonds of Attachment’, a phenodiad Damian Walford Davies i Fwrdd S4C. / Letters to Emyr Humphreys, and related papers (1995; 2001; 2005), mainly relating to the opening of the Parry-Williams building at Aberystwyth University which was officially opened by Emyr Humphreys in 2001. The file includes letters from Phil Davies (1); Derek Llwyd Morgan (1); John Brason (1); Bob Mole (1); Meic Stephens (1); Richard Houdmont (3); M. Wynn Thomas (1); Norman Harries (1); Myrddin ap Dafydd (1); Menna Elfyn (3); Damian Walford Davies (1); Sue Charles (4); Ceri Anwen James (1); Ned Thomas (1); Mick Felton (1); along with replies from Emyr Humphreys (9). Additionally, the file also contains some material relating to other commissions and research, the launch of ‘Ghosts and Strangers’ and ‘Bonds of Attachment’, and the appointment of Damian Walford Davies to the Board of S4C.

'A Toy Epic'

Drafft teipysgrif o sgript drama yn seiliedig ar nofel Emyr Humphreys ‘A Toy Epic’, wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan Manon Eames, ynghyd â llythyr at Emyr Humphreys oddi wrth John Rush (1998). / A typescript draft of script for a play based on Emyr Humphreys’ novel ‘A Toy Epic’, adapted for the stage by Manon Eames, together with a letter to Emyr Humphreys from John Rush (1998).

'A Night in the Camp'

Nodiadau a drafftiau llawysgrif amrywiol (1981-1983) yn llaw Emyr Humphreys ac un llaw arall, yn cynnwys dau lyfryn o nodiadau yn ymwneud â stori fer wedi’i theitlo ‘A Night in the Camp’; drafft o stori fer wedi’i theitlo ‘Boys in a Boat’; a drafft o bennod gyda’r teitl ‘Etifedd y Glyn’. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nifer o deipysgrifau, gan gynnwys drafft rhannol o sgript gyda’r teitl ‘Am Gymru’; teipysgrifau amrywiol o farddoniaeth; a thocyn darllen Lyfrgell Prifysgol Bangor (1987). / Various manuscript notes and drafts (1981-1983) in the hand of Emyr Humphreys and one other hand, including two booklets of notes relating to a short story titled ‘A Night in the Camp’; a draft of a short story titled ‘Boys in a Boat’; and a draft of a chapter titled ‘Etifedd y Glyn’. The file also includes a number of typescripts, including a partial draft of a script titled ‘Am Gymru’; various typescripts of poetry; and a reader’s ticket for Bangor University Library (1987).

'A Necessary Figure'

Papurau (1970; [?1973]), yn ymwneud â chynhyrchiad teledu o’r enw ‘A Necessary Figure: A Television Birthday Tribute to Saunders Lewis’, yn cynnwys tri drafft teipysgrif o sgript deledu a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys; nodiadau llawysgrif yn llaw yr un; a theipysgrif arall gyda’r teitl ‘Outline of a Necessary Figure’. / Papers (1970; [?1973]), relating to a television production titled ‘A Necessary Figure: A Television Birthday Tribute to Saunders Lewis’, including three typescript drafts of a television script written by Emyr Humphreys; manuscript notes in the hand of the same; and a further typescript titled ‘Outline of a Necessary Figure’.

A

Un llythyr at Emyr Humphreys oddi wrth Sam Adams, yn trafod y cyhoeddiad 'Seeing Wales Whole: essays on the literature of Wales’ (Cardiff: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998). / One letter to Emyr Humphreys from Sam Adams, discussing the publication 'Seeing Wales Whole: essays on the literature of Wales’ (Cardiff: University of Wales Press, 1998).

‘Alderman Roberts’; ‘The Broken-hearted Fascist’; ‘The Man Who Defended Women'

Llyfr nodiadau (2001) yn cynnwys nodiadau a drafftiau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau o straeon byrion gyda’r teitlau ‘Alderman Roberts’, ‘The Broken-hearted Fascist’, a ‘The Man Who Defended Women’; ynghyd â nodiadau pellach yn dwyn y teitlau ‘Poetic Justice’, ‘The Perfectionist’, ‘The Viewer’, ‘Cantankeries’, ‘Teacher’s Pest’, a ‘The Welshman’s Future’. / An exercise book (2001) containing various manuscript notes and drafts in the hand of Emyr Humphreys, including drafts of short stories titled ‘Alderman Roberts’, ‘The Broken-hearted Fascist’, and ‘The Man Who Defended Women’; together with further notes titled ‘Poetic Justice’, ‘The Perfectionist’, ‘The Viewer’, ‘Cantankeries’, ‘Teacher’s Pest’, and ‘The Welshman’s Future’.

Results 281 to 297 of 297