Teipysgrifau a drafftiau amrywiol / Various typescripts and drafts
- J2/3
- File
- 1967-2019 (gyda bylchau / with gaps)
Part of Emyr Humphreys Papers
Papurau (1967-2019), yn cynnwys nodiadau a drafftiau yn ymwneud a traethodau a gweithiau eraill gan Emyr Humphreys, gan gynnwys teipysgrifau o draethodau gyda’r teitlau ‘Anglo-Welsh’ (1967/8), ‘The Size of Soap’ (1986), ‘Bwrdd Datblygu Teledu Cymraeg’ (heb ddyddiad), 'Lawen Chwedl' (heb ddyddiad), a 'Cyflwyno Cymreictod' (heb ddyddiad); ynghyd â theipysgrifau pellach gan gynnwys drafft o 'A Spark from the Sun' ([?1992]), sgript ddrafft ar gyfer 'Yr Eneth Fwyn' (heb ddyddiad), crynodeb o'r gyfres 'Land of the Living' (1990), a nodiadau o'r enw 'Plas Moloch' (heb eu dyddio), ymhlith papurau eraill. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Sioned Puw Rowlands (1), Natalie Williams (1), Margaret Body (2), ac Emyr Humphreys (3); a chopi o raglen ar gyfer Cyngerdd Cerddorfa Symffoni’r BBC, Caerdydd (1989), a oedd yn cynnwys y darn ‘Songs of Exile’ gan Alun Hoddinott gyda geiriau gan Emyr Humphreys. / Papers (1967-2019), featuring notes and drafts relating to essays and other works by Emyr Humphreys, including typescripts of essays titled ‘Anglo-Welsh’ (1967/8), ‘The Size of Soap’ (1986), ‘Bwrdd Datblygu Teledu Cymraeg’ (undated), ‘Lawen Chwedl’ (undated), and ‘Cyflwyno Cymreictod’ (undated); together with further typescripts including a draft from ‘A Spark from the Sun’ ([?1992]), a draft script for ‘Yr Eneth Fwyn’ (undated), a summary of the ‘Land of the Living’ series (1990), and notes titled ‘Plas Moloch’ (undated), among other papers. The file also contains correspondence, including letters from Sioned Puw Rowlands (1), Natalie Williams (1), Margaret Body (2), and Emyr Humphreys (3); and a copy of a programme for the BBC Symphony Orchestra Concert, Cardiff (1989), which included the piece ‘Songs of Exile’ by Alun Hoddinott with words by Emyr Humphreys.