Dangos 297 canlyniad

Disgrifiad archifol
Emyr Humphreys Papers Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Hunan Barch neu Hunan Laddiad' a phapurau amrywiol eraill / and various other papers

Teipysgrifau, drafftiau a nodiadau amrywiol, gan gynnwys drafft llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys o ddarlith gyda’r teitl 'Hunan Barch neu Hunan Laddiad' (a roddwyd ym Merched y Wawr Aberystwyth, 1986), a nodiadau teipysgrif a llawysgrif pellach, yn cynnwys nodiadau gyda’r teitlau ‘A suggested scheme for a volume of translations from twentieth century Welsh writing’ (heb ei ddyddio), ‘Lle pwysig yw theatr’ (ynghyd â llythyr oddi wrth W. J. Jones, Coleg Sir De Morgannwg, 1978), ‘‘A World of Words: The poet and his environment’, ‘Hawliau Dyn’, ‘Addysg a’r Sefyllfa Gymraeg’ (pob un heb ddyddiad), a ‘Gwlad Beirdd a Gwleidyddion’ (gyda llythyr oddi wrth Diana Shine, Cymdeithas yr Awduron, 1991). / Various typescripts, drafts, and notes, including a manuscript draft in the hand of Emyr Humphreys of a lecture titled ‘Hunan Barch neu Hunan Laddiad’ (given at Merched y Wawr Aberystwyth, 1986), and further typescript and manuscript notes, including notes titled ‘A suggested scheme for a volume of translations from twentieth century Welsh writing’ (undated), ‘Lle pwysig yw theatr’ (together with a letter from W. J. Jones, South Glamorganshire College, 1978), ‘A World of Words: The poet and his environment’, ‘Hawliau Dyn’, ‘Addysg a’r Sefyllfa Gymraeg’ (all undated), and ‘Gwlad Beirdd a Gwleidyddion’ (with a letter from Diana Shine, Society of Authors, 1991).

Toriadau o'r wasg a phamffledi / Press cuttings and pamphlets

Toriadau o'r wasg a phamffledi a gasglwyd gan Emyr Humphreys, gan gynnwys arweinlyfr o Florence, yr Eidal ([?1940au]); copi o The New Statesman (1963); copi o ‘”Canmolwn yn awr”’, teyrnged i John Gwilym Jones gan Emyr Humphreys (1977); copi o ‘Hunaniaeth Eifionydd’ gan Elis Gwyn Jones (1981); a thoriad yn ymwneud â marwolaeth R.S. Thomas (2000). / Press cuttings and pamphlets collected by Emyr Humphreys, including a guide book of Florence, Italy ([?1940s]); a copy of The New Statesman (1963); a copy of ‘”Canmolwn yn awr”’, a tribute to John Gwilym Jones by Emyr Humphreys (1977); a copy of ‘Hunaniaeth Eifionydd’ by Elis Gwyn Jones (1981); and a cutting relating to the death of R.S. Thomas (2000).

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg (1962-3; 1965; 1967) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'The Gift' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1963), 'Outside the House of Baal' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1965), a' Natives’ (Llundain: Secker & Warburg, 1968), gan gynnwys toriadau o The Sunday Times, The Times, The Spectator, Punch, Sunday Telegraph, Yorkshire Post, The Guardian, Western Mail, a Television Weekly. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copïau o siacedi llwch ar gyfer ‘Natives’ a ‘The Gift’; a llythyrau (1960; 1963-5) oddi wrth David Cecil (3) a Maurice Temple Smith (1). / Press cuttings (1962-3; 1965; 1967) relating to Emyr Humphreys’ works ‘The Gift’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1963), ‘Outside the House of Baal’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1965), and ‘Natives’ (London: Secker & Warburg, 1968), including cuttings from The Sunday Times, The Times, The Spectator, Punch, Sunday Telegraph, Yorkshire Post, The Guardian, Western Mail, and Television Weekly. The file also contains copies of dust jackets for ‘Natives’ and ‘The Gift’; and letters (1960; 1963-5) from David Cecil (3) and Maurice Temple Smith (1).

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg ([?1970]-1974; 1978-[?1979]) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'The Gift' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1963), 'National Winner' (Llundain: Macdonald, 1971),'Flesh and Blood’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1974), a ‘The Best of Friends’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1978), gan gynnwys toriadau o The Listener, New Statesman, The Telegraph, The Observer, The Sunday Telegraph, Y Birmingham Post, The Evening News, The Western Mail, The Sunday Times, The Yorkshire Post, The Anglo-Welsh Review, The Evening Standard, Birmingham Evening Mail, Oxford Mail, Y Cymro, The Irish Times, The Spectator, The Financial Times, The Scotsman, The Times, The Tablet, The Guardian, Y Faner, Times Literary Supplement , The Northern Echo, Western Evening Herald, Morning Star, Express & Echo, Yorkshire Evening Post, Lancashire Evening Post, The Citizen, a'r South Wales Echo. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copi o lythyr oddi wrth Saunders Lewis (1971); a llythyr oddi wrth Derek Stanford (1974). / Press cuttings ([?1970]-1974; 1978-[?1979]) relating to Emyr Humphreys’ works ‘The Gift’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1963), ‘National Winner’ (London: Macdonald, 1971), ‘Flesh and Blood’ (London: Hodder & Stoughton, 1974), and ‘The Best of Friends’ (London: Hodder & Stoughton, 1978), including cuttings from The Listener, New Statesman, The Telegraph, The Observer, The Sunday Telegraph, The Birmingham Post, The Evening News, The Western Mail, The Sunday Times, The Yorkshire Post, The Anglo-Welsh Review, The Evening Standard, Birmingham Evening Mail, Oxford Mail, Y Cymro, The Irish Times, The Spectator, The Financial Times, The Scotsman, The Times, The Tablet, The Guardian, Y Faner, Times Literary Supplement, The Northern Echo, Western Evening Herald, Morning Star, Express & Echo, Yorkshire Evening Post, Lancashire Evening Post, The Citizen, and the South Wales Echo. The file also contains a copy of a letter from Saunders Lewis (1971); and a letter from Derek Stanford (1974).

Cylchgronau o ddiddordeb llenyddol / Magazines of literary interest

Copïau o nifer o gylchgronau cyhoeddedig (1973-2019) yn cynnwys erthyglau neu golofnau a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys a/neu yn cynnwys darnau yn ymwneud â’i weithiau, gan gynnwys copïau o Llwyfan: Cylchgrawn Theatr Cymru (Gaeaf 1973); Arcade: Wales Fortnightly (1981); Y Faner (Medi 1985); See 4: News From Channel 4 (Gwanwyn 1988); Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Caerdydd (1989 & 1991); rhaglen Llyfrau Seren (1989); Golwg 3.22 & 3.23 (Chwefror 1991); Llais Llyfrau / Book News from Wales (1980; 1985; 1991); Gwyliedydd: Cyfnodolyn y Wesleaid Cymraeg 51 (1992); Books in Wales 3/98 (Hydref 1998); Barn 326 (Mawrth 1990), 342 (Gorffennaf 1991), & 676 (Mai 2019); ac @470: What’s on in Literary Wales / Beth sy’ ‘mlaen yn Llên Cymru (2000). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys toriadau o Y Faner (1991), Yr Herald Gymraeg (1991), a'r Financial Times (2006). / Copies of a number of published magazines (1973-2019) featuring articles or columns written by Emyr Humphreys and/or featuring pieces relating to his works, including copies of Llwyfan: Cylchgrawn Theatr Cymru (Winter 1973); Arcade: Wales Fortnightly (1981); Y Faner (September 1985); See 4: News From Channel 4 (Spring 1988); the Cardiff Literature Festival Programme (1989 & 1991); programme for Seren Books (1989); Golwg 3.22 & 3.23 (February 1991); Llais Llyfrau / Book News from Wales (1980; 1985; 1991); Gwyliedydd: Cyfnodolyn y Wesleaid Cymraeg 51 (1992); Books in Wales 3/98 (Autumn 1998); Barn 326 (March 1990), 342 (July 1991), & 676 (May 2019); and @470: What’s on in Literary Wales / Beth sy’ ‘mlaen yn Llên Cymru (2000). The file also includes cuttings from Y Faner (1991), Yr Herald Gymraeg (1991), and The Financial Times (2006).

Cylchgronau yn cynnwys erthyglau yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys / Magazines featuring articles relating to Emyr Humphreys' works

Copïau o gylchgronau yn cynnwys erthyglau yn ymwneud ag Emyr Humphreys a'i gweithiau, gan gynnwys copïau o Sbec S4C (1990); Barn (Ebrill 1990); Llais Llyfrau / Books in Wales (Hydref 1996 & 1998); Bwa: Bulletin of the Welsh Academy (Gorffennaf 1997); Buzz: South Wales’ Entertainment Guide (Mehefin 1999); and Golwg (Mawrth 1994, Awst 1995, Mehefin ac Awst 1996, Ionawr 1997, a Gorffennaf 1998). / Copies of magazines featuring articles relating to Emyr Humphreys and his works, including copies of Sbec S4C (1990); Barn (April 1990); Golwg (March 1994); Llais Llyfrau / Books in Wales (Autumn 1996 & 1998); Bwa: Bulletin of the Welsh Academy (July 1997); Buzz: South Wales’ Entertainment Guide (June 1999); and Golwg (August 1995, June & August 1996, January 1997, and July 1998).

Pregethau, nodiadau, a chasgliadau plwyf / Sermons, notes, and parish collections

Naw o lyfrau nodiadau bychain (1920; 1922-23; 1926; 1932-1933; 1936; 1946-55), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau amrywiol eraill yn ymwneud â chasgliadau a thanysgrifiadau plwyfol, rhoddion, a nodiadau meddygol. / Nine small notebooks (1920; 1922-23; 1926; 1932-1933; 1936; 1946-55), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and various other notes relating to parish collections and subscriptions, donations, and medical notes.

Pregethau / Sermons

Bwndel o nodiadau llawysgrif (heb eu dyddio) yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau yn bennaf. / A bundle of manuscript notes (undated) in the hand of Griffith Jones and consisting mainly of sermons.

Nodiadau cwis / Quiz notes

Papurau amrywiol o nodiadau llawysgrif a theipysgrif (1940; 1948-1949) wedi'u labelu 'Quiz a Llenyddol & Gwybodaeth gyffredinol, hefyd englynion', yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol a chwestiynau cwis, emynau, a nodiadau yn ymwneud â hanes teulu, ynghyd â rhestr o gynrychiolwyr dros Undeb yr Annibynwyr Cymraeg Caernarfon a'r Cylch (1930); papur arholiad Undeb Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymraeg (1941); a manylion pensiwn (1952-1957). / Various papers of manuscript and typescript notes (1940; 1948-1949) labelled ‘Quiz a Llenyddol & Gwybodaeth gyffredinol, hefyd englynion’, consisting of general knowledge and quiz questions, hymns, and notes relating to family history, together with a list of representatives for Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg Caernarvon a’r Cylch (1930); an exam paper for Undeb Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymraeg (1941); and pension details (1952-1957).

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Dau ar bymtheg o lyfrau nodiadau poced (1991-2006), yn cynnwys nodiadau llawysgrif a ysgrifennwyd yn bennaf yn llaw Emyr Humphreys gydag ambell law arall, yn cynnwys dyddiadau ac amseroedd, enwau a chyfeiriadau, drafftiau, syniadau, a barddoniaeth; ynghyd â nodiadau pellach wedi eu hysgrifennu ar napcyn, a llythyr oddi wrth Emyr Humphreys (heb ei ddyddio). / Seventeen pocket notebooks (1991-2006), containing manuscript notes written mainly in the hand of Emyr Humphreys with the occasional other hand, including dates and times, names and addresses, drafts, ideas, and poetry; together with further notes written on a napkin, and a letter from Emyr Humphreys (undated).

Graddau er anrhydedd / Honorary degrees

Rhaglenni graddio a phapurau eraill yn ymwneud â Graddau er Anrhydedd a Chymrodoriaethau a dderbyniwyd gan Emyr Humphreys, gan gynnwys rhaglenni ar gyfer Prifysgol Abertawe (Cymrodoriaeth Coleg Er Anrhydedd 1987), a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1990, Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth); copi o gylchgrawn 'Hon' (1963), yn cynnwys cyfweliad ag Emyr Humphreys; a llythyr oddi wrth Walford Davies (1978), ynglŷn â'r cynulliad blynyddol, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglen ar gyfer hanner canmlwyddiant Côr Meibion Trelawnyd (1983), gan gynnwys llythyr gan Ednyfed Williams; a gwahoddiad am sgwrs yn y BBC (1950). / Graduation programmes and other papers related to Honorary Degrees and Fellowships received by Emyr Humphreys, including programmes for Swansea University (1987 Honorary College Fellowship), and the University College of Wales, Aberystwyth (1990, Honorary Doctorate in Literature); a copy of 'Hon' magazine (1963), featuring an interview with Emyr Humphreys; and a letter from Walford Davies (1978), re the annual assembly, University College of Wales Aberystwyth. The file also contains a programme for Côr Meibion Trelawnyd 50th anniversary (1983), including a letter from Ednyfed Williams; and an invitation for a talk at the BBC (1950).

Cymrodoriaeth a chynhadledd Gregynog / Gregynog fellowship and conference

Papurau'n ymwneud â Chymrodoriaeth a chynhadledd Gregynog, gan gynnwys rhaglen ac adroddiad cynhadledd (1972), a llythyrau (1972; 1974-1975) at Emyr Humphreys oddi wrth Glyn Tegai Hughes, Gregynog (4), Ben Jones (1), ac Arthur Johnston (1). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau pellach oddi wrth J. Beverley Smith (1985) a Dafydd Rogers (1991); a theipysgrifau (1982; heb ddyddiad) o ddrafftiau o weithiau o’r enw ‘Saesneg ar oriau Cymraeg y Sianel’, ‘Hunan les neu hunan laddiad?’, a ‘Lle pwysig yw theatre’. / Papers relating to the Gregynog Fellowship and conference, including a conference programme and report (1972), and letters (1972; 1974-1975) to Emyr Humphreys from Glyn Tegai Hughes, Gregynog (4), Ben Jones (1), and Arthur Johnston (1). The file also contains further letters from J. Beverley Smith (1985) and Dafydd Rogers (1991); and typescripts (1982; undated) of drafts of works titled 'Saesneg ar oriau Cymraeg y Sianel’, 'Hunan les neu hunan laddiad?’, and ‘Lle pwysig yw theatre’.

Gweithredoedd Ymddiriedolaeth / Trust deeds

Dau gopi o weithred ymddiriedolaeth Ymddiriedolaeth Taliesin (1989), ynghyd â dau lythyr oddi wrth y gyfreithwyr Morgan, Bruce & Hardwickes. / Two copies of the trust deed for The Taliesin Trust (1989), together with two letters from Morgan, Bruce & Hardwickes Solicitors.

Rhaglenni digwyddiadau amrywiol eraill / Various other event programmes

Rhaglenni digwyddiadau amrywiol a gasglwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys rhaglenni ar gyfer cynhyrchiad theatr ‘Noboalfabeto’, Teatro delle Albe (2001); ‘Dylan Thomas: A Memorial Catalogue’, Abertawe (2003); ‘25 Paintings from the Festival of Britain 1951’, Orielau Celf Dinas Sheffield (1978); copi o ‘Fine print: A Review for the Arts of the Book’, cyf.7.2 (1981); a chopi o glawr ‘Wales’ rhif 1 1937 (dyddiedig 1969). / Various event programmes collected by Emyr Humphreys, consisting of programmes for a theatre production ‘Noboalfabeto’, Teatro delle Albe (2001); ‘Dylan Thomas: A Memorial Catalogue’, Swansea (2003); ’25 Paintings from the Festival of Britain 1951’, Sheffield City Art Galleries (1978); a copy of ‘Fine Print: A Review for the Arts of the Book’, vol.7.2 (1981); and a copy of the cover of ‘Wales’ no.1 1937 (dated 1969).

J

Llythyrau a chardiau at Emyr ac Elinor Humphreys (1983-2002), oddi wrth E. Stanley John (1), Owie Jones (1), Arwel Jones (5), Dewi a Magdalen Jones (1) (gyda dau ateb heb eu llofnodi), Nesta Wyn Jones (3), Meri a Wiliam Jones (1), 'Emyr a Mary' (2), ac un cerdyn oddi wrth 'Janet a Kevin'. / Letters and cards to Emyr and Elinor Humphreys (1983-2002), from E. Stanley John (1), Owie Jones (1), Arwel Jones (5), Dewi and Magdalen Jones (1) (with two unsigned replies), Nesta Wyn Jones (3), Meri and Wiliam Jones (1), 'Emyr and Mary' (2), and one card from 'Janet and Kevin'.

S

Llythyrau at Emyr ac Elinor Humphreys (1997-2003), oddi wrth Iris Smith (1, gydag ateb gan Elinor Humphreys), ac Isobel Steinthal (2). / Letters to Emyr and Elinor Humphreys (1997-2003), from Iris Smith (1, with a reply from Elinor Humphreys), and Isobel Steinthal (2).

Llythyrau oddi wrth M. Wynn Thomas a phapurau cysylltiedig / Further letters from M. Wynn Thomas and related papers

Gohebiaeth a phapurau cysylltiedig (1973-2010), y mwyafrif yn cynnwys llythyrau at Emyr Humphreys oddi wrth M. Wynn Thomas (15), gydag atebion (4). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau oddi wrth Mick Felton (1), 'Rhiannon' (1), Penny Thomas (1), Ned Thomas (1), Stevie Davies (1), Oscar Quitak (1), Ken Davies (2), Geraint H. Jenkins (1), Etain Todds (1), Helle Michelsen (1), 'John' (2), Hugo Rhys (1), Kuniko Fujisawa (3), Winifred Jones (1), 'Huw' (1), 'Terry' (1), Huw Ethall (1), a Bob Borsley (2); a nifer o phapurau cysylltiedig fel nodiadau, toriadau, a deunydd wedi'i lungopïo. / Correspondence and related papers (1973-2010), the majority being letters to Emyr Humphreys from M. Wynn Thomas (15), with replies (4). The file also contains letters from Mick Felton (1), 'Rhiannon' (1), Penny Thomas (1), Ned Thomas (1), Stevie Davies (1), Oscar Quitak (1), Ken Davies (2), Geraint H. Jenkins (1), Etain Todds (1), Helle Michelsen (1), 'John' (2), Hugo Rhys (1), Kuniko Fujisawa (3), Winifred Jones (1), 'Huw' (1), 'Terry' (1), Huw Ethall (1), and Bob Borsley (2); and a number of related papers such as notes, cuttings, and photocopied material.

V

Llythyrau (1997-2000), at Emyr ac Elinor Humphreys oddi wrth Marie Vanuxeem (2, gyda atebion), Siân [?Verrall] (1), a Margaret [?Vanstone] Heller (1, gydag ateb). / Letters (1997-2000), to Emyr and Elinor Humphreys from Marie Vanuxeem (2, with replies), Siân [?Verrall] (1), and Margaret [?Vanstone] Heller (1, with reply).

Sheil Land Associates

Llythyrau at ac oddi wrth Emyr Humphreys (1989-2007), yn ymwneud yn bennaf â’r asiantwyr llenyddol ‘Sheil Land Associates’, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vivien Green (56); Susanna Forrest (1); Andrew Coates (1); Hilary Laurie (2); Claire Binnie (2); Elizabeth Haylett (2); Chi-ann Rajah (1); John Rush (2); A. V. Lomas (3); R. D. Hardie (1); Margaret Body (2); Roma Woodnutt (1); Anthony Sheil (1); Patricia James (1); Natasha Pym (1); Mick Felton (1); Barbara Boote (2); Tim Baker (1); David Knight (1); M. Wynn Thomas (1); ac Emyr Humphreys (33). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys rhai papurau cysylltiedig, yn cynnwys datganiadau breindal, copīau o broflenni clawr ar gyfer ‘An Absolute Hero’, tystysgrifau cofrestru hawlfraint, a chopi o lyfryddiaeth Emyr Humphreys. / Letters to and from Emyr Humphreys (1989-2007), mainly relating to the literary agents Sheil Land Associates, including letters from Vivien Green (56); Susanna Forrest (1); Andrew Coates (1); Hilary Laurie (2); Claire Binnie (2); Elizabeth Haylett (2); Chi-ann Rajah (1); John Rush (2); A. V. Lomas (3); R. D. Hardie (1); Margaret Body (2); Roma Woodnutt (1); Anthony Sheil (1); Patricia James (1); Natasha Pym (1); Mick Felton (1); Barbara Boote (2); Tim Baker (1); David Knight (1); M. Wynn Thomas (1); and Emyr Humphreys (33). The file also contains some related papers, including royalty statements, copies of cover proofs for ‘An Absolute Hero’, copyright registration certificates, and a copy of Emyr Humphreys’ bibliography.

Pryniant LlGC o bapurau Emyr Humphreys / NLW purchase of Emyr Humphreys' papers

Gohebiaeth (1984-1995), yn ymwneud â phryniant llawysgrifau a phapurau Emyr Humphreys gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1994, yn cynnwys llythyrau at Emyr Humphreys oddi wrth Daniel Huws (4), Dafydd Ifans (2), J. Gwynn Williams (2), Gwyn Jenkins (6), Arwel Jones (1), Mark LeFanu (1), ac R. Geraint Gruffudd (1), gyda rhai atebion ac atebion drafft gan Emyr Humphreys (16); ynghyd â nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys, rhestri manwl o’i lawysgrifau a’i bapurau i’w cynnig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a rhestr gynnwys ar gyfer casgliad anghyhoeddedig o gerddi o’r enw ‘Consolations’. / Correspondence (1984-1995), relating to the purchase of Emyr Humphreys’ manuscripts and papers by the National Library of Wales in 1994, including letters to Emyr Humphreys from Daniel Huws (4), Dafydd Ifans (2), J. Gwynn Williams (2), Gwyn Jenkins (6), Arwel Jones (1), Mark LeFanu (1), and R. Geraint Gruffudd (1), with some replies and draft replies from Emyr Humphreys (16); together with manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, itemised lists of his manuscripts and papers for offer to the National Library of Wales, and a contents list for an unpublished collection of poems titled ‘Consolations’.

Canlyniadau 41 i 60 o 297