Dangos 297 canlyniad

Disgrifiad archifol
Emyr Humphreys Papers Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Drafftiau teipysgrif / Typescript drafts

Dau deipysgrif o sgript ar gyfer y ddrama ‘Angel o’r Nef’ (1984), ynghyd â cherdyn dyddiedig 1998. / Two typescripts of a script for the drama ‘Angel o’r Nef’ (1984), together with a card dated 1998.

'Cofio Daniel'

Dau deipysgrif, gyda rhai cywiriadau, o sgript ar gyfer drama gyda'r teitl ‘Cofio Daniel’, addasiad o ‘Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel’ gan Daniel Owen (cyhoeddwyd gyntaf Amwythig: J. Ll. Morris, 1885); ynghyd â phedwar teipysgrif drafft o grynodebau sgriptiau, ynghyd â theipysgrifau amrywiol eraill a nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys, map o dref yr Wyddgrug, a chopi o restr o weithiau gan Daniel Owen ([?1936]). / Two typescripts, with some corrections, of a script for a drama titled ‘Cofio Daniel’, an adaptation of ‘Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel’ by Daniel Owen (first published Shrewsbury: J. Ll. Morris, 1885); together with four typescript drafts of script summaries, with various other typescripts and manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, a map of Mold town, and a copy of a list of works by Daniel Owen ([?1936]).

Crynodeb sgript a phapurau cysylltiedig / Script summary and related papers

Papurau (1989-1990), yn ymwneud â sgript ar gyfer drama gyda'r teitl ‘The Etruscan Smile’, gan gynnwys teipysgrif o grynodeb o’r sgript; llythyrau oddi wrth Alan Clayton (1) a Dewi Humphreys (2); a dau doriad o’r wasg, un o’r papur newydd Eidalaidd ‘Il Messaggero’. / Papers (1989-1990), relating to a script for a drama titled ‘The Etruscan Smile’, including a typescript of a script summary; letters from Alan Clayton (1) and Dewi Humphreys (2); and two press cuttings, one from the Italian newspaper ‘Il Messaggero’.

'The Suspect'

Teipysgrif (1995) o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl ‘The Suspect’, gan Lisa Garfield, cyfieithiad Saesneg o ‘Rhodd Mam’ gan Emyr a Siôn Humphreys; ynghyd â thoriad o’r wasg, ‘The Last Command’ gan David Rees (1965). / A typescript (1995) of a script for a film for television titled ‘The Suspect’, by Lisa Garfield, an English translation of ‘Rhodd Mam’ by Emyr and Siôn Humphreys; together with a press cutting, ‘The Last Command’ by David Rees (1965).

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Papurau (heb eu dyddio), yn ymwneud â chynhyrchu sgript ar gyfer drama deledu yn seiliedig ar y stori fer 'Mel's Secret Love' gan Emyr Humphreys (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 'Natives' (London: Secker & Warburg, 1968)), gan gynnwys dau ddrafft teipysgrif o'r sgript, dau ddrafft llawysgrif, a nodiadau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys. / Papers (undated), relating to the production of a script for a television drama based on the short story ‘Mel’s Secret Love’ by Emyr Humphreys (originally published in ‘Natives’ (London: Secker & Warburg, 1968)), including two typescript drafts of the script, two manuscript drafts, and various manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys.

Gohebiaeth, nodiadau, a phapurau cysylltiedig / Correspondence, notes, and related papers

Gohebiaeth (1985-1991), yn ymwneud â chwmni Ffilmiau Bryngwyn a’i gynyrchiadau, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Emyr Humphreys (8), Gwyn Pritchard (3), Derek Jones & Victoria Carew Hunt (1), Nick Pearson (1), Derek Jones (4), Emyr & Siôn Humphreys (2), Emyr & Elinor Humphreys (1), Siôn Humphreys (1), a Heather Crowther (1). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nodiadau llawysgrif a theipysgrif amrywiol yn ymwneud â chynhyrchiad gyda’r teitl ‘The Triple Net: a portrait of the writer Kate Roberts 1891-1985’, a ddarlledwyd fel cyfres o bedair ffilm ar S4C yn 1988; slip taliad ar gyfer Sianel 4 (1991); nodiadau yn ymwneud â syniad am raglen yn seiliedig ar ‘Y Mabinogion’ (1988); a chopi o lythyr gan Emyr Humphreys ynghylch ‘Aneurin Bevan and the Welsh Language’ (1988). / Correspondence (1985-1991), relating to the Ffilmiau Bryngwyn company and its productions, including letters from Emyr Humphreys (8), Gwyn Pritchard (3), Derek Jones & Victoria Carew Hunt (1), Nick Pearson (1), Derek Jones (4), Emyr & Siôn Humphreys (2), Emyr & Elinor Humphreys (1), Siôn Humphreys (1), and Heather Crowther (1). The file also includes various manuscript and typescript notes relating to a production titled ‘The Triple Net: a portrait of the writer Kate Roberts 1891-1985’, which was transmitted as a series of four films on S4C in 1988; a remittance slip for Channel 4 (1991); notes relating to an idea for a programme based on ‘The Mabinogion’ (1988); and a copy of a letter from Emyr Humphreys regarding ‘Aneurin Bevan and the Welsh Language’ (1988).

Cytundebau cyhoeddi / Publishing contracts

Cytundebau cyhoeddwyr (1971-1989), gan gynnwys cytundebau a memoranda o gytundebau, ar gyfer gweithiau gan Emyr Humphreys, gan gynnwys y nofelau 'A Man's Estate', 'A Toy Epic', 'Outside the House of Baal', 'Open Secrets', ‘The Best of Friends’, ‘Bonds of Attachment’, ‘National Winner’, ‘A Toy Epic’, ‘Flesh and Blood’, ‘Jones’, and the work ‘Landscapes: Song Cycle’ (gyda Alun Hoddinott); yn ogystal â’r teitlau gwaith ‘Amy’, ‘Welsh Underground’/’View of a Hidden Kingdom’, ‘The Welsh Character’, ‘A Change of Heart’, ‘A Real Hero’, a ‘A Dose of Innocence’. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys dau lythyr (Oxford University Press), a thystysgrif adnewyddu hawlfraint ar gyfer ‘A Toy Epic’. / Publisher’s contracts (1971-1989), including agreements and memoranda of contracts, for works by Emyr Humphreys, including the novels ‘A Man’s Estate’, ‘A Toy Epic’, ‘Outside the House of Baal’, ‘Open Secrets’, ‘The Best of Friends’, ‘Bonds of Attachment’, ‘National Winner’, ‘A Toy Epic’, ‘Flesh and Blood’, ‘Jones’, and the work ‘Landscapes: Song Cycle’ (with Alun Hoddinott); in addition to the working titles ‘Amy’, ‘Welsh Underground’/’View of a Hidden Kingdom’, ‘The Welsh Character’, ‘A Change of Heart’, ‘A Real Hero’, and ‘A Dose of Innocence’. The file also includes two letters (Oxford University Press), and a certificate of copyright renewal for ‘A Toy Epic’.

'Notes from an Aalborg Sketchbook'

Copi o gylchgrawn Daneg gyda’r teitl 'Aalborg Shows the Way' (1957-1958), yn cynnwys erthygl gan Emyr Humphreys 'Notes from an Aalborg Sketchbook', ynghyd â drafftiau teipysgrif gyda’r teitlau 'Aalborg Revisited' a 'The Aalborghal or Why Not Us', a drafft llawysgrif pellach o 'Aalborg Revisited'. / A copy of a Danish magazine titled ‘Aalborg Shows the Way’ (1957-1958), featuring an article by Emyr Humphreys titled ‘Notes from an Aalborg Sketchbook’, together with typescript drafts titled ‘Aalborg Revisited’ and ‘The Aalborghal or Why Not Us’, and a further manuscript draft of ‘Aalborg Revisited’.

'Richard Dynevor: a tribute', a draftiau eraill / and other drafts

Llyfr nodiadau A4 gyda phapurau amrywiol yn ymwneud ag erthyglau a thraethodau gan Emyr Humphreys, gan gynnwys drafft llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys o erthygl o'r enw 'Richard Dinefwr: a tribute' ([?2008]), ynghyd â nifer o ddrafftiau byr o ryddiaith a barddoniaeth, gan gynnwys darnau yn dwyn y teitlau ‘Corresponding with the Time’, ‘As I recall, Charcoal Sketches’, ‘A Sincere Fellow’, ‘Reflecting on a Membrane’, ‘Lady Mary’, ‘A Man’s Estate’, ‘Tributes & Occasions’, ‘The Italian Wife’, ‘R. S. and Elsie’, ‘Scree’, ‘Goronwy Rees’, ‘School Masters’, ‘The Whisper’, ‘Pamela and Charles’, ‘Let it Be’, ‘Memories’, ‘Gregynog’, ‘Goronwy’, ‘Ysbyty Krakow 3 Tachwedd 1914’, ‘Barddoniaeth o Dan Ddaear’, ‘Y Wylan Deg’, ‘Marginalia Agony’, ‘Morgan Llwyd’, a ‘More’, ymysg eraill. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau (2008-2012) oddi wrth Peter Finch (1), Gwen Davies (1), ac Emyr ac Elinor Humphreys (1). / An A4 notepad with various papers relating to articles and essays by Emyr Humphreys, including a manuscript draft in the hand of Emyr Humphreys of an article titled ‘Richard Dynevor: a tribute’ ([?2008]), together with numerous short drafts of prose and poetry, including pieces titled ‘Corresponding with the Time’, ‘As I recall, Charcoal Sketches’, ‘A Sincere Fellow’, ‘Reflecting on a Membrane’, ‘Lady Mary’, ‘A Man’s Estate’, ‘Tributes & Occasions’, ‘The Italian Wife’, ‘R. S. and Elsie’, ‘Scree’, ‘Goronwy Rees’, ‘School Masters’, ‘The Whisper’, ‘Pamela and Charles’, ‘Let it Be’, ‘Memories’, ‘Gregynog’, ‘Goronwy’, ‘Ysbyty Krakow 3 Tachwedd 1914’, ‘Barddoniaeth o Dan Ddaear’, ‘Y Wylan Deg’, ‘Marginalia Agony’, ‘Morgan Llwyd’, and ‘More’, among others. The file also contains letters (2008-2012) from Peter Finch (1), Gwen Davies (1), and Emyr and Elinor Humphreys (1).

Teipysgrifau o erthyglau / Typescripts of articles

Teipysgrifau o erthyglau amrywiol gan Emyr Humphreys, gan gynnwys erthyglau wedi’i theitlo ‘The B.B.C. Mentality' (heb ei ddyddio), 'The Dillwyn Gallery' (1962), 'The Welsh Condition' ([1970]), 'Arnold in Wonderland' (1978), 'Comment in the Novel' (1948), 'Taliesin and Frank Lloyd Wright' (cyhoeddwyd yng nghylchgrawn Cyngor Llyfrau Cymru 'Welsh Books and Writers'/'Llen a Llyfrau Cymru', Hydref 1980, 3-5), 'North and South' ([?1970]), 'Actors' (heb ddyddiad), 'The New Theatre' (1962), 'The New Role of the Storyteller' ([1967]), adolygiad o 'The Imagery of Power: A critique of advertising' gan Fred Inglis (Llundain: Heineman, 1972) , a nifer o erthyglau pellach heb deitl a barddoniaeth deipysgrif. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copi o araith a wnaed gan Emyr Humphreys yn y llys am iddo wrthod talu ffi ei Drwydded Deledu ([?1973]). / Typescripts of various articles by Emyr Humphreys, including articles titled ‘The B.B.C. Mentality’ (undated), ‘The Dillwyn Gallery’ (1962), ‘The Welsh Condition’ ([1970]), ‘Arnold in Wonderland’ (1978), ‘Comment in the Novel’ (1948), ‘Taliesin and Frank Lloyd Wright’ (published in the magazine of the Welsh Books Council ‘Welsh Books and Writers’/’Llen a Llyfrau Cymru’, Autumn 1980, 3-5), ‘North and South’ ([?1970]), ‘Actors’ (undated), ‘The New Theatre’ (1962), ‘The New Role of the Storyteller’ ([1967]), a review of ‘The Imagery of Power: A critique of advertising’ by Fred Inglis (London: Heineman, 1972), and a number of further untitled articles and typescript poetry. The file also contains a copy of a speech made by Emyr Humphreys in court for refusal to pay his TV Licence fee ([?1973]).

Erthyglau amrywiol yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys / Various articles relating to works by Emyr Humphreys

Erthyglau gan M. Wynn Thomas yn ymwneud â gwaith Emyr Humphreys, gan gynnwys teipysgrifau o erthyglau gyda’r teitlau 'Literature in English' (cyhoeddwyd yn ‘Glamorgan County History’ cyf. 6, [1988], tt. 353-66), ‘Many Happy Intellections: the poetry of Emyr Humphreys on his eightieth birthday’ ([?1999]), 'Noson i anrhydeddu Emyr Humphreys' (ysgrifennwyd ar gyfer digwyddiad yn Llyfrgell y Rhyl, 1990), 'Emyr Humphreys: Regional Novelist?' (cyhoeddwyd yn 'The Regional Novel in Britain and Ireland, 1800-1990', golygwyd gan K.D.M. Snell (Caergrawnt: CUP, 1998)), a 'Hidden Attachments: aspects of the relationship between two literatures of modern Wales' (cyhoeddwyd yn 'Welsh Writing in English', 1995). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys tri llythyr at Emyr Humphreys oddi wrth M. Wynn Thomas (1988; 1995); teipysgrif o ‘Afterword’, nodiadau testunol (1994), ac addasiad arfaethedig ar gyfer ailgyhoeddiad 1998 o ‘Outside the House of Baal’ (Pen-y-bont: Seren, 1998); teipysgrif o ‘Afterword’ ar gyfer yr ailgyhoeddiad o ‘A Toy Epic’ (Pen-y-bont: Seren, 1993); a chopi o doriad o'r wasg (1989). / Articles by M. Wynn Thomas relating to the work of Emyr Humphreys, including typescripts of articles titled ‘Literature in English’ (published in Glamorgan County History vol. 6, [1988], pp. 353-66), ‘Many Happy Intellections: the poetry of Emyr Humphreys on his eightieth birthday’ ([?1999]), ‘Noson i anrhydeddu Emyr Humphreys’ (written for an event in Rhyl Library, 1990), ‘Emyr Humphreys: Regional Novelist?’ (published in ‘The Regional Novel in Britain and Ireland, 1800-1990’, edited by K.D.M. Snell (Cambridge: CUP, 1998)), and ‘Hidden Attachments: aspects of the relationship between the two literatures of modern Wales’ (published in ‘Welsh Writing in English’, 1995). The file also contains three letters to Emyr Humphreys from M. Wynn Thomas (1988; 1995); a typescript of ‘Afterword’, textual notes (1994), and proposed emendation for the 1998 reissue of ‘Outside the House of Baal’ (Bridgend: Seren, 1998); a typescript of ‘Afterword’ for the reissue of ‘A Toy Epic’ (Bridgend: Seren, 1993); and a copy of a press cutting (1989).

'Fickle Fact and Sober Fiction' / 'Y Gwir Di-Goll'

Dau ddrafft teipysgrif o’r ddarlith ‘Fickle Fact and Sober Fiction’ (‘Y Gwir Di-Goll’), gyda chywiriadau a nodiadau (Darlith Ben Bowen Thomas, a rhoddwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru, Yr Wyddgrug, Medi 1985); ynghyd â thri chopi teipysgrif arall o'r un darlith, gyda cywiriadau amrywiol a rhai nodiadau, ac un copi teipysgrif ac un copi rhannol o ddrafftiau o’r fersiwn Gymraeg 'Y Gwir Di-Goll', gyda chywiriadau a nodiadau (cyhoeddwyd fel 'Y Gwir Di- Goll – Fickle Fact and Sober Fiction’ (Bangor: Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru, 1986) Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys teipysgrif o erthygl ‘The Third Difficulty’ (cyhoeddwyd yn Planet 61 (1987), tt. 16-25), a llythyrau oddi wrth Emyr Humphreys (1972, heb ei lofnodi) a Colin Scott (1995). / Two typescript drafts of the lecture ‘Fickle Fact and Sober Fiction’ (‘Y Gwir Di-Goll’), with corrections and notes (The Ben Bowen Thomas Lecture, delivered at the North Wales Arts Association AGM, Mold, September 1985); together with three more typescript copies of the same, with various corrections and some notes, and one typescript copy and one partial copy of drafts of Welsh version ‘Y Gwir Di-Goll’, with corrections and notes (published as ‘Y Gwir Di-Goll – Fickle Fact and Sober Fiction’ (Bangor: North Wales Arts Association, 1986). The file also contains a typescript of an article ‘The Third Difficulty’ (published in Planet 61 (1987), pp. 16-25), and letters from Emyr Humphreys (1972, unsigned) and Colin Scott (1995).

'Hunan Barch neu Hunan Laddiad' a phapurau amrywiol eraill / and various other papers

Teipysgrifau, drafftiau a nodiadau amrywiol, gan gynnwys drafft llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys o ddarlith gyda’r teitl 'Hunan Barch neu Hunan Laddiad' (a roddwyd ym Merched y Wawr Aberystwyth, 1986), a nodiadau teipysgrif a llawysgrif pellach, yn cynnwys nodiadau gyda’r teitlau ‘A suggested scheme for a volume of translations from twentieth century Welsh writing’ (heb ei ddyddio), ‘Lle pwysig yw theatr’ (ynghyd â llythyr oddi wrth W. J. Jones, Coleg Sir De Morgannwg, 1978), ‘‘A World of Words: The poet and his environment’, ‘Hawliau Dyn’, ‘Addysg a’r Sefyllfa Gymraeg’ (pob un heb ddyddiad), a ‘Gwlad Beirdd a Gwleidyddion’ (gyda llythyr oddi wrth Diana Shine, Cymdeithas yr Awduron, 1991). / Various typescripts, drafts, and notes, including a manuscript draft in the hand of Emyr Humphreys of a lecture titled ‘Hunan Barch neu Hunan Laddiad’ (given at Merched y Wawr Aberystwyth, 1986), and further typescript and manuscript notes, including notes titled ‘A suggested scheme for a volume of translations from twentieth century Welsh writing’ (undated), ‘Lle pwysig yw theatr’ (together with a letter from W. J. Jones, South Glamorganshire College, 1978), ‘A World of Words: The poet and his environment’, ‘Hawliau Dyn’, ‘Addysg a’r Sefyllfa Gymraeg’ (all undated), and ‘Gwlad Beirdd a Gwleidyddion’ (with a letter from Diana Shine, Society of Authors, 1991).

Toriadau o'r wasg a phamffledi / Press cuttings and pamphlets

Toriadau o'r wasg a phamffledi a gasglwyd gan Emyr Humphreys, gan gynnwys arweinlyfr o Florence, yr Eidal ([?1940au]); copi o The New Statesman (1963); copi o ‘”Canmolwn yn awr”’, teyrnged i John Gwilym Jones gan Emyr Humphreys (1977); copi o ‘Hunaniaeth Eifionydd’ gan Elis Gwyn Jones (1981); a thoriad yn ymwneud â marwolaeth R.S. Thomas (2000). / Press cuttings and pamphlets collected by Emyr Humphreys, including a guide book of Florence, Italy ([?1940s]); a copy of The New Statesman (1963); a copy of ‘”Canmolwn yn awr”’, a tribute to John Gwilym Jones by Emyr Humphreys (1977); a copy of ‘Hunaniaeth Eifionydd’ by Elis Gwyn Jones (1981); and a cutting relating to the death of R.S. Thomas (2000).

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg (1962-3; 1965; 1967) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'The Gift' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1963), 'Outside the House of Baal' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1965), a' Natives’ (Llundain: Secker & Warburg, 1968), gan gynnwys toriadau o The Sunday Times, The Times, The Spectator, Punch, Sunday Telegraph, Yorkshire Post, The Guardian, Western Mail, a Television Weekly. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copïau o siacedi llwch ar gyfer ‘Natives’ a ‘The Gift’; a llythyrau (1960; 1963-5) oddi wrth David Cecil (3) a Maurice Temple Smith (1). / Press cuttings (1962-3; 1965; 1967) relating to Emyr Humphreys’ works ‘The Gift’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1963), ‘Outside the House of Baal’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1965), and ‘Natives’ (London: Secker & Warburg, 1968), including cuttings from The Sunday Times, The Times, The Spectator, Punch, Sunday Telegraph, Yorkshire Post, The Guardian, Western Mail, and Television Weekly. The file also contains copies of dust jackets for ‘Natives’ and ‘The Gift’; and letters (1960; 1963-5) from David Cecil (3) and Maurice Temple Smith (1).

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg ([?1970]-1974; 1978-[?1979]) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'The Gift' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1963), 'National Winner' (Llundain: Macdonald, 1971),'Flesh and Blood’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1974), a ‘The Best of Friends’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1978), gan gynnwys toriadau o The Listener, New Statesman, The Telegraph, The Observer, The Sunday Telegraph, Y Birmingham Post, The Evening News, The Western Mail, The Sunday Times, The Yorkshire Post, The Anglo-Welsh Review, The Evening Standard, Birmingham Evening Mail, Oxford Mail, Y Cymro, The Irish Times, The Spectator, The Financial Times, The Scotsman, The Times, The Tablet, The Guardian, Y Faner, Times Literary Supplement , The Northern Echo, Western Evening Herald, Morning Star, Express & Echo, Yorkshire Evening Post, Lancashire Evening Post, The Citizen, a'r South Wales Echo. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copi o lythyr oddi wrth Saunders Lewis (1971); a llythyr oddi wrth Derek Stanford (1974). / Press cuttings ([?1970]-1974; 1978-[?1979]) relating to Emyr Humphreys’ works ‘The Gift’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1963), ‘National Winner’ (London: Macdonald, 1971), ‘Flesh and Blood’ (London: Hodder & Stoughton, 1974), and ‘The Best of Friends’ (London: Hodder & Stoughton, 1978), including cuttings from The Listener, New Statesman, The Telegraph, The Observer, The Sunday Telegraph, The Birmingham Post, The Evening News, The Western Mail, The Sunday Times, The Yorkshire Post, The Anglo-Welsh Review, The Evening Standard, Birmingham Evening Mail, Oxford Mail, Y Cymro, The Irish Times, The Spectator, The Financial Times, The Scotsman, The Times, The Tablet, The Guardian, Y Faner, Times Literary Supplement, The Northern Echo, Western Evening Herald, Morning Star, Express & Echo, Yorkshire Evening Post, Lancashire Evening Post, The Citizen, and the South Wales Echo. The file also contains a copy of a letter from Saunders Lewis (1971); and a letter from Derek Stanford (1974).

Cylchgronau o ddiddordeb llenyddol / Magazines of literary interest

Copïau o nifer o gylchgronau cyhoeddedig (1973-2019) yn cynnwys erthyglau neu golofnau a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys a/neu yn cynnwys darnau yn ymwneud â’i weithiau, gan gynnwys copïau o Llwyfan: Cylchgrawn Theatr Cymru (Gaeaf 1973); Arcade: Wales Fortnightly (1981); Y Faner (Medi 1985); See 4: News From Channel 4 (Gwanwyn 1988); Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Caerdydd (1989 & 1991); rhaglen Llyfrau Seren (1989); Golwg 3.22 & 3.23 (Chwefror 1991); Llais Llyfrau / Book News from Wales (1980; 1985; 1991); Gwyliedydd: Cyfnodolyn y Wesleaid Cymraeg 51 (1992); Books in Wales 3/98 (Hydref 1998); Barn 326 (Mawrth 1990), 342 (Gorffennaf 1991), & 676 (Mai 2019); ac @470: What’s on in Literary Wales / Beth sy’ ‘mlaen yn Llên Cymru (2000). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys toriadau o Y Faner (1991), Yr Herald Gymraeg (1991), a'r Financial Times (2006). / Copies of a number of published magazines (1973-2019) featuring articles or columns written by Emyr Humphreys and/or featuring pieces relating to his works, including copies of Llwyfan: Cylchgrawn Theatr Cymru (Winter 1973); Arcade: Wales Fortnightly (1981); Y Faner (September 1985); See 4: News From Channel 4 (Spring 1988); the Cardiff Literature Festival Programme (1989 & 1991); programme for Seren Books (1989); Golwg 3.22 & 3.23 (February 1991); Llais Llyfrau / Book News from Wales (1980; 1985; 1991); Gwyliedydd: Cyfnodolyn y Wesleaid Cymraeg 51 (1992); Books in Wales 3/98 (Autumn 1998); Barn 326 (March 1990), 342 (July 1991), & 676 (May 2019); and @470: What’s on in Literary Wales / Beth sy’ ‘mlaen yn Llên Cymru (2000). The file also includes cuttings from Y Faner (1991), Yr Herald Gymraeg (1991), and The Financial Times (2006).

Cylchgronau yn cynnwys erthyglau yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys / Magazines featuring articles relating to Emyr Humphreys' works

Copïau o gylchgronau yn cynnwys erthyglau yn ymwneud ag Emyr Humphreys a'i gweithiau, gan gynnwys copïau o Sbec S4C (1990); Barn (Ebrill 1990); Llais Llyfrau / Books in Wales (Hydref 1996 & 1998); Bwa: Bulletin of the Welsh Academy (Gorffennaf 1997); Buzz: South Wales’ Entertainment Guide (Mehefin 1999); and Golwg (Mawrth 1994, Awst 1995, Mehefin ac Awst 1996, Ionawr 1997, a Gorffennaf 1998). / Copies of magazines featuring articles relating to Emyr Humphreys and his works, including copies of Sbec S4C (1990); Barn (April 1990); Golwg (March 1994); Llais Llyfrau / Books in Wales (Autumn 1996 & 1998); Bwa: Bulletin of the Welsh Academy (July 1997); Buzz: South Wales’ Entertainment Guide (June 1999); and Golwg (August 1995, June & August 1996, January 1997, and July 1998).

B

Llythyrau at Emyr Humphreys (1995-2002), oddi wrth Iwan Bala (1), Tony Bianchi (1), Marisa Bulgheroni (9), ac anhysbys (1). / Letters to Emyr Humphreys (1995-2002), from Iwan Bala (1), Tony Bianchi (1), Marisa Bulgheroni (9), and unknown (1).

G

Llythyrau at Emyr ac Elinor Humphreys (1983-2003), oddi wrth Diana Griffiths (9), R. Geraint Gruffydd (9) (gydag ateb oddi wrth Emyr Humphreys), a Richard a Patricia Griffiths (2). / Letters to Emyr and Elinor Humphreys (1983-2003), from Diana Griffiths (9), R. Geraint Gruffydd (9) (with reply from Emyr Humphreys), and Richard and Patricia Griffiths (2).

Canlyniadau 61 i 80 o 297