Dangos 297 canlyniad

Disgrifiad archifol
Emyr Humphreys Papers Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Delicate Mistakes'

Llyfr nodiadau (1986-1991) yn cynnwys nodiadau llawysgrif a drafftiau yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau rhannol llawysgrif a theipysgrif o waith wedi’i theitlo 'Delicate Mistakes, Etruscan Masks' (yn seiliedig yn ôl pob golwg ar y nofel heb ei chyhoeddi 'Delicate Matters'/'Delicate Mistakes’); drafftiau llawysgrif o sgript gyda’r teitl ‘Ble Mae Daniel?’; drafftiau amrywiol o farddoniaeth; a nodiadau ar gyfer darn wedi’i theitlo ‘W. S. J.’ ([?1995]). / A notepad (1986-1991) containing manuscript nots and drafts in the hand of Emyr Humphreys, including partial manuscript and typescript drafts of a work titled ‘Delicate Mistakes, Etruscan Masks’ (apparently based on the unpublished novel ‘Delicate Matters’/’Delicate Mistakes’); manuscript drafts of a script titled ‘Ble Mae Daniel?’; various drafts of poetry; and notes for a piece titled ‘W. S. J.’ ([?1995]).

'Two Old Men'; 'In Those Days'; 'The Good Samaritan'

Llyfr nodiadau yn cynnwys amryw o nodiadau llawysgrif a drafftiau ([?2000au]; 1999) yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau o straeon byrion yn dwyn y teitlau ‘Two Old Men’, ‘In Those Days’, a ‘The Good Samaritan’; ynghyd â nodiadau di-deitl amrywiol a drafft teipysgrif o sgript (hefyd heb deitl), a nodiadau a chopïau teipysgrif o gerddi wedi’u labelu ‘From a Writer’s Notebook’. / A notepad containing various manuscript notes and drafts ([?2000s]; 1999) in the hand of Emyr Humphreys, including drafts of short stories titled ‘Two Old Men’, ‘In Those Days’, and ‘The Good Samaritan’; together with various untitled notes and a typescript draft of a script (also untitled), and notes and typescript copies of poems labelled ‘From a Writer’s Notebook’.

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg (1970-1; 1973-4; 1978-9) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'Ancestor Worship' (Dinbych: Gwasg Gee, 1970), 'National Winner' (Llundain: Macdonald, 1971), 'Flesh and Blood ’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1974), a ‘The Best of Friends’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1978), yn cynnwys toriadau o The Spectator, The Bookseller, The Tablet, The Sunday Times, The Scotsman, The Guardian, The Times, The Observer, Sunday Telegraph, The Evening Standard, The Financial Times, Y Faner, The Mail, Books and Bookworm, The Western Mail, a The South Wales Echo. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys amryw o bapurau cysylltiedig eraill, gan gynnwys dwy siaced lwch ar gyfer ‘National Winner’ ([1971]; 1972); ffurflen archebu ar gyfer ‘Ancestor Worship’ (1970); catalog ar gyfer Oriel Gelf Bangor (1970); copi o erthygl Meic Stephens, ‘Artists in Wales’ ([?1971]); rhaglen ar gyfer cynhadledd ‘Y Nofel yng Nghymru’ (1977); a llythyrau (1970-3; 1979) oddi wrth Judy Piatkus (1), Tony Austin (1), Nigel Lawson (1), Lowri Morgan (1), Andrew Ravensdale (1), ac Emyr ac Elinor Humphreys (1). / Press cuttings (1970-1; 1973-4; 1978-9) relating to Emyr Humphreys’ works ‘Ancestor Worship’ (Denbigh: Gwasg Gee, 1970), ‘National Winner’ (London: Macdonald, 1971), ‘Flesh and Blood’ (London: Hodder & Stoughton, 1974), and ‘The Best of Friends’ (London: Hodder & Stoughton, 1978), including cuttings from The Spectator, The Bookseller, The Tablet, The Sunday Times, The Scotsman, The Guardian, The Times, The Observer, Sunday Telegraph, The Evening Standard, The Financial Times, Y Faner, The Mail, Books and Bookworm, The Western Mail, and The South Wales Echo. The file also contains various other related papers, including two dust jackets for ‘National Winner’ ([1971]; 1972); an order form for ‘Ancestor Worship’ (1970); a catalogue for Bangor Art Gallery (1970); copy of article by Meic Stephens, ‘Artists in Wales’ ([?1971]); a programme for ‘The Novel in Wales’ conference (1977); and letters (1970-3; 1979) from Judy Piatkus (1), Tony Austin (1), Nigel Lawson (1), Lowri Morgan (1), Andrew Ravensdale (1), and Emyr & Elinor Humphreys (1).

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg (1990-1991; 1996-2000), yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'Unconditional Surrender' (Pen-y-bont: Seren, 1996), 'The Gift of a Daughter' (Pen-y-bont: Seren, 1998), 'Collected Poems' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999), 'National Winner' (ailargraffiad, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2000), a 'Bonds of Attachment' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001); a'r sgriptiau 'Outside Time' (darlledwyd Channel 4, 1991), 'Yr Eneth Fwyn' (a ddarlledwyd BBC, 1997), 'Dwylo' ([c.1993]), a sgript Siôn Humphreys 'Y Plentyn Cyntaf' (1998). Yn cynnwys toriadau o Llais Llyfrau/Welsh Book News, The Western Mail, The Guardian, Liverpool Echo, The Citizen, South Wales Argus, Dorset Evening Echo, Jersey Evening Post, Brighton Evening Argus, Golwg, Daily Mail, The Telegraph, Y Faner, Yr Herald, ac Y Cymro. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys pedwar drafft teipysgrif o gyflwyniad i’r gyfres ‘Land of the Living’ (1990); teipysgrif o erthygl ‘The Relentlessness of Emyr Humphreys’ gan M. Wynn Thomas ([?1991]); cerdyn post oddi wrth ‘Wyn ac Anne’ (1999); copi o raglen dathlu 30 mlynedd ers sefydlu Côr Meibion Trelawnyd (1993); a chopi o ‘English in Wales/Saesneg yng Nghymru’ (1994). / Press cuttings (1990-1991; 1996-2000), relating to Emyr Humphreys’ works ‘Unconditional Surrender’ (Bridgend: Seren, 1996), ‘The Gift of a Daughter’ (Bridgend: Seren, 1998), ‘Collected Poems’ (Cardiff: University of Wales Press, 1999), ‘National Winner’ (reprint, Cardiff: University of Wales Press, 2000), and ‘Bonds of Attachment’ (Cardiff: University of Wales Press, 2001); and the scripts ‘Outside Time’ (broadcast Channel 4, 1991), ‘Yr Eneth Fwyn’ (broadcast BBC, 1997), ‘Dwylo’ ([c.1993]), and Siôn Humphreys’ script ‘Y Plentyn Cyntaf’ (1998). Including cuttings from Llais Llyfrau/Welsh Book News, The Western Mail, The Guardian, Liverpool Echo, The Citizen, South Wales Argus, Dorset Evening Echo, Jersey Evening Post, Brighton Evening Argus, Golwg, Daily Mail, The Telegraph, Y Faner, Yr Herald, and Y Cymro. The file also contains four typescript drafts of an introduction to the ‘Land of the Living’ series (1990); a typescript of an article ‘The Relentlessness of Emyr Humphreys’ by M. Wynn Thomas ([?1991]); a postcard from ‘Wyn ac Anne’ (1999); a copy of a programme for the 30th anniversary of Côr Meibion Trelawnyd (1993); and a copy of ‘English in Wales / Saesneg yng Nghymru’ (1994).

Toriadau o'r wasg, 2000au / Press Cuttings, 2000s

Toriadau a chopïau o’r wasg (2000; [2002]-2003; 2005), yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys ‘Unconditional Surrender’ (Pen-y-bont: Seren, 1996), ‘Old People are a Problem’ (Pen-y-bont: Seren, 2003), a’r gyfres 'Land of the Living' (ailargraffwyd Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999-2001); a ‘Dal Pen Rheswm: Cyfweliadau Gydag Emyr Humphreys’ gan R. Arwel Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999). Yn cynnwys toriadau o New Welsh Review, The Western Mail, Planet, The Guardian, a The Times Literary Supplement. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o adolygiad o ‘Old People are a Problem’ gan Jan Morris (2003); adolygiad o ‘Unconditional Surrender’ (2001), copi o Poetry Wales 35.3 (2000); a chopi o e-bost gan Richard Houdmont (2002). / Press cuttings and copies (2000; [2002]-2003; 2005), relating to Emyr Humphreys’ works ‘Unconditional Surrender’ (Bridgend: Seren, 1996), ‘Old People are a Problem’ (Bridgend: Seren, 2003), and the ‘Land of the Living’ series (reprinted Cardiff: University of Wales Press, 1999-2001); and ‘Dal Pen Rheswm: Cyfweliadau Gydag Emyr Humphreys’ by R. Arwel Jones (Cardiff: University of Wales Press, 1999). Including cuttings from New Welsh Review, The Western Mail, Planet, The Guardian, and The Times Literary Supplement. The file also contains a copy of a review of ‘Old People are a Problem’ by Jan Morris (2003); a review of ‘Unconditional Surrender’ (2001), a copy of Poetry Wales 35.3 (2000); and a copy of an email from Richard Houdmont (2002).

Pregethau / Sermons

Deg llyfr nodiadau (1929; 1934), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau perthynol. / Ten ruled notebooks (1929; 1934), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and related notes.

Tanysgrifiadau a llyfrau coleg / College books and subscriptions

Un ar ddeg o lyfrau nodiadau gyda rhai tudalennau rhydd (1906-1912), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn bennaf yn cofnodi tanysgrifiadau a chasgliadau ar gyfer myfyrwyr Coleg Annibynnol Bala-Bangor (lle'r oedd Griffith Jones yn fyfyriwr), ynghyd â nodiadau pellach perthynol i astudiaethau Beiblaidd, llenyddiaeth Gymraeg, Groeg, a Lladin; ac amserlen gwersi a chopi o bapur arholiad Hebraeg Prifysgol Cymru (1910). / Eleven notebooks with some loose leaves (1906-1912), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and mainly recording subscriptions and collections for the students of Bala-Bangor Independent College (at which Griffith Jones was a student), together with further notes relating to Bible studies, Welsh literature, Greek, and Latin; and a lesson timetable and copy of University of Wales Hebrew exam paper (1910).

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Deg llyfr nodiadau poced (pob un heb ddyddiad), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys ac yn cynnwys drafftiau o farddoniaeth, dwdlau, a chyfeiriadau, ynghyd â cherdyn trwydded yrru Emyr Humprehys (1954-1961), copi o 'British Painting 40 -49' (1966), a nifer o ffotograffau bychain ([?1930au]). Mae'r bwndel hefyd yn cynnwys llyfr nodiadau (1926) mewn sawl llaw wahanol, wedi'i lofnodi gan y Parch. Griffith Jones, Llanwnda, ac yn cynnwys nodiadau ar 'Natur Eglwys', barddoniaeth, a rhestr rhoddion. / Ten pocket notebooks (all undated), containing manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys and consisting of drafts of poetry, doodles, and addresses, together with Emyr Humprehys' driving licence card (1954-1961), a copy of 'British Painting 40-49' (1966), and a number of small photographs ([?1930s]). The bundle also contains a notebook (1926) written in several different hands, signed by Rev. Griffith Jones, Llanwnda, and containing notes on 'Natur Eglwys', poetry, and a donations list.

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Pedwar ar ddeg o lyfrau nodiadau poced (1978-1979; 1983-1984; 1986-1988) yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn bennaf yn llaw Emyr Humphreys gydag ambell law arall, ac yn cynnwys cyfeiriadau, teithlenni, nodiadau dyddiadur, brasluniau, drafftiau, a rhestrau, ynghyd â rhaglen y Gymdeithas Lenyddol Capel Charing Cross Road (1978-1979). / Fourteen pocket notebooks (1978-1979; 1983-1984; 1986-1988) containing manuscript notes mainly in the hand of Emyr Humphreys with the occasional other hand, and including addresses, itineraries, diary notes, sketches, drafts, and lists, together with a programme for Cymdeithas Lenyddol Capel Charing Cross Road (1978-1979).

Papurau yn ymwneud â Tŷ Newydd / Papers relating to Tŷ Newydd

Papurau yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth Taliesin a phrydles Tŷ Newydd, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Taliesin (1989), copïau drafft o brydles Tŷ Newydd a gweithredoedd ymddiriedolaeth (1989), copi o’r weithred ymddiriedolaeth (1990), a nodiadau a threfniadau (1989); ynghyd â nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys yn dwyn y teitl ‘Canol y Cwmwd’ ([?1985]), a gwahoddiad i Emyr Humphreys roi sgwrs i’r Ymddiriedolaeth (1993). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llun (heb ddyddiad); nodiadau pellach gyda’r teitl ‘Text for Billing’ (heb eu dyddio); llythyrau oddi wrth M. A. R. Kemp (1989) ac R. Alun Evans (1990); a chopi o erthygl gan Roland Mathias o’r enw ‘Emyr Humphreys’, yn manylu ar ei weithiau llenyddol ([1980]). / Papers relating to The Taliesin Trust and the lease of Tŷ Newydd, comprising letters from the Welsh Arts Council and The Taliesin Trust (1989), draft copies of the Tŷ Newydd lease and trust deeds (1989), a copy of the trust deed (1990), and notes & arrangements (1989); together with manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys titled ‘Canol y Cwmwd’ ([?1985]), and an invitation for Emyr Humphreys to give a talk for the Trust (1993). The file also includes a photo print (undated); further notes titled ‘Text for Billing’ (undated); letters from M. A. R. Kemp (1989) and R. Alun Evans (1990); and a copy of an article by Roland Mathias titled ‘Emyr Humphreys’, detailing his literary works ([1980]).

Gŵyl y Gelli / Hay Festival

Rhaglen ar gyfer Gŵyl y Gelli 1993, a oedd yn cynnwys digwyddiad gydag Emyr Humphreys, ynghyd â llythyr at Peter Florence (cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli), tocynnau, a gwybodaeth. / A programme for Hay Festival 1993, which featured an event with Emyr Humphreys, together with a letter to Peter Florence (Hay Festival director), tickets, and information.

Drafftiau rhannol / Partial drafts

Llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau a ddrafftiau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau (rhai rhannol) o straeon byrion gyda’r teitlau ‘Byw Ar Y Brig', 'Work in Progress', 'Life at the Top of the Tree', a 'Happy Ending'; ynghyd â drafftiau o farddoniaeth. / A notebook containing various manuscript notes and drafts in the hand of Emyr Humphreys, including drafts (some partial) of short stories titled 'Byw Ar Y Brig’, ‘Work In Progress’, ‘Life at the Top of the Tree’, and ‘Happy Ending’; together with drafts of poetry.

Teipysgrifau / Typescripts

Dau deipysgrif o sgript, gyda rhai nodiadau, ynghyd â theipysgrif o sgript ar gyfer ail act, ar gyfer drama deledu gyda'r teitl ‘Hualau’. / Two typescripts of a script, with some notes, together with a typescript of a script for a second act, of a television drama titled 'Hualau'.

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl 'Teulu Helga' (1986). / A typescript of a script for a film for television titled 'Teulu Helga' (1986).

'Yr Alwad'

Teipysgrif (1988) o sgript o ddrama deledu gyda'r teitl ‘Yr Alwad’. Darlledwyd ar S4C, 24 Rhagfyr 1988. / A typescript (1988) of a script of a television drama, titled ‘Yr Alwad’. Transmitted on S4C, 24 December 1988.

Sgript heb teitl / An untitled script

Teipysgrif heb deitl o sgript ar gyfer yr hyn sy'n ymddangos fel ddrama deledu (heb ddyddiad). / An untitled typescript of a script for what appears to be a drama for television (undated).

Drafft teipysgrif / Typescript draft

Drafft teipysgrif ([?1995]) o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl 'Rhodd Mam'. / A typescript draft ([?1995]) of a script for a film for television titled 'Rhodd Mam'.

Nodiadau a drafftiau amrywiol / Various notes and drafts

Nodiadau a drafftiau llawysgrif a theipysgrif amrywiol yn ymwneud â’r ddrama deledu ‘Visitors’, gan gynnwys drafftiau teipysgrif, gyda nodiadau, o sgriptiau ar gyfer penodau 1, 2, 3, 5 a 6 a chyflwyniad a chrynodeb o bennodau; drafftiau llawysgrif ar gyfer pennod 1; ynghyd â theipysgrif ar gyfer pennod 4 o ddrama o’r enw ‘Lôn Goed’ gan Bethan Dwyfor a Bryn Fôn (heb ddyddiad), a llythyr oddi wrth Siôn Humphreys (1999). / Various manuscript and typescript notes and drafts relating to the television drama ‘Visitors’, including typescript drafts, with notes, of scripts for episodes 1, 2, 3, 5 and 6 and an introduction and episode summary; manuscript drafts for episode 1; together with a typescript for episode 4 of a drama titled ‘Lôn Goed’ by Bethan Dwyfor a Bryn Fôn (undated), and a letter from Siôn Humphreys (1999).

Teipysgrifau a phapurau cysylltiedig / Typescripts and related papers

Llyfr nodiadau a phapurau rhydd (1998), yn cynnwys dau deipysgrif, un gyda chywiriadau, o grynodeb ar gyfer y ddrama deledu ‘Visitors’, ynghyd â drafft llawysgrif o sgript ar gyfer pennod 1 yn llaw Emyr Humphreys. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys nodiadau llawysgrif amrywiol mewn sawl llaw wahanol (un un Emyr Humphreys) gan gynnwys coeden deulu o gymeriadau, crynodebau plot, a disgrifiadau o'r golygfeydd; a drafft llawysgrif o’r stori fer ‘The Photograph’ (cyhoeddwyd fel ‘Vennerberg’s Ghost’ yn Planet 140 (2000), 47-59). / A notepad and loose papers (1998), consisting of two typescripts, one with corrections, of a summary for the television drama ‘Visitors’, together with a manuscript draft of a script for episode 1 in the hand of Emyr Humphreys. The file also includes various manuscript notes in several different hands (one that of Emyr Humphreys) including character family trees, plot summaries, and scene descriptions; and a manuscript draft of the short story ‘The Photograph’ (published as ‘Vennerberg’s Ghost’ in Planet 140 (2000), 47-59).

Comisiynau a chytundebau / Commissions and agreements

Cytundebau a memoranda (1984-1997) ar gyfer sgriptiau ar gyfer cynyrchiadau gan Ffilmiau Bryngwyn, gan gynnwys cytundebau ar gyfer y drama ‘Yr Eneth Fwyn’ (BBC); y dramâu teledu ‘Dwylo’ (BBC), ‘Ŵyn i’r Lladdfa’ (S4C) a ‘Byw yn Rhydd’ (S4C); a’r gyfresau ddogfen ‘The Hidden Source’ a ‘British Myths’. / Contract agreements and memoranda (1984-1997) for scripts for productions by Ffilmiau Bryngwyn, including contracts for the teleplay ‘Yr Eneth Fwyn’ (BBC); the television dramas ‘Dwylo’ (BBC), ‘Ŵyn i’r Lladdfa’ (S4C) and ‘Byw yn Rhydd’ (S4C); and the documentary series ‘The Hidden Source’ and ‘British Myths’.

Canlyniadau 121 i 140 o 297