Dangos 23 canlyniad

Disgrifiad archifol
Emyr Humphreys Papers Is-gyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth arall / Other correspondence

Gohebiaeth yn cynnwys llythyrau at ac oddi wrth Emyr ac Elinor Humphreys, ynghyd â rhai papurau cysylltiedig ([?1933]-2015), yn ymwneud â materion personol a llenyddol megis gweithiau Emyr Humphreys, materion teuluol, cyhoeddi, sgriptiau a gwaith y BBC, Cyngor Celfyddydau Cymru, a digwyddiadau llenyddol. / Correspondence comprising letters to and from Emyr and Elinor Humphreys, with some related papers ([?1933]-2015), relating to both personal and literary matters such as Emyr Humphreys’ works, family matters, publishing, scripts and BBC work, the Welsh Arts Council, and literary events.

'The Gift of a Daughter'

Papurau, yn cynnwys nodiadau a drafftiau, yn ymwneud â nofel Emyr Humphreys 'The Gift of a Daughter', a gyhoeddwyd yn 1998 (Pen-y-bont: Seren, 1998). / Papers, including notes and drafts, relating to Emyr Humphreys' novel 'The Gift of a Daughter', published in 1998 (Bridgend: Seren, 1998).

Erthyglau gan M. Wynn Thomas / Articles by M. Wynn Thomas

Erthyglau a phapurau cysylltiedig eraill (1984-2003) gan M. Wynn Thomas yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys, gan gynnwys teipysgrifau, adolygiadau, nodiadau, toriadau, a pheth o ohebiaeth. / Articles and other related papers (1984-2003) by M. Wynn Thomas relating to the works of Emyr Humphreys, including typescripts, reviews, notes, cuttings, and some correspondence.

Toriadau a phamffledi / Cuttings and pamphlets

Toriadau o'r wasg a phamffledi amrywiol (1917-1918; [?1931]-2004) a gasglwyd gan ac yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys. / Various press cuttings and pamphlets (1917-1918; [?1931]-2004) collected by and relating to the works of Emyr Humphreys.

'Dal Pen Rheswm'

Papurau (1998), yn cynnwys proflenni yn bennaf, yn ymwneud â'r cyhoeddiad 'Dal Pen Rheswm: Cyfres o Gyfweliadau gydag Emyr Humphreys' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999). / Papers (1998), consisting mainly of proofs, relating to the publication 'Dal Pen Rheswm: Cyfres o Gyfweliadau gydag Emyr Humphreys' (Cardiff: University of Wales Press, 1999).

'Welsh Time'

Papurau (2004), yn cynnwys yn bennaf detholiadau o waith Emyr Humphreys, yn ymwneud â'r cyhoeddiad 'Welsh Time' (Y Drenewydd: Gwasg Gregynog: 2009). / Papers (2004), consisting mainly of extracts from Emyr Humphreys' work, relating to the publication 'Welsh Time' (Newtown: Gregynog Press, 2009).

'Emyr Humphreys'

Teipysgrif o'r gwaith 'Emyr Humphreys' gan M. Wynn Thomas (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2018). / A typescript of the work 'Emyr Humphreys' by M. Wynn Thomas (Cardiff: University of Wales Press, 2018).

Cyhoeddwyr ac asiantwyr / Publishers and agents

Gohebiaeth, yn cynnwys llythyrau at ac oddi wrth Emyr Humphreys oddi wrth gyhoeddwyr ac asiantwyr llenyddol, gan gynnwys Gwasg Prifysgol Cymru (1998-2007), Sheil Land Associates (1989-2007), a Gwasg Seren (1981-2006). / Correspondence, comprising letters to and from Emyr Humphreys from publishers and literary agents, including University of Wales Press (1998-2007), Sheil Land Associates (1989-2007), and Seren Books (1981-2006).

Comisiynau a digwyddiadau / Commissions and events

Gohebiaeth, yn cynnwys llythyrau at ac oddi wrth Emyr Humphreys yn ymwneud â chomisiynau a digwyddiadau, gan gynnwys comisiynau llenyddol a gwyliau (1978-1998); agoriad swyddogol Adeilad Parry-Williams, Prifysgol Aberystwyth (1995-2001); digwyddiadau pellach ym Mhrifysgol Aberystwyth (1962; 1995-1999); ac amryw o ddigwyddiadau llenyddol eraill (1989-2009). / Correspondence, comprising letters to and from Emyr Humphreys relating to commissions and events, including literary commissions and festivals (1978-1998); the official opening of the Parry-Williams Building, Aberystwyth University (1995-2001); further events at Aberystwyth University (1962; 1995-1999); and various other literary events (1989-2009).

'Ghosts and Strangers'

Papurau, gan gynnwys nodiadau, drafftiau, a theipysgrifau (1989-[?2003]), yn ymwneud â'r casgliad o straeon byrion a gyhoeddwyd fel 'Ghosts and Strangers' (Pen-y-bont: Seren, 2001). / Papers, including notes, drafts, and typescripts (1989-[?2003]), relating to the collection of short stories published as 'Ghosts and Strangers' (1989-[?2003]).

'Visitors'

Papurau (1998-1999), gan gynnwys nodiadau, drafftiau, teipysgrifau, a gohebiaeth, yn ymwneud â chynhyrchu sgript ar gyfer drama deledu chwe rhan gyda'r teitl 'Visitors'. / Papers (1998-1999), including notes, drafts, typescripts, and correspondence, relating to the production of a script for a six-part television drama titled 'Visitors'.

'Unconditional Surrender'

Papurau, yn cynnwys nodiadau, drafftiau, a theipysgrifau yn ymwneud â nofel Emyr Humphreys 'Unconditional Surrender', a gyhoeddwyd yn 1996 (Pen-y-bont: Seren, 1996). / Papers, including notes, drafts, and typescripts, relating to Emyr Humphreys' novel 'Unconditional Surrender', published in 1996 (Bridgend: Seren, 1996).

Materion llenyddol eraill / Other literary matters

Gohebiaeth, yn cynnwys llythyrau at ac oddi wrth Emyr Humphreys yn ymwneud â materion llenyddol eraill, gan gynnwys gweithiau'r llenor Cymraeg W. S. Jones a'r bardd R. S. Thomas (1929; 1992; 2001-2002); materion eraill gan gynnwys Pwyllgor Apêl Saunders Lewis, Llyfrgell Gwynedd, Gŵyl y Gelli, comisiynau, a chyhoeddiadau (1989; 1991-1993); a'r trefniadau ar gyfer y pryniad o bapurau Emyr Humphreys gan LlGC yn 1994 (1983-1995). / Correspondence, comprising letters to and from Emyr Humphreys relating to other literary matters, including the works of the Welsh writer W. S. Jones and the poet R. S. Thomas (1929; 1992; 2001-2002); other matters including the Saunders Lewis Appeal Committee, Gwynedd Library, the Hay Festival, commissions, and publications (1989; 1991-1993); and the arrangements for the purchase of Emyr Humphreys' papers by NLW in 1994 (1983-1995).

'In the Shadow of the Pulpit'

Teipysgrif o'r gwaith 'In the Shadow of the Pulpit: Literature and Nonconformist Wales’ gan M. Wynn Thomas (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2010). / A typescript of the work 'In the Shadow of the Pulpit: Literature and Nonconformist Wales’ by M. Wynn Thomas (Cardiff: University of Wales Press, 2010).

'Old People are a Problem'

Papurau, gan gynnwys nodiadau, drafftiau, a theipysgrifau ([?1993]-2003), yn ymwneud â'r casgliad o straeon byrion a gyhoeddwyd fel 'Old People are a Problem' (Pen-y-bont: Seren, 2003). / Papers, including notes, drafts, and typescripts ([?1993]-2003), relating to the collection of short stories published as 'Old People are a Problem' (Bridgend: Seren, 2003).

'The Woman at the Window'

Papurau, gan gynnwys nodiadau, drafftiau, teipysgrifau, a phroflenni (2003-2014), yn ymwneud â'r casgliad o straeon byrion a gyhoeddwyd fel 'The Woman at the Window' (Pen-y-bont: Seren, 2009). / Papers, including notes, drafts, typescripts, and proofs (2003-2014), relating to the collection of short stories published as 'The Woman at the Window' (Bridgend: Seren, 2009).

Straeon byrion cyhoeddedig eraill / Other published short stories

Papurau, [?1938]-[?2009], yn cynnwys nodiadau a drafftiau, yn ymwneud â straeon byrion eraill gan Emyr Humphreys a gyhoeddwyd naill ai'n unigol neu fel rhan o gasgliadau. / Papers, [?1938]-[?2009], including notes and drafts, relating to other short stories by Emyr Humphreys published either individually or as part of collections.

Nodiadau a drafftiau anghyhoeddedig eraill / Other unpublished notes and drafts

Llyfrau nodiadau a phapurau (1992-2010), yn cynnwys nodiadau a drafftiau, rhai yn rhannol a di-deitl, yn ymwneud yn bennaf ag amryw o straeon byrion eraill heb eu cyhoeddi gan Emyr Humphreys. / Notebooks and papers (1992-2010), containing notes and drafts, some partial and untitled, mainly relating to various other unpublished short stories by Emyr Humphreys.

'Hualau'

Teipysgrifau (1984) yn ymwneud â chynhyrchu'r ddrama deledu 'Hualau', a ddarlledwyd ar S4C, 9 Mawrth 1984. / Typescripts (1984) relating to the production of the television drama 'Hualau', transmitted on S4C, 9 March 1984.

'Angel o'r Nef'

Teipysgrifau (1984-1985) yn ymwneud â chynhyrchu'r ddrama deledu 'Angel o'r Nef', a ddarlledwyd ar S4C, 17 Rhagfyr 1985. / Typescripts (1984-1985) relating to the production of the television drama 'Hualau', transmitted on S4C, 17 December 1985.

Canlyniadau 1 i 20 o 23