Dangos 2812 canlyniad

Disgrifiad archifol
Emyr Humphreys Papers
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Rhodd Mam'

Papurau (1965; 1995), yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf, yn ymwneud â chynhyrchu sgript o ffilm ar gyfer y teledu wedi'i theitlo 'Rhodd Mam' gan Emyr a Siôn Humphreys. Darlledwyd gan S4C yn 1995. / Papers (1965; 1995), consisting mainly of typescripts, relating to the production of a script of a film for television titled 'Rhodd Mam' by Emyr and Siôn Humphreys. Transmitted by S4C in 1995.

Drafft llawysgrif a phapurau cysylltiedig / Manuscript draft and related papers

Llyfr nodiadau (1998), yn cynnwys drafft llawysgrif o sgript ar gyfer drama 6-rhan wedi'i theitlo 'Visitors', wedi'i hysgrifennu mewn llaw anhysbys (llaw Siôn Humphreys o bosibl), ynghyd â rhai toriadau o'r wasg (heb eu dyddio) a drafftiau o ddau lythyr oddi wrth Siôn Humphreys. / A notepad (1998), containing a manuscript draft of a script for a 6-part drama titled ‘Visitors’, written in an unidentified hand (possibly that of Siôn Humphreys), together with some press cuttings (undated) and drafts of two letters from Siôn Humphreys.

Nodiadau, crynodebau, a phapurau cysylltiedig eraill / Notes, summaries, and other related papers

Papurau yn ymwneud â’r ddrama deledu ‘Visitors’, yn cynnwys cytundeb awdur (1998), ynghyd â dau lythyr; nodiadau llawysgrif gyda’r teitl ‘Capel Hebron: Y Bedydd a’r Deyrnged’; dau deipysgrif o olygfeydd ar gyfer pennod 1, a dau deipysgrif arall o olygfeydd ar gyfer pennod 2; manylion y cymeriad; a dau deipysgrif o grynodeb stori. / Papers relating to the television drama ‘Visitors’, consisting of a writer’s contract (1998), together with two letters; manuscript notes titled ‘Capel Hebron: Y Bedydd a’r Deyrnged’; two typescripts of scenes for episode 1, and two further typescripts of scenes for episode 2; character details; and two typescripts of a story summary.

'Mel's Secret Love'

Papurau, gan gynnwys nodiadau, drafftiau, a theipysgrifau, yn ymwneud â chynhyrchu drama deledu yn seiliedig ar y stori fer ''Mel's Secret Love' gan Emyr Humphreys (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 'Natives' (London: Secker & Warburg, 1968).
/ Papers, including notes, drafts, and typescripts, relating to the production of a television drama based on the short story 'Mel's Sectret Love' by Emyr Humphreys (originally published in 'Natives' (London: Secker & Warburg, 1968).

Teipysgrifau / Typescripts

Dau gopi teipysgrif o sgript ddi-deitl (heb eu dyddio), un gyda rhai cywiriadau, yn ôl pob golwg yn addasiad o'r stori fer 'Mel's Secret Love' (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 'Natives' (London: Secker & Warburg, 1968)), ynghyd â nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys. / Two typescript copies of an untitled script (undated), one with some corrections, apparently an adaptation of the short story ‘Mel’s Secret Love’ (originally published in ‘Natives’ (London: Secker & Warburg, 1968), together with manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys.

'Hanes Elsi'

Drafft llawysgrif (heb ddyddiad) yn llaw Emyr Humphreys o sgript ar gyfer drama o’r enw ‘Hanes Elsi’. / A manuscript draft (undated) in the hand of Emyr Humphreys of a script for a drama titled ‘Hanes Elsi’.

'Y Cwlwm Sanctaidd/The Sacred Knot'

Pedwar drafft teipysgrif (heb ddyddiad), gyda rhai cywiriadau, o sgript ar gyfer drama deledu gyda'r teitl ‘Y Cwlwm Sanctaidd/The Sacred Knot’, gydag un copi wedi'i theitlo ‘Y Cwlwm Cariad/The Knot of Love’. / Four typescript drafts (undated), with some corrections, of a script for a television drama titled ‘Y Cwlwm Sanctaidd/The Sacred Knot’, with one copy titled ‘Y Cwlwm Cariad/The Knot of Love’.

Gohebiaeth, nodiadau a drafftiau / Correspondence, notes and drafts

Gohebiaeth, nodiadau, a drafftiau (1983-1999) yn ymwneud â chwmni Ffilmiau Bryngwyn, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Siôn Humphreys (1), Elwyn Williams (1), ac Emyr Humphreys (1); cardiau hysbysebu ar gyfer y dramâu teledu ‘Y Siop’ (1997) a ‘Rhodd Mam’ (heb ddyddiad); nodiadau amrywiol (1983; 1989); crynodeb o benodau ar gyfer rhaglen ddogfen am y llenor Kate Roberts (heb ddyddiad); drafft llawysgrif o sgript yn llaw Emyr Humphreys yn dwyn y teitl ‘Y Cwlwm Sanctaidd’ (heb ddyddiad); a thudalennau teipysgrif o sgript ddi-deitl (1998-1999). / Correspondence, notes, and drafts (1983-1999) relating to the Ffilmiau Bryngwyn company, consisting of letters from Siôn Humphreys (1), Elwyn Williams (1), and Emyr Humphreys (1); advertisement cards for the television dramas ‘Y Siop’ (1997) and 'Rhodd Mam' (undated); various notes (1983; 1989); a summary of episodes for a documentary about the writer Kate Roberts (undated); a manuscript draft of a script in the hand of Emyr Humphreys titled ‘Y Cwlwm Sanctaidd’ (undated); and typescript pages of an untitled script (1998-1999).

Cynigion sgript a syniadau / Script proposals and ideas

Nodiadau a theipysgrifau (1990; 1997; 1999) yn ymwneud â chwmni Ffilmiau Bryngwyn, yn cynnwys yn bennaf gynigion a syniadau ar gyfer cyfresi teledu, gan gynnwys nodiadau llawysgrif a theipysgrif a drafftiau yn ymwneud â syniadau ar gyfer cyfresi teledu; cynigion teipysgrif gan Ffilmiau Bryngwyn ar gyfer cyfresi teledu amrywiol, gyda'r teitlau gweithredol ‘Visitors’, ‘Ar y Clwt’, a ffilm, ‘Ar Lan Y Mor’; amlinelliadau pellach o syniadau ar gyfer cyfresi teledu eraill, rhaglenni dogfen, a ffilmiau gyda'r teitlau gweithredol ‘Llythyrau o’r Ffrynt’, ‘Bebb’, ‘Ysbytai’, ‘Cymru yn y Canol’, ‘Athrylith y Lle’, ‘Dirgelion Oes y Cerrig’, ‘Y Seintiau Celtaidd Crwydrol a’r Seintiau Cymraeg’, ‘Byd Ambrose Bebb’, ‘Yr Ysgol Sul’, ‘Pab Cymraeg?’, ‘Beth Digwyddodd i Lladin?’, ‘Orielau Mawr Ewrop’, ‘Cystrawen Ffilm’, ‘Yr Hen Ogledd’, and ‘Yr Etrwsciaid’, ‘Draw Dros y Don’, ‘Yma Gorwedd’, ‘Llaw yn y Tân’, ‘Mudandod’, ‘Etruscan Places’, ‘Hualau’, ‘Outside Time’, ‘Fishing for the Truth’, ‘Takeaway’, ‘The European Eye’, ‘Shakespeare in Europe’, ‘A Girl in a Garden’, a ‘Shoulder on the Stone’, ymysg eraill. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nodiadau llawysgrif pellach o’r enw ‘Llais Llyfrau’; copi teipysgrif o gyfweliad ag Emyr Humphreys yn trafod ei weithiau llenyddol; a phroflenni ar gyfer tudalennau teitl a phenodau o gyfres ‘The Land of Living’. / Notes and typescripts (1990; 1997; 1999) relating to the Ffilmiau Bryngwyn company, consisting mainly of proposals and ideas for TV series, including manuscript and typescript notes and drafts relating ideas for TV series; typescript proposals by Ffilmiau Bryngwyn for various TV series, with the working titles ‘Visitors’, ‘Ar y Clwt’, and a film, ‘Ar Lan Y Mor’; further outlines of ideas for other TV series, documentaries, and films with the working titles ‘Llythyrau o’r Ffrynt’, ‘Bebb’, ‘Ysbytai’, ‘Cymru yn y Canol’, ‘Athrylith y Lle’, ‘Dirgelion Oes y Cerrig’, ‘Y Seintiau Celtaidd Crwydrol a’r Seintiau Cymraeg’, ‘Byd Ambrose Bebb’, ‘Yr Ysgol Sul’, ‘Pab Cymraeg?’, ‘Beth Digwyddodd i Lladin?’, ‘Orielau Mawr Ewrop’, ‘Cystrawen Ffilm’, ‘Yr Hen Ogledd’, and ‘Yr Etrwsciaid’, ‘Draw Dros y Don’, ‘Yma Gorwedd’, ‘Llaw yn y Tân’, ‘Mudandod’, ‘Etruscan Places’, ‘Hualau’, ‘Outside Time’, ‘Fishing for the Truth’, ‘Takeaway’, ‘The European Eye’, ‘Shakespeare in Europe’, ‘A Girl in a Garden’, and ‘Shoulder on the Stone’, among others. The file also includes further manuscript notes titled ‘Llais Llyfrau’; a typescript copy of an interview with Emyr Humphreys discussing his literary works; and proofs for title pages and chapters from ‘The Land of Living’ series.

Gohebiaeth, nodiadau a drafftiau / Correspondence, notes, and drafts

Papurau yn ymwneud â chwmni Ffilmiau Bryngwyn, yn cynnwys teipysgrif o sgript ar gyfer rhan gyntaf drama gyda’r teitl ‘Visitors’ ([?1999]); nodiadau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys yn ymwneud â theleffilmiau ar gyfer BBC2 Cymru; drafft llawysgrif o adolygiad o ‘Sgrin a Sain a Fflam y Ffydd’ gan R. Tudur Jones; a llythyr oddi wrth Siôn Humphreys yn trafod syniadau ar gyfer rhaglenni dogfen (1995), a cherdyn oddi wrth Emyr Humphreys (1995). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papurau amrywiol eraill megis teipysgrif o draethawd Emyr Humphreys ‘Anglo-Welsh’; drafft o gerdd gyda’r teitl ‘Looking at Photographs’ (2010); dau ffotograff o Emyr Humphreys gyda Kyffin Williams ac R. S. Thomas (1999); llungopïau o lythyrau William G. Jones (1882; 1885; 1898) a thad-yng-nghyfraith Emyr Humphreys, Griffith Jones (1890); a theipysgrifau o erthyglau o’r enw ‘Goronwy Rees’ a ‘Pamela a Charles’ (heb eu dyddio). / Papers relating to the Ffilmiau Bryngwyn company, consisting of a typescript of a script for part one of a drama titled ‘Visitors’ ([?1999]); various manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys relating to telefilms for BBC2 Wales; a manuscript draft of a review of ‘Sgrin a Sain a Fflam y Ffydd’ by R. Tudur Jones; and a letter from Siôn Humphreys discussing ideas for documentary programmes (1995), and a card from Emyr Humphreys (1995). The file also includes other miscellaneous papers such as a typescript of Emyr Humphreys’ essay ‘Anglo-Welsh’; a draft of a poem titled ‘Looking at Photographs’ (2010); two photographs of Emyr Humphreys with Kyffin Williams and R. S. Thomas (1999); photocopies of letters written by William G. Jones (1882; 1885; 1898) and Emyr Humphreys’ father-in-law Griffith Jones (1890); and typescripts of articles titled ‘Goronwy Rees’ and ‘Pamela and Charles’ (undated).

Dramâu llwyfan / Stage plays

Sgriptiau (1963-[c.1964]; 1998) yn ymwneud â dramâu llwyfan gan Emyr Humphreys. / Scripts (1963-[c.1964]; 1998) relating to stage plays by Emyr Humphreys.

Canlyniadau 2801 i 2812 o 2812