Showing 297 results

Archival description
Emyr Humphreys Papers File English
Advanced search options
Print preview View:

Tanysgrifiadau a llyfrau coleg / College books and subscriptions

Un ar ddeg o lyfrau nodiadau gyda rhai tudalennau rhydd (1906-1912), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn bennaf yn cofnodi tanysgrifiadau a chasgliadau ar gyfer myfyrwyr Coleg Annibynnol Bala-Bangor (lle'r oedd Griffith Jones yn fyfyriwr), ynghyd â nodiadau pellach perthynol i astudiaethau Beiblaidd, llenyddiaeth Gymraeg, Groeg, a Lladin; ac amserlen gwersi a chopi o bapur arholiad Hebraeg Prifysgol Cymru (1910). / Eleven notebooks with some loose leaves (1906-1912), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and mainly recording subscriptions and collections for the students of Bala-Bangor Independent College (at which Griffith Jones was a student), together with further notes relating to Bible studies, Welsh literature, Greek, and Latin; and a lesson timetable and copy of University of Wales Hebrew exam paper (1910).

Pregethau / Sermons

Deg llyfr nodiadau (1929; 1934), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau perthynol. / Ten ruled notebooks (1929; 1934), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and related notes.

'Cofio Daniel'

Dau deipysgrif, gyda rhai cywiriadau, o sgript ar gyfer drama gyda'r teitl ‘Cofio Daniel’, addasiad o ‘Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel’ gan Daniel Owen (cyhoeddwyd gyntaf Amwythig: J. Ll. Morris, 1885); ynghyd â phedwar teipysgrif drafft o grynodebau sgriptiau, ynghyd â theipysgrifau amrywiol eraill a nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys, map o dref yr Wyddgrug, a chopi o restr o weithiau gan Daniel Owen ([?1936]). / Two typescripts, with some corrections, of a script for a drama titled ‘Cofio Daniel’, an adaptation of ‘Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel’ by Daniel Owen (first published Shrewsbury: J. Ll. Morris, 1885); together with four typescript drafts of script summaries, with various other typescripts and manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, a map of Mold town, and a copy of a list of works by Daniel Owen ([?1936]).

Pregethau / Sermons

Pum llyfr nodiadau, ynghyd â bwndeli o thudalennau rhydd (1918-1921), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau perthynol. Mae'r bwndel hefyd yn cynnwys toriad o'r wasg (1942). / Five ruled notebooks, together with bundles of loose leaves (1918-1921), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and related notes. The bundle also includes a press cutting (1942).

Mapiau o'r Eidal o gyfnod yr Ail Ryfel Byd / WWII era maps of Italy

Pymtheg map ffordd o'r Eidal, dyddiedig 1943 ac a gyhoeddwyd gan y 'U.S. Army Map Service', Washington. O bosib yn gysylltiedig â gwasanaeth Emyr Humphreys yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd. / Fifteen road maps of Italy, dated 1943 and issued by the U.S. Army Map Service, Washington. Possibly related to Emyr Humphreys' service in Italy during the Second World War.

Pregethau, nodiadau, a chasgliadau plwyf / Sermons, notes, and parish collections

Naw o lyfrau nodiadau bychain (1920; 1922-23; 1926; 1932-1933; 1936; 1946-55), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau amrywiol eraill yn ymwneud â chasgliadau a thanysgrifiadau plwyfol, rhoddion, a nodiadau meddygol. / Nine small notebooks (1920; 1922-23; 1926; 1932-1933; 1936; 1946-55), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and various other notes relating to parish collections and subscriptions, donations, and medical notes.

Nodiadau cwis / Quiz notes

Papurau amrywiol o nodiadau llawysgrif a theipysgrif (1940; 1948-1949) wedi'u labelu 'Quiz a Llenyddol & Gwybodaeth gyffredinol, hefyd englynion', yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol a chwestiynau cwis, emynau, a nodiadau yn ymwneud â hanes teulu, ynghyd â rhestr o gynrychiolwyr dros Undeb yr Annibynwyr Cymraeg Caernarfon a'r Cylch (1930); papur arholiad Undeb Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymraeg (1941); a manylion pensiwn (1952-1957). / Various papers of manuscript and typescript notes (1940; 1948-1949) labelled ‘Quiz a Llenyddol & Gwybodaeth gyffredinol, hefyd englynion’, consisting of general knowledge and quiz questions, hymns, and notes relating to family history, together with a list of representatives for Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg Caernarvon a’r Cylch (1930); an exam paper for Undeb Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymraeg (1941); and pension details (1952-1957).

'Notes from an Aalborg Sketchbook'

Copi o gylchgrawn Daneg gyda’r teitl 'Aalborg Shows the Way' (1957-1958), yn cynnwys erthygl gan Emyr Humphreys 'Notes from an Aalborg Sketchbook', ynghyd â drafftiau teipysgrif gyda’r teitlau 'Aalborg Revisited' a 'The Aalborghal or Why Not Us', a drafft llawysgrif pellach o 'Aalborg Revisited'. / A copy of a Danish magazine titled ‘Aalborg Shows the Way’ (1957-1958), featuring an article by Emyr Humphreys titled ‘Notes from an Aalborg Sketchbook’, together with typescript drafts titled ‘Aalborg Revisited’ and ‘The Aalborghal or Why Not Us’, and a further manuscript draft of ‘Aalborg Revisited’.

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg (1950-1959) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'A Man's Estate' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1955), 'Y Tri Llais' (Llandybie: Llyfrau'r Dryw, 1958), 'A Toy Epic' ( Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1958), a ‘Hear and Forgive’ (Llundain: Victor Edlancz, 1952), yn cynnwys toriadau o Church Times, Y Ddraig Goch, The New York Sun, The Telegraph, The Times, The Sunday Times, London Evening News, The Observer, Y Cymro, The Spectator, Western Mail, Time and Tide, Empire News, a Tywysydd y Plant. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copïau o gloriau llwch ar gyfer ‘A Change of Heart’ (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1951), ac ‘Y Tri Llais’; llythyr oddi wrth David Cecil (1958); copi o CV Emyr Humphreys (1954); a chopi o The Bookman (Journal of the Book Society, Tachwedd 1955). / Press cuttings (1950-1959) relating to Emyr Humphreys’ works ‘A Man’s Estate’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1955), ‘Y Tri Llais’ (Llandybie: Llyfrau’r Dryw, 1958), ‘A Toy Epic’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1958), and ‘Hear and Forgive’ (London: Victor Edlancz, 1952), including cuttings from Church Times, Y Ddraig Goch, The New York Sun, The Telegraph, The Times, The Sunday Times, London Evening News, The Observer, Y Cymro, The Spectator, Western Mail, Time and Tide, Empire News, and Tywysydd y Plant. The file also contains copies of dust covers for ‘A Change of Heart’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1951), and ‘Y Tri Llais’; a letter from David Cecil (1958); a copy of Emyr Humphreys’ CV (1954); and a copy of The Bookman (Journal of the Book Society, November 1955)

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg (1950-1959) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys ‘The Italian Wife’ (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1957), ‘A Change of Heart’ (Lundain: Eyre & Spottiswoode, 1951), ‘A Man’s Estate’ (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1955), ‘A Toy Epic’ (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1958), ‘Hear and Forgive’ (Llundain: Victor Edlancz, 1952), a ‘Treason’ (addasiad o waith Saunders Lewis ‘Brad’, 1958), yn cynnwys toriadau o The Radio Times, John O’London’s Weekly, Daily Post, The Observer, Northern Daily Mail, Knutsford Guardian, Warrington Guardian, The Scotsman, The Star, The Radio Times, The Evening Chronicle, Nottingham Evening Post, Northants Evening Telegraph, Brighton Evening Argus, Sunday Times, Daily Telegraph, The Times, Manchester Evening News, Yorkshire Post, Bradford Telegraph & Argus, Birmingham Evening Dispatch, South Wales Argus, Bournemouth Evening Echo, Daily Worker, The Listener, Y Cymro, Daily Express, Edinburgh Evening News, The New York Times Book Review, The Spectator, The Western Mail, The Illustrated London News, South Wales Echo, Time & Tide, Belfast Newsletter, Good Housekeeping, The New Statesman, New York Herald Tribune, The Washington Post, Boston Christian Science Monitor, The Sunday Mail, Dallas Times Herald, Sunday Statesman, Baltimore Evening Sun, Punch, Glasgow Herald, The Press (NZ), The West Australian, Y Faner, The Flintshire Observer, a’r South Wales Evening Post. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys teipysgrif o adolygiad gan Emyr Humphreys o ‘Collected Poems’ gan Kathleen Raine (Llundain: H. Hamilton, 1956) ac ‘One Foot in Eden’ gan Edwin Muir (Llundain: Faber, 1956); copi o’r llyfryn ‘Essays’, rhifyn 5 (1951); siacedi llwch gwreiddiol ar gyfer ‘A Man’s Estate’ a ‘Hear and Forgive’; copi o nodyn gan Saunders [Lewis] ([?1958]); a thelegram gan Gwyn Thomas. / Press cuttings (1950-1959) relating to Emyr Humphreys’ works ‘The Italian Wife’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1957), ‘A Change of Heart’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1951), ‘A Man’s Estate’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1955), ‘A Toy Epic’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1958), ‘Hear and Forgive’ (London: Victor Edlancz, 1952), and ‘Treason’ (adaptation of Saunders Lewis’s ‘Brad’, 1958), including cuttings from The Radio Times, John O’London’s Weekly, Daily Post, The Observer, Northern Daily Mail, Knutsford Guardian, Warrington Guardian, The Scotsman, The Star, The Radio Times, The Evening Chronicle, Nottingham Evening Post, Northants Evening Telegraph, Brighton Evening Argus, Sunday Times, Daily Telegraph, The Times, Manchester Evening News, Yorkshire Post, Bradford Telegraph & Argus, Birmingham Evening Dispatch, South Wales Argus, Bournemouth Evening Echo, Daily Worker, The Listener, Y Cymro, Daily Express, Edinburgh Evening News, The New York Times Book Review, The Spectator, The Western Mail, The Illustrated London News, South Wales Echo, Time & Tide, Belfast Newsletter, Good Housekeeping, The New Statesman, New York Herald Tribune, The Washington Post, Boston Christian Science Monitor, The Sunday Mail, Dallas Times Herald, Sunday Statesman, Baltimore Evening Sun, Punch, Glasgow Herald, The Press (NZ), The West Australian, Y Faner, The Flintshire Observer, and South Wales Evening Post. The file also contains a typescript of a review by Emyr Humphreys of ‘Collected Poems’ by Kathleen Raine (London: H. Hamilton, 1956) and ‘One Foot in Eden’ by Edwin Muir (London: Faber, 1956); a copy of the booklet ‘Essays’, issue 5 (1951); original dust jackets for ‘A Man’s Estate’ and ‘Hear and Forgive’; a copy of a note from Saunders [Lewis] ([?1958]); and a telegram from Gwyn Thomas.

Ffotograffau / Photographs

Ffotograffau du a gwyn yn dangos cynyrchiadau o ddramâu teledu’r BBC, yn cynnwys dau o gynhyrchiad y BBC o ‘Esther’ gan Saunders Lewis (1961); dau o gynhyrchiad y BBC o ‘Treason’ gan Saunders Lewis (1959); un o gynhyrchiad y BBC o ddrama gan W. S. Jones ‘A Car in the Thicket’ (1959); a thri llun arall yn ymwneud â chynyrchiadau teledu (di-deitl a heb ddyddiad). / Black and white photographs depicting productions of BBC television plays, consisting of two of the BBC production of Saunders Lewis’s ‘Esther’ (1961); two of the BBC production of Saunders Lewis’s ‘Treason’ (1959); one from BBC production of W. S. Jones's play ‘A Car in the Thicket’ (1959); and three other photographs relating to TV productions (untitled and undated).

'The Shilling (Insurance) Man' / 'The Stumbling Block'

Dwy sgript (y ddwy wedi’u dyddio 1963), yn cynnwys teipysgrif o sgript ar gyfer drama lwyfan o’r enw ‘The Shilling (Insurance) Man’, cyfieithiad Saesneg gan Emyr Humphreys o ‘Y Dyn Swllt’ gan W.S. Jones; a chopi teipysgrif o sgript ar gyfer drama deledu gyda’r teitl ‘The Stumbling Block’ gan John Gwilym Jones, cyfieithiad o’r fersiwn Gymraeg wreiddiol gan Emyr Humphreys. / Two scripts (both dated 1963), consisting of a typescript of a script for a stage play titled ‘The Shilling (Insurance) Man’, an English translation by Emyr Humphreys of ‘Y Dyn Swllt’ by W.S. Jones; and a typescript copy of a script for a television play titled ‘The Stumbling Block’ by John Gwilym Jones, a translation of the original Welsh version by Emyr Humphreys.

'Reg'

Copi teipysgrif o sgript ar gyfer drama lwyfan heb ei pherfformio gan Emyr Humphreys, dan y teitl ‘Reg’ ([c.1964]). / A typescript copy of a script for an unperformed stage play by Emyr Humphreys, titled ‘Reg’ ([c.1964]).

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Deg llyfr nodiadau poced (pob un heb ddyddiad), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys ac yn cynnwys drafftiau o farddoniaeth, dwdlau, a chyfeiriadau, ynghyd â cherdyn trwydded yrru Emyr Humprehys (1954-1961), copi o 'British Painting 40 -49' (1966), a nifer o ffotograffau bychain ([?1930au]). Mae'r bwndel hefyd yn cynnwys llyfr nodiadau (1926) mewn sawl llaw wahanol, wedi'i lofnodi gan y Parch. Griffith Jones, Llanwnda, ac yn cynnwys nodiadau ar 'Natur Eglwys', barddoniaeth, a rhestr rhoddion. / Ten pocket notebooks (all undated), containing manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys and consisting of drafts of poetry, doodles, and addresses, together with Emyr Humprehys' driving licence card (1954-1961), a copy of 'British Painting 40-49' (1966), and a number of small photographs ([?1930s]). The bundle also contains a notebook (1926) written in several different hands, signed by Rev. Griffith Jones, Llanwnda, and containing notes on 'Natur Eglwys', poetry, and a donations list.

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg (1962-3; 1965; 1967) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'The Gift' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1963), 'Outside the House of Baal' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1965), a' Natives’ (Llundain: Secker & Warburg, 1968), gan gynnwys toriadau o The Sunday Times, The Times, The Spectator, Punch, Sunday Telegraph, Yorkshire Post, The Guardian, Western Mail, a Television Weekly. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copïau o siacedi llwch ar gyfer ‘Natives’ a ‘The Gift’; a llythyrau (1960; 1963-5) oddi wrth David Cecil (3) a Maurice Temple Smith (1). / Press cuttings (1962-3; 1965; 1967) relating to Emyr Humphreys’ works ‘The Gift’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1963), ‘Outside the House of Baal’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1965), and ‘Natives’ (London: Secker & Warburg, 1968), including cuttings from The Sunday Times, The Times, The Spectator, Punch, Sunday Telegraph, Yorkshire Post, The Guardian, Western Mail, and Television Weekly. The file also contains copies of dust jackets for ‘Natives’ and ‘The Gift’; and letters (1960; 1963-5) from David Cecil (3) and Maurice Temple Smith (1).

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg (1962-3; 1965; 1968) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'The Gift' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1963), 'Outside the House of Baal' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1965), a' Natives’ (Llundain: Secker & Warburg, 1968), gan gynnwys toriadau o Y Tyst, The Yorkshire Post, The South Wales Echo, The Observer, The Radio Times, The Times, The Irish Times, The Guardian, The Sunday Times, The Sunday Telegraph, Punch, The Spectator, The Times Literary Supplement, The Listener, The New Statesman, a Trade News. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o siacedi llwch ar gyfer ‘Natives’; a llythyrau (1964-5) oddi wrth Maurice Temple Smith (1) a David Cecil (1). / Press cuttings (1962-3; 1965; 1968) relating to Emyr Humphreys’ works ‘The Gift’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1963), ‘Outside the House of Baal’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1965), and ‘Natives’ (London: Secker & Warburg, 1968), including cuttings from Y Tyst, The Yorkshire Post, The South Wales Echo, The Observer, The Radio Times, The Times, The Irish Times, The Guardian, The Sunday Times, The Sunday Telegraph, Punch, The Spectator, The Times Literary Supplement, The Listener, The New Statesman, and Trade News. The file also contains a copy of the dust jacket for ‘Natives’; and letters (1964-5) from Maurice Temple Smith (1) and David Cecil (1).

Cytundebau cyhoeddi / Publishing contracts

Cytundebau cyhoeddwyr (1943-1969), gan gynnwys cytundebau a memoranda o gytundebau, ar gyfer gweithiau gan Emyr Humphreys, gan gynnwys y nofelau 'A Man's Estate', 'Hear and Forgive', 'Natives', 'Wales', 'The Law Within (The Little Kingdom'), 'The Italian Wife', ac 'A Toy Epic'; a’r ddrama ‘The Fortress’; yn ogystal â gweithiau gyda’r teitlau ‘Shoulder on the Stone’, ‘An Apple Tree and a Pig’ a ‘Roman Dream’ (gydag Alun Hoddinott), a chytundebau ar gyfer pedwar darn arall o waith di-deitl. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth gysylltiedig, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Emyr Humphreys (1), Maurice [?] (1) (Eyre & Spottiswoode), Victor Gollancz (1), David Higham Associates (1), a Paul Scott (1). / Publisher’s contracts (1943-1969), including agreements and memoranda of contracts, for works by Emyr Humphreys, including the novels ‘A Man’s Estate’, ‘Hear and Forgive’, ‘Natives’, ‘Wales’, ‘The Law Within (The Little Kingdom)’, ‘The Italian Wife’, and ‘A Toy Epic’; and the play ‘The Fortress’; in addition to works titled ‘Shoulder on the Stone’, ‘An Apple Tree and a Pig’ and ‘Roman Dream (with Alun Hoddinott), and agreements for four other untitled works. The file also contains related correspondence, including letters from Emyr Humphreys (1), Maurice [?] (1) (Eyre & Spottiswoode), Victor Gollancz (1), David Higham Associates (1), and Paul Scott (1).

Nodiadau cynnar / Early notes

Nodiadau llawysgrif di-deitl yn llaw Emyr Humphreys (1969), yn ymwneud yn ôl pob tebyg â’r gyfres ‘Land of the Living’ ac yn ymwneud yn bennaf â’r cymeriad ‘Peredur’, ynghyd â drafftiau o farddoniaeth a rhai nodiadau mewn llaw wahanol. / Untitled manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys (1969), apparently relating to the ‘Land of the Living’ series and mainly regarding the character ‘Peredur’, along with drafts of poetry and some notes in a different hand.

Drafftiau llawysgrif / Manuscript drafts

Tri llyfr nodiadau bach (1968-[?1971]), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys yn cynnwys drafftiau o gerddi o'r enw 'Branwen's Starling', 'A Household in the South', 'Didactic', 'Poet of the Old North', ‘Epitaph for a small arms manufacturer’, a ‘Pwyll a Rhiannon’, y cyhoeddwyd rhai ohonynt yn ddiweddarach yn ‘Collected Poems’ (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999). Mae’r llyfrau nodiadau hefyd yn cynnwys amryw o nodiadau eraill o’r enw ‘The Keyboard & the Scenic Method’, ‘Wittgenstein’, ac ‘Anna Karenina’; a nodiadau yn ymwneud â sgript ffilm o’r enw ‘Airy Tomb’, yn seiliedig ar y gerdd gan R. S. Thomas ([?1962]). / Three small notebooks (1968-[?1971]), containing manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys including drafts of poems titled ‘Branwen’s Starling’, ‘A Household in the South’, ‘Didactic’, ‘Poet of the Old North’, ‘Epitaph for a small arms manufacturer’, and ‘Pwyll a Rhiannon’, some of which were later published in ‘Collected Poems’ (Cardiff: University of Wales Press, 1999). The notebooks also include various other notes titled ‘The Keyboard & the Scenic Method’, ‘Wittgenstein’, and ‘Anna Karenina’; and notes relating to a film script titled ‘Airy Tomb’, based on the poem by R. S. Thomas ([?1962]).

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Nodiadau a drafftiau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys (c.1971), yn ymwneud yn bennaf â datblygiad y gyfres ‘Land of the Living’ a’r nofel ‘Bonds of Attachment’ (a gyhoedwyd gyntaf gan London: Macdonald, 1991). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys drafftiau o farddoniaeth; drafft o draethawd di-deitl; toriad o'r wasg (1958); a chopi o deithlen ar gyfer ymweliadau ysgol (1964). / Various manuscript notes and drafts in the hand of Emyr Humphreys (c.1971), mainly relating to the development of the ‘Land of the Living’ series and the novel ‘Bonds of Attachment’ (first published London: Macdonald, 1991). The file also includes drafts of poetry; a draft of an untitled essay; a press cutting (1958); and a copy of an itinerary for school visits (1964).

Results 1 to 20 of 297