Dangos 2258 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Carneddog Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ap Rambler [John Morgan].

Los Angeles. Anfon The Druid a gofyn iddo ei anfon ymlaen at Edward Jones, Llanwnda ar ôl gorffen ag ef. Saesneg/Engish.

Ap Glaslyn [Y Parch. John Owen],

Llanbradach. Llythyr galar yn diolch i Carneddog am ei gydymdeimlad ar golli ei wraig ac yn disgrifio ychydig ar yr angladd. Ceir toriad allan o'r Western Mail hefyd yn sôn amdani.

Ap Cenin, John Roberts,

Llanfairfechan. Llythyr anghyflawn yn sôn am ei daith gyda Humphrey Roberts i'r man lle daliwyd ein Llyw Olaf. Ceir nifer o englynion ganddo. Sôn am salwch Eifion Wyn (anghyflawn).

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Llythyr personol yn trafod ychydig ar sefyllfa'r wlad. Mae'n anfon saith englyn cyflawn ac un anghyflawn at Carneddog.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Ceir hanes y teulu, dathlu canmlwyddiant pont Conwy pryd y bu Cynan yn actio. Cofio am y cyfarfodydd llenyddol gynt a sôn am lythyr oddi wrth Gwilym Deudraeth gydag englynion.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Ychydig hanes teuluol a hanes ei deithiau yn ystod yr haf gydag ambell stori ddifyr ac englyn.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Diolch am gydymdeimlad Carneddog ar golli ei fam. Ceir ychydig o'i hanes ac englyn coffa iddi.

Canlyniadau 2161 i 2180 o 2258