St Anne's-on-Sea. Tywydd. Llongyfarch Carneddog ar ei briodas aur gydag atgofion o'r diwrnod. Toriad papur newydd am y Parchedig John Lewis o'r Rhondda a adeiladodd gapel yn Tyldesly, swydd Gaerhirfryn.
14 Cudworth Road, St Anne's-on-Sea. Trafod y rhyfel a chrefydd. Y tywydd - eira a rhew mawr 1879 ac 1895. Anfon llith ar 'hen ddarluniau' a 'cân y gog' (yn eisiau). Trafod y gair 'ffyniant'.
2 Cambrian Terrace, Llanberis. Tudalen olaf llythyr yn mynegi siom ac yn ymddiheuro am fethu â chyfarfod Carneddog yng Nghwmdyli gan ddisgrifio ei symudiadau. Cyfeirio at rhai gwallau yn Gwreichion Diwygiadau (anghyflawn).
863 Shepard Avenue, Milwaukee, USA. Llythyr personol teipiedig. Canmol Carneddog. Sôn am amryw gymeriadau a weithiai gyda'r cwmni yswiriant yn Milwaukee. Sôn ychydig am y teithiau i'r eisteddfod.
Y Foel Gwnus, Llithfaen. Hiraeth ar ôl ei ddiweddar dad [Richard O. Jones]. Bwriadu ysgrifennu ei hanes a chofnodi ei ddywediadau. Rhoi braslun o'i fywyd a'i waith.
Foel Gwnus, Llithfaen. Gresyn iddo golli'r Eisteddfod eleni eto. Bu T. E. Nicholas yn darlithio ar dwyll Chamberlain - Sôn am ei lith wythnosol yn Y Cymro. Mwynhau ysgrif Canwy.
Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Sôn am amryw bobl megis Prosser Rees, Richard Hughes, Ioan Brothen, Tegfelyn, Eifion Wyn, Bob Owen, Kelt ac eraill. Annog Carneddog i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1925.