Print preview Close

Showing 2204 results

Archival description
Papurau Carneddog File
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

John W. Jones,

Minffordd, Oakeley Square, Blaenau Ffestiniog. Llythyr yn trafod gwerthu cyfrolau Carneddog. Anfon ei ysgrif gyntaf ar Eifion Wyn iddo. Sôn am Ioan Brothen ac amryw eraill.

John W. Jones,

[Minffordd, Oakeley Square, Blaenau Ffestiniog]. Trafod casglu'r arian tuag at gofgolofn Eifion Wyn. Trafod casgliadau llyfrau amryw o bobl a gwerthu cyfrolau Carneddog. Sôn am Tomos Jones. Ceir llythyr Saesneg hefyd yn gofyn am arian tuag at y gofgolofn.

John W. Jones.

Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Iechyd ei wraig. Sôn am amryw bobl e.e. Ioan Brothen, Bob Owen, "Owen Davies y Post". Trafod llyfrau Owen Williams, Dinbych, a Dyddgwaith Dr Gwynn Jones a chofiant Gwili. Taith i'r Llyfrgell Genedlaethol.

J. W. Jones,

Minffordd, Oakeley Square, Blaenau Ffestiniog. Holi ynghylch y teulu a iechyd Carneddog. Siarad am ei waith. Crybwyll rhyfel ac afiechyd Evan Emlyn.

J. W. Jones,

Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Llythyr yn trafod y rhyfel yn bennaf gan grybwyll Eisteddfod Genedlaethol Dinbych (llythyr anghyflawn).

John W. Jones,

Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Llythyr at Mrs Griffith yn Hinckley. Sôn am iechyd, crybwyll Bob Owen ac R. E. Davies; y newid sydd wedi digwydd ym Meddgelert a'r ardal. Dymuno Nadolig Llawen.

John W. Jones,

Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. At Mrs Griffith a'r teulu. Diolch iddi am hanes Isallt a sôn ychydig amdano. Sôn am Bob Owen, R. E. Davies, gwraig Eifion Wyn a'r plant a'r newid ym Mhorthmadog. Dymuno Blwyddyn Newydd Dda.

Henry Owen at 'Cyfaill',

Middle Granville, Washington. Llythyr yn ceisio perswadio ei gyfaill rhag ymfudo i'r Amerig gan roi rhesymau a disgrifio sefyllfa'r wlad.

Job Owen,

Llanberis. Gofyn i Carneddog geisio cael ei ysgrifau ar 'Hynafiaethau Nantgwynant' etc., yn ôl oddi wrth O. M. Edwards.

Ap Glaslyn [Y Parch. John Owen],

Llanbradach. Llythyr galar yn diolch i Carneddog am ei gydymdeimlad ar golli ei wraig ac yn disgrifio ychydig ar yr angladd. Ceir toriad allan o'r Western Mail hefyd yn sôn amdani.

John Owen,

Bryn Beuno, Caernarfon. Gofyn am gopi o Tannau Tegfelyn. Dymuno'n dda.

Lizzie Brothen Owen,

Bebington. Diolch i Carneddog am ei eiriau caredig am ei rhieni. Bwriadu cadw llyfr o waith ei thad. Holi hynt Miss Mary Thomas o Coventry.

Owen Owens,

Caergethin, Harlech. Anfon pedwerydd pennill rhyw gerdd i'r 'Manion'.

Owen Owens.

Rhosdai Dinorwig, Deiniolen. Anfon rhai cerddi o glywodd gan glaf arall tra yn yr ysbyty. Sôn am Eryri, cerdd yn amgaeedig.

Owen J. Owen,

Penrallt, Pen-y-groes. Disgrifio rhai o hen drigolion Nant Gwynant.

Results 2161 to 2180 of 2204