Gaerwen, Rhostryfan. Talu am gopi o Cerddi Eryri - rhoi enwau prynwyr eraill iddo. Sôn am farwolaeth ei frawd-yng-nghyfraith gydag englyn gan ewythr hwnnw, sef Owain Dinorwig, yn ei funudau olaf:. 'Heno'r wyf yn yr afon - mewn lli. Mae'n llawn hyd yr ymylon.'.
1 Jones Street, Blaenau Ffestiniog. Cyflwyno ei hun. Sôn am farw John a Margaret Roberts - egluro ei berthynas â hwy. Sôn am afiechyd John Davies, 2 Bowydd View.
96 Watergate Flags, Chester. Talu am gyfrolau o Cerddi Eryri. Canmol gwaith Carneddog yn y Geninen a'r Cymru. Egluro mai 'mab y mynydd' ydyw yntau - Sôn am ei dras.
Ty'n y Coed, Llanrhychwyn, Trefriw. Atgofion taith i'w hen gartref genedigol. Ceir englyn o feddargraff, hen bennill yr arferai ei dad ei adrodd, a phennill o'i eiddo ef ei hunan.