Print preview Close

Showing 2204 results

Archival description
Papurau Carneddog File
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

John E. Jones (Ioan Gwynant),

2 Cambrian Terrace, Llanberis. 'Trydydd Epistol' Ioan yn sôn am ei gardota o le i le ac o ddrws i ddrws am hen emynau ac yn anfon ychydig ohonynt (yn eisiau) nad oedd yn ymddangos yn Llyfr Emynau y Cyssecr a rhai yn llawysgrif Elidirfab.

John E. Jones (Ioan Gwynant),

2 Cambrian Terrace, Llanberis. Sôn am ei lwyddiant yn gwerthu Gwreichion i Carneddog; a theitlau cyfrol a werthodd i fachgen yn Llanberis. Sôn am fwriad Carneddog ac yntau i ymweld â Chwmdyli a threfnu cwrdd. Atgofion dyddiau ysgol. Rhagor o emynau (yn eisiau).

John E. Jones (Ioan Gwynant),

2 Cambrian Terrace, Llanberis. Llythyr yn ymwneud â chasgliad Carneddog o atgofion am y diweddar William Wmffra o Dan-y-Bryn. Rhoi hanes amdano fel adroddwr a chantor.

John E. Jones (Ioan Gwynant),

Rhif Ail Rhestai'r Cambrian, Llanberis. Llythyr yn sôn am enwogion plwyf Beddgelert sef Howel Ellis a Henry Thomas, hefyd ei hiraeth ar farwolaeth ei frawd, Ebenezer. Cydymdeimlo â Charneddog ar golli ei frawd yntau. Ceir englyn i Ebenezer gan Elidirfab - (John Ellis Jones).

J. Jones (Ioan Gwynant),

Bryntirion, Llanberis. Anfon ychydig ddalennau allan o ddyddlyfr ei ddiweddar fab, Hugh J. Jones, a ysgrifennodd yn Nwyrain Affrica adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir dau bennill o'i eiddo ac un o eiddo Ioan Gwynant.

Ioan Brothen (John O. Jones),

Garreg Ganol [Llanfrothen]. Llythyr gyda thelyneg ac englyn (yn eisiau) i'r 'Manion'. Sôn ychydig am ei waith, sôn am gelyn a dymuno Nadolig Llawen.

J. W. Jones.

Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Llythyr wedi ei anfon gyda cherdd i'r 'Manion' (yn eisiau). Crybwyll Dewi Glan Dulas Gwilym Ychain, Bob Owen, Anthropos, Bob Ellis, R. E. Jones. Dymuno Nadolig Llawen.

J. W. Jones.

Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Trafod cofgolofn Eifion Wyn, sôn am Gwilym Deudraeth a'i atgofion ac ambell gymeriad arall.

John [W. Jones],

[Minffordd, Oakeley Square, Blaenau Ffestiniog]. Cerdyn post yn gofyn am ychydig o hanes Eifion Wyn.

John W. Jones,

Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Llythyr yn cwyno am ei iechyd a iechyd ei wraig. Sôn am leidr a ddygodd agoriad ei dy, am Robert Jones, Bryn Brisgyll. Dymuno Nadolig Llawen.

John W. Jones,

Minffordd, Oakeley Square, [Blaenau Ffestiniog]. Llythyr yn mynegi tristwch (o golli ei wraig).

Results 161 to 180 of 2204