Showing 2204 results

Archival description
Papurau Carneddog File
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Ellen Evans,

Alpha, Llithfaen. Diolch am roi sylw i'w chynnyrch. Toriad papur o englynion gan Carneddog er cof am Mrs Humphreys, Clogwyn Gwin.

G. Evans.

Islwyn, Nant Gwynant. Siomedig am nad ymddangosodd ei adroddiad ar yr Eisteddfod yn y 'Manion'.

Griffith Evans,

Pen-y-bont, Bryncroes. Anfon hanes llongddrylliad y 'Cyprian' ger Porthdin-llaen.

Hugh Evans,

356-8 Stanley Road, Lerpwl. Trafod prisiau llyfrwerthwyr.

John Evans,

Bryn Goleu, Harlech. Diolch am O Greigiau'r Grug. Sôn am Ellis Wynne a'i fab William Wynne.

John H. Evans.

8 West End, Tanygrisiau. Amgau cân i'r 'Manion' wedi ei chyfansoddi uwch fedd rhieni ei ffrind.

John T. Evans,

30 Denbigh Street, Llanrwst. Llythyr yn gofyn am gopi o Cerddi Eryri. Saesneg/English.

K. Evans,

Bryn Estyn, Llanfairfechan. Diolch am ddyfynnu englyn o waith ei thad yn y 'Manion'.

M. Evans.

Bodorwen. Cydnabod derbyn y parsel. Anfon yr arian am y llyfrau. Ei thad yn parhau i wella.

Richard Evans,

Adferle, Pwllheli. Diolch am y nodion, ateb ychydig o gwestiynau Carneddog.

Mrs Robert Evans,

52 Croxteth Road, Lerpwl. Llythyr yn hysbysu Carneddog bod ei gwr wedi marw flwyddyn ynghynt, gan ddychwelyd y llyfr.

Jane,

Cricieth. Pen blwydd hapus yn bedwar ugain oed.

Results 221 to 240 of 2204