Print preview Close

Showing 2258 results

Archival description
Papurau Carneddog
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

J. Evans,

Llyfrgell y Sir, Y Drenewydd. Anfon arian am dri chopi o Cerddi Eryri; mae arno angen derbynneb.

John H. Evans.

8 West End, Tanygrisiau. Anfon emyn i'r 'Manion', 'Gweddi ar ran y Byd', a dymuno pen blwydd hapus iddo.

M. Evans.

Factory, Pren-teg. Rhoi ychydig o'i hanes iddo. Mae'n barod i geisio gwerthu rhai o'i lyfrau.

Owen Evans,

High Street, Y Bala. Dadorchuddio cofgolofn i [Dewi] Havhesp, anfon gwahoddiad iddo ddod yno.

R. H. Evans,

Barclays Bank Chambers, Pwllheli. Wedi gweld darlun gan J. C. Rowlands, gofyn am ychydig o hanes y gwr.

Taliesin Evans,

Buena Vista Avenue, Hameda, California. Sôn am dorion papur o'r Herald o ysgrifau D. R. Davies a Charneddog, holi am hanes Eisteddfod yr Wyddgrug.

W. Evans,

Hafodydd, Nant Gwynant. Hysbysu Carneddog mai gwr o'r enw C. A. Gresham oedd wedi prynu Llwyn-yr-hwch, gan roi ychydig o'i hanes.

John Aber Jones,

St Anne's-on-Sea. Sôn am Ffair Wyl Grog Beddgelert (21 Medi) a chyfeirio at nodyn gan Carneddog yn y 'Manion' (16 Medi 1935) ynglyn â 'dwr y lefal goch'.

John Aber Jones,

14 Cudworth Road, St Anne's on Sea. Llythyr i'r 'Manion' yn amgau copi o lythyr oddi wrth ei ewythr D. Gethin Jones a sôn am lyfrau 'codi cythreuliaid'.

John Aber Jones,

14 Cudworth Road, St Anne's on Sea. Llythyr wedi ei anfon gyda llith i'r 'Manion'. Ceir ôn am lith o'r Herald yn sôn am gwn yn gweithio; crybwyll ceisio prynu llyfr (a ddisgrifiwyd ganddo yn ei lythyr diwethaf).

John Aber Jones,

St Anne's-on-Sea. Tywydd. Llongyfarch Carneddog ar ei briodas aur gydag atgofion o'r diwrnod. Toriad papur newydd am y Parchedig John Lewis o'r Rhondda a adeiladodd gapel yn Tyldesly, swydd Gaerhirfryn.

John Aber Jones,

14 Cudworth Road, St Anne's-on-Sea. Trafod y rhyfel a chrefydd. Y tywydd - eira a rhew mawr 1879 ac 1895. Anfon llith ar 'hen ddarluniau' a 'cân y gog' (yn eisiau). Trafod y gair 'ffyniant'.

John Aber Jones,

14 Cudworth Road, St Anne's-on-Sea. Llythyr yn disgrifio a mynegi barn ar y rhyfel yn bennaf.

John Aber Jones,

14 Cudworth Road, St Anne's-on-Sea. Trafod iechyd, 'Lady' Buckley, y rhyfel, Meuryn yn siarad am Evan Roberts ar y radio a'r ffurf 'ugian'.

John E. Jones (Ioan Gwynant),

2 Cambrian Terrace, Llanberis. Tudalen olaf llythyr yn mynegi siom ac yn ymddiheuro am fethu â chyfarfod Carneddog yng Nghwmdyli gan ddisgrifio ei symudiadau. Cyfeirio at rhai gwallau yn Gwreichion Diwygiadau (anghyflawn).

Results 2181 to 2200 of 2258