Showing 2258 results

Archival description
Papurau Carneddog Welsh
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau Carneddog

  • GB 0210 CARNEDDOG
  • Fonds
  • 1743-1947 (crynhowyd c.1880]-1947) /

Papurau Carneddog a rhai a gasglwyd ganddo, 1743-1947, yn cynnwys rhyddiaith a barddoniaeth ganddo ef ac eraill ar gyfer eu cyhoeddi, yn cynnwys colofn 'Manion o'r Mynydd'; torion papur newydd o'i waith ef ac eraill; gwaith gan awduron adnabyddus a gasglodd, yn eu mysg cerddi David W. Morris ('Dewi Glan Dulas', 1853-95) a dyfyniadau cywyddwyr; ei nodiadau bywgraffiadol ar awduron; papurau personol a theuluol, yn cynnwys llythyrau a anfonwyd ganddo o Iwerddon, pan oedd yn gwella o salwch yn 1899; swm sylweddol o ddeunydd yn ymwneud â hanes Beddgelert a phlwyfi cyfagos, yn cynnwys llyfrau lloffion gyda nodiadau llawn, copi llawysgrif o hanes Beddgelert a nifer o deuluoedd lleol, a llyfr rent Carneddi, 1743-1832; a nifer fawr o lythyrau at Garneddog, llawer ohonynt yn ymwneud â'i golofn yn yr Herald, a hefyd yn cynnwys llythyrau gan awduron Cymreig a llythyrau o UDA ac Awstralia. = Papers, 1743-1947, of and collected by Carneddog, comprising prose and poetry by him and others towards publications including the 'Manion o'r Mynydd' column; newspaper cuttings of his own work and that of others; works by well-known authors collected by him, including poems of David W. Morris ('Dewi Glan Dulas', 1853-95) and quotations from the cywyddwyr; biographical notes by him on authors; personal and family papers, including letters sent by him from Ireland, where he was recuperating from illness in 1899; a considerable amount of material relating to the history of Beddgelert and neighbouring parishes, including fully annotated scrapbooks, a manuscript history of Beddgelert and of several local families, and a rent book from Carneddi, 1743-1832; and a large number of letters to Carneddog, many of them relating to his column in the Herald, and also including letters of Welsh authors and letters from the USA and Australia.

Carneddog, 1861-1947.

Llew Jones,

Gorsafle, Ystradgynlais. Llongyfarch Carneddog ar ennill yn Eisteddfod Pwllheli ar ei gasgliad o faledi. Archebu copi o'r gyfrol [Cerddi Eryri]. Crybwyll buddugoliaethau o'i eiddo yntau mewn eisteddfodau (ceir englyn i'r 'Clo'. Sôn am ei iechyd. Hiraeth ar ôl enwogion y dydd, e.e. Eifion Wyn. Sôn am streic y glowyr haf y llynedd.

Llew Jones,

Gorsafle, Ystradgynlais. Creunantydd (John Morgan) am gael copi o Cerddi Eryri. Amgau englyn i'r "Arwerthwr", cyd-fuddugol yn Eisteddfod Crai.

Mrs M. Jones,

Dôl Maen, Porthaethwy. Nodiadau am Llinos Alltwen i'r 'Manion' ar ôl ei marw ar 8 Mawrth.

Mary Jones,

6 London Terrace, Pren-teg, Porthmadog. Dymuno i'r penillion amgaeedig am ei mam gael eu rhoi yn Yr Herald.

Richard Jones,

Bodawen, Porthmadog. Llythyr wedi ei anfon at Mr Hughes yn wreiddiol yn sôn am ddau frawd a aeth i Awstralia.

Richard Jones,

Cae Newydd, Llithfaen. Cyflwyno ei hun. Gofyn a oes copi o'r llyfr Lloches Mwyneiddra ganddo.

Robert Evan Jones,

14 Columbus Street, Granville, N.Y. Llythyr yn archebu copi o Hen Gerddi Sir Gaernarfon ac yn sôn am ei gysylltiadau teuluol yng Nghymru.

Robert Evan Jones,

14 Columbus Street, Granville, N.Y. Llythyr gyda'r arian yn ddyledus am y cyfrolau yn amgaeedig. Hanes sut y gwerthodd ei gopi ef ei hun.

Results 1 to 20 of 2258