Print preview Close

Showing 1130 results

Archival description
Papurau D. G. Lloyd Hughes, File
Advanced search options
Print preview View:

Mapiau.

(A) Arolwg Ordnans 1811-12; 2.5" (ffeil & rhôl); (b) Arolwg Ordnans 1830; Carms. 41/6; (c) Ardal New Inn; 25" (rhôl); (ch) Plwyf Llanfihangel-ar-Arth; 6" (rhôl).

Rhan o ddyddiadur y Parch. David Evan Davies,

Aeth o Bwllheli i Gaernarfon yn 1896, ac oddi yno i Gaerdydd yn 1904, cyn dychwelyd i Bwllheli yn 1905. Mae'r dyddiadur yn sôn am y croeso dderbyniodd gan rai o wyr blaenllaw Pwllheli yn 1905. Mae'r dyddiadur hefyd yn cynnwys sylwadau dyddiedig 2 Chwefror 1901, diwrnod angladd y Frenhines Victoria, sy'n fynegiant arwyddocaol o'r serch at y teulu brenhinol, megis: 'Diwrnod ar ei ben ei hun yn hanes y byd. Diwrnod claddu un o'r Penaduriaid goreu welodd y byd o'i ddechreu. Y mae yn ddiwrnod o alar cyffredinol ym mhob gwlad wareiddiedig ar wyneb y ddaear. Yr oedd y frenhines Victoria wedi gwneud ei hun yn wrthrych edmygedd a pharch pob gradd a sefyllfa ym mhob gwlad, ac wedi gwneud ei hun yn annwyl gan bawb oedd yn gwerthfawrogi cymeriad Cristnogol sydd wedi lefeinio cylchoedd uchaf cymdeithas a'i dylanwad crefyddol. Bydded i Lywodraethwr Mawr y Bydoedd wneud ei mab yn debyg iddi'.

Results 141 to 160 of 1130