Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 1149 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archifau Urdd Gobaith Cymru
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llyfr lloffion 1

Llyfr lloffion Aelwyd Caernarfon rhwng 1944 a 1956 yn cynnwys torriadau papur newydd, tystysgrifau a lluniau o weithgarwch amrywiol yr Aelwyd.

Cylchgronnau ac Adnoddau'r Urdd

Deunydd yn ymwneud â chreu a darparu adnoddau yn ymwneud â rhaglenni a digwyddiadau'r Urdd. Mae'r eitemau'n cynnwys gohebiaeth, pecynnau gwybodaeth, canllawiau a chylchgronau.

Pererindod i Dy Ddewi

Deunydd yn ymwneud â'r bererindod flynyddol i gyflwyno baner yr Urdd i wahanol eglwysi cadeiriol Cymreig ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys eitemau yn dogfennu'r bererindod olaf - i eglwys gadeiriol Tyddewi. Toriadau newyddion, ffeil prosiect, lluniau, rhaglenni.

Taith i Geneva a Llundain

Dyddiadur Susannah Thomas, Ysgol Dr Williams, Dolgellau, sy'n cynnwys nifer o ffotograffau a chardiau post, yn cofnodi taith i Geneva a Llundain ym 1931.

Neges Heddwch ac Ewyllys Da

Papurau yn ymwneud â gweinyddu'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, a all gynnwys testun y neges mewn amrywiol ieithoedd, rhaglenni ar gyfer Gwasanaethau Neges Heddwch ac Ewyllys Da, toriadau o’r wasg, ffurflenni gweinyddol, posteri, taflenni gwybodaeth.

Canlyniadau 981 i 1000 o 1149