Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 1149 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archifau Urdd Gobaith Cymru
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Y Gwersyll Llangollen

Albwm poced fechan yn cynnwys ffotograffau o Wersyll yr Urdd, Llangollen 1929; cardiau post ffotograffig o Wersyll Bechgyn (Llangollen) 1930.

Pererindod i Dy Ddewi

Deunydd yn ymwneud â'r bererindod flynyddol i gyflwyno baner yr Urdd i wahanol eglwysi cadeiriol Cymreig ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys eitemau yn dogfennu'r bererindod olaf - i eglwys gadeiriol Tyddewi. Toriadau newyddion, ffeil prosiect, lluniau, rhaglenni.

Taith i Geneva a Llundain

Dyddiadur Susannah Thomas, Ysgol Dr Williams, Dolgellau, sy'n cynnwys nifer o ffotograffau a chardiau post, yn cofnodi taith i Geneva a Llundain ym 1931.

Dathlu'r mudiad

Eitemau printiedig gan gynnwys Yr Urdd (1943); Cofiant i Owen M. Edwards (1959); Teyrnged i Syr Ifan ap Owen Edwards (1970); Y Llinyn Arian (1941); Catalog llyfrau Gwasg Gomer (1947-8); Bywyd a Gwaith O.M. Edwards (1958).

Taflennu gwybodaeth

Taflenni printiedig a ddefnyddir i hyrwyddo neu gofnodi amrywiol polisïau, adnoddau, gweithgareddau a digwyddiadau'r Urdd.

Dramâu Cymraeg

Casgliad o ddramâu Cymraeg printiedig, gan gynnwys rhai esiamplau o’r gyfres EPC: Cyfres Ddrama Gymreig a Chyfres y Brython, yn ogystal â'r rhai a gyhoeddir yn annibynnol. Gweithiau gan Wil Ifan, Eic Davies, J. M. Edwards, Helena Roberts a J. Ellis Williams, ymhlith eraill.

Swyddfa Aberystwyth

Papurau gweinyddol amrywiol yn cynnwys nodiadau staff, deunydd yn ymwneud a Jiwbilî hanner canmlwyddiant, llythyrau. Dau lyfr nodiadau R.E. Griffith; casgliad bychan o fathodynnau'r Urdd.

Canlyniadau 1001 i 1020 o 1149